Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y flwyddyn
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion

Mae rhestr fer Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2020 wedi ei chyhoeddi gyda nifer o enwau cyfarwydd a newydd y Sîn Gerddoriaeth wedi dod i'r brig.
Gyda chymaint o albymau o safon yn gymwys ar gyfer y wobr eleni, cytunodd y beirniaid i gynnwys 11 o albymau ar y rhestr fer, yn hytrach na’r deg arferol.
Bwriad y wobr yw dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei ryddhau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac unwaith eto eleni, mae cymysgedd eclectig o gynnyrch ac artistiaid wedi cyrraedd y rhestr fer. Y cyfnod dan sylw oedd 31 Mai 2019 hyd at ddiwedd Mai 2020.
Bu panel o feirniaid sy’n rhan o’r diwydiant cerddoriaeth yn dewis a dethol eu hoff gynnyrch, gan bleidleisio am eu ffefrynnau ar ddiwedd y broses. Y beirniaid oedd Elan Evans, Siân Eleri Evans, Huw Foulkes, Gwenan Gibbard, Dyl Mei, Siân Meinir, Gwyn Owen a Neal Thompson.
Gyda’r Eisteddfod yng Ngheredigion wedi’i gohirio eleni, mae’r trefnwyr yn cydweithio gyda Gŵyl AmGen BBC Radio Cymru, a chyhoeddir enillydd y wobr yn ystod yr ŵyl a gynhelir o 30 Gorffennaf – 2 Awst.
Yr albymau a ddaeth i’r brig yw:
· 3 Hwr Doeth – Hip Hip Hwre
· Ani Glass – Mirores
· Carwyn Ellis & Rio 18 – Joia!
· Cynefin – Dilyn Afon
· Georgia Ruth – Mai
· Gruff Rhys – PANG!
· Gwilym Bowen Rhys – Arenig
· Los Blancos – Sbwriel Gwyn
· Llio Rhydderch – Sir Fôn Bach
· Mr – Amen
· Yr Ods – Iaith y Nefoedd
Sgwrs fyw
Bydd BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i bob un o’r albymau yn ystod y dydd ar eu rhaglenni, ac am 18:30, cynhelir sgwrs fyw ar facebook yr Eisteddfod, fel rhan o raglen AmGen fydd yn cloriannu’r rhestr fer. Yn ogystal, bydd Sôn am Sîn yn cynnal sgwrs yn ystod Gŵyl Tafwyl Digidol i drafod y rhestr fer yn benodol.
Bydd yr enillydd yn cael ei gynhoeddi ddydd Sadwrn 1 Awst, a chyhoeddir rhagor o fanylion am y Wobr maes o law dros yr wythnosau nesaf.