Cymdeithas yr Iaith yn croesawu fod y Gymraeg yn ôl yn y cabinet
Categori: Addysg, Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r rôl newydd fel Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Llywodraeth Cymru a fydd bellach yn eistedd o fewn cabinet y Prif Weinidog newydd Mark Drakeford.
Cafodd Eluned Morgan ei phenodi i'r rôl newydd heddiw fel rhan o gabinet newydd y Prif Weinidog sydd o ganlyniad yn sicrhau fod y Gymraeg yn dychwelyd fel cyfrifoldeb o fewn y cabinet.
Dywedodd Osian Rhys, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Mae’n dda gweld bod Gweinidog y Gymraeg bellach yn eistedd o fewn y cabinet. Rhan bwysig o’i gwaith fydd sicrhau bod pob un o’r gweinidogion eraill yn cymryd eu cyfrifoldeb dros y Gymraeg hefyd. Mae angen holl rym y Llywodraeth y tu ôl i strategaeth y miliwn. Mae’n hanfodol hefyd bod adran lawn, nid is-adran, o fewn y gwasanaeth sifil i'w chefnogi hi a’r Llywodraeth gyfan yn y gwaith mawr sydd o’u blaenau."
Newid agwedd
Ychwanegodd Osian Rhys, “Rydyn ni’n obeithiol y gwelwn ni newid agwedd yn y Llywodraeth gyda Mark Drakeford wrth y llyw. Roedden ni’n falch bod maniffesto arweinyddol y Prif Weinidog newydd yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Doedd dim sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau'r Ddeddf Iaith sy’n tynnu sylw oddi ar y gwaith o gyflawni'r strategaeth. Mae’n edrych yn fwy a mwy tebygol y bydd y cynlluniau deddfwriaethol hynny, a fyddai'n gwanhau hawliau iaith ac yn dileu swydd Comisiynydd newydd y Gymraeg, yn cael eu gollwng.”