Cymru'n dathlu Diwrnod y Llyfr

04/03/2021

Categori: Addysg, Ar-lein, Llenyddiaeth, Newyddion

Heddiw oedd Diwrnod y Llyfr ac mi roedd yn gyfle i filoedd o blant o bob oed fynd i'r ysgol yn gwisgo fel ei hoff gymeriad mewn llyfr.

O Sam Tan i Sali Mali, roedd teuluoedd wedi mynd i ymdrech gyda chymeriadau plant Cymru yn dod yn fyw i ddathlu'r diwrnod.

 

Bu llawer yn dathlu'r diwrnod mewn gwahanol ffyrdd - oedolion yn rhannu eu hoff nofel; yr oedd platfform Ambobdim yn cynnal sgyrsiau am 12 awr yn ddidor, tra fod sawl cystadleuaeth yn ymwneud a'r llyfr yn digwydd yn ystod y dydd. Mae'r dathliad yn profi fod llyfrau yr un mor boblogaidd ag erioed ac yn gysur mewn pandemig. 

 

Mae Lleol.cymru wedi dethol negeseuon yn ystod y dydd i glodfori'r llyfr. Mwynhewch y darllen!