Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyhoeddi gweledigaeth

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi'r weledigaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf i bêl-droed yng Nghymru sy’n cynnwys targedau i wella cyfleusterau a safon yn Uwch Gynghrair Cymru a sicrhau fod 30% o blant yn chware pel-droed o leiaf ddwywaith yr wythnos erbyn 2024.
Datblygwyd y ddogen 'Mwy na gêm' yn dilyn nifer o ymgynghoriadau â rhanddeiliaid y Gymdeithas i ddatblygu amcanion ar gyfer pêl-droed yng Nghymru ar gyfer 2015-2020.
Mae’r weledigaeth a’r cynllun strategol yn ymgorffori safbwyntiau’r rheiny sy’n ymwneud â phêl-droed yng Nghymru ar bob lefel, a bydd yn ganllaw y gall y Gymdeithas ei ddefnyddio i gyflawni ei hamcanion a gwireddu ei gweledigaeth ar gyfer 2020.
Mae’r cynllun strategol yn seiliedig ar dri o werthoedd craidd y Gymdeithas Bêl-droed sef Rhagoriaeth, Teulu a Pharch.
Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr y Gymdeithas Bêl-droed, “Mae’r strategaeth yn amlinellu’r weledigaeth a’r cyfeiriad strategol ar gyfer pêl-droed Cymru am y pum mlynedd nesaf.“
Uchelgeisiol
“Mae’n gynllun uchelgeisiol,"yn ôl Jonathan Ford, "ond eto yn un sydd â ffocws. Er ein bod yn gwybod y llwybr yr ydym ni’n dymuno ei ddilyn, bydd cyflawni ein dyheadau ar gyfer pêl-droed ar lawr gwlad a’r gêm elît yn gofyn am waith tîm, ymroddiad ac ymdrech.“Rwy’n siŵr, gyda chefnogaeth holl aelodau’r teulu pêl-droed, byddwn yn gwireddu ein gweledigaeth lle mae pêl-droed yng Nghymru yn fwy na gêm.”
Yn ôl ystadegau, mae mwy o bobl yn chwarae, gwylio a gwirfoddoli ym mhêl-droed na’r un gamp arall yng Nghymru, ac wrth i’r Tim Cenedlaethol brofi llwyddiant yn ngrwpiau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop, mae'r dyfodol yn edrych yn addawol i'r bêl gron.