Cymru yn dod i oed yn Ffrainc

05/07/2016

Categori: Chwaraeon, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Cymru, Portiwgal, Ffrainc a’r Almaen, dyma ni yn y rownd gyn-derfynol ac wedi cyrraedd byd ein breuddwydion.

Mae awr Cymru wedi cyrraedd ar ôl dros 50 mlynedd yn y diffeithwch. Rydym bron a chyrraedd y wlad yn llefeirio o laeth a mêl. Dim ond Ronaldo a Phortiwgal sydd i’n rhwystro rhag cyrraedd rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop. 

 

Yr ydym wedi bod ar daith ryfeddol ers y dechrau. O ddyfnder enbyd o golli Gary Speed i hapusrwydd anferthol o gyrraedd y twrnameint, ar y daith, rydym wedi cryfhau bob tro, yn blodeuo’n raddol, gyda fflachiadau sydyn o brydferthwch pur ar hyd y ffordd. Ymhlith yr atgofion yw disgleirdeb Bale yn erbyn Slofacia a datgymaliad Rwsia, heb son am wychder Kanu yn erbyn Gwlad Belg….ac nid hon yw diwedd y daith.

 

Mae’r antur hefyd wedi dod a’r ffantasi yn wir i bob cefnogwr gwerth ei halen gyd deimlo’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau i’r byw. Fe fydd enw Hal Robson Kanu yn cael ei serio ar galonnau bob Cymro a Chymraes am byth yn yr un gwynt a Llywelyn Fawr ac Owain Glyn Dwr, fel y foment y daeth Cymru i’w hoed. Gyda’n gliydd yn gryfach yw’r arwyddair, ac mae Cymru wedi aeddfedu a rhagori ac wedi cryfhau bob cam o’r ffordd. Mae corwynt y mur coch yn ddi droi’n ôl ac fe fydd angen grym aruthrol a dawn gwirioneddol i wrthsefyll dyheadau dros 3 miliwn o bobl ac 11 o wrthryfelwyr. 

 

Saethu i'r uchelfannau 

 

Mae yna dros 200 o wledydd yn chwarae pêl-droed dros y byd ac mae un genedl fach wedi saethu i'r uchelfannau ac wedi cyflawni’r amhosib ac rwan mae ein hawr fawr wedi cyrraedd wrth inni gerdded yn dalog ar lwyfan y byd. Mae Gareth Bale, Hal Robson Kanu, Aaron Ramsey, Joe Allen, Joe Ledley, Chris Gunter, Ashley Williams, James Chester, Neil Taylor, Sam Vokes, Ben Davies, Wayne Hennesey ac wrth gwrs Chris Coleman ac Osian Roberts wedi creu gwyrthiau y tu hwnt i unrhyw ddisgwyliadau. Mewn blynyddoedd, fe fydd ffilm yn cael ei wneud o’r chwedl hon, pan rodiodd cenedl fach ar antur anhygoel a rhyfeddu’r byd.