Annog newdd-ddyfodiaid i gadw enwau Cymraeg gwreiddiol

16/01/2015

Categori: Gwleidyddiaeth, Hamdden, Iaith, Newyddion

Tresaith: pentref yng Ngheredigion

Y mae Cyngor Ceredigion yn ystyried cynlluniau i annog newdd-ddyfodiaid i’r sir i gadw enwau Cymraeg gwreiddiol eu cartrefi.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd y Cyngor Ceredigion fod y cynlluniau hyn dan ystyriaeth ac mai'r bwriad "yw cyd-fynd yn llwyr gyda Cynllun Iaith Gymraeg Ceredigion sy'n hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg."

 

Meddai, "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i hyrwyddo ac annog defnyddio enwau Cymraeg ar gyfer enwau tai, strydoedd, pentrefi a threfi yn y Sir. Y cam nesaf yw i gymryd y polisi diwygiedig i'r Cabinet i'w ystyried a'i benderfynu."

 

Ni fydd y Cyngor yn gallu gorfodi perchnogion i gadw enw’r eiddo yr un fath ond mynnodd Ellen ap Gwynn fod angen annog defnydd o'r Iaith Gymraeg.

 

Rhan o hunaniaeth

 

Meddai, ‘Mae Ceredigion yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, gyda'r iaith Gymraeg yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Yn un â'r iaith Gymraeg yw diwylliant cyfoethog ac unigryw, hanes a hunaniaeth y meysydd lleol a'r trigolion. Mae enw lle neu dŷ Cymraeg fel arfer yn cyfleu gwybodaeth am natur y lleoliad, am ei hanes, diwylliant yr ardal, neu'r bobl oedd yn arfer byw yno.

 

Annog perchnogion

 

"Er mwyn parchu’r traddodiad hwn sy'n rhan annatod o'r iaith Gymraeg, mae Pwyllgor yr Iaith Gymraeg wedi argymell y dylai Swyddog Rheoli Cyfeiriadau ohebu â pherchnogion cartrefi newydd, gan esbonio pwysigrwydd eu henw tŷ i dreftadaeth yr iaith Gymraeg a gofyn iddynt yn gwrtais i gadw at yr enwau gwreiddiol Cymraeg."

 

Ychwanegodd, "Bydd y polisi yn caniatáu perchnogion cartrefi newydd i 10 diwrnod gwaith i ystyried eu penderfyniad yn enwi eu cartref, fodd bynnag, bydd y penderfyniad terfynol yn gorwedd gyda pherchnogion y cartref."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net