Cymru yn plesio'r Rough Guide

04/01/2016

Categori: Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Wrth i Gymru ddechrau dathlu blwyddyn antur eleni, cafodd y diwydiant ymwelwyr yng Nghymru hwb amserol, wrth i wefan llyfrau tywys Rough Guide ddewis Cymru ymhlith 10 uchaf o leoliadau dros y byd i ymweld yn 2016.

 

Daeth Cymru yn 8fed yn y rhestr gyda Nepal yn mwynhau y safle cyntaf, gyda Cuba, Colombia, a Romania hefyd yn y deg uchaf. Mae’r wefan yn annog teithwyr i ddod a chwilota yng Nghymru am ei bod ymhlith llefydd antur gorau yn Ewrop. 

 

Mae’r wefan yn nodi fod Cymru yn cael ei chysgodi gan ei chymdogion ond fod amseroedd cyffrous yn wynebu’r wlad wrth iddi ‘ennill cydnabyddiaeth am ei phrydferthwch anhygoel a’i safleoedd hanesyddol’.  

 

Maent yn mynnu y bydd ymwelwyr sy’n anturwyr neu’n ymddiddorwyr mewn diwylliant neu fwyd, boed yn gerddwyr neu ddringwyr yn cael eu swyn gyfareddu gan draethau melynog Penrhyn Gwyr, a phentrefi hynod ar odrau Mynyddoedd Eryri. 

 

Dyma'r rhestr y deg uchaf yn llawn. 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru