Cyhoeddi pedwar terfynol Dysgwr y Flwyddyn

05/05/2014

Categori: Iaith, Newyddion

ch-d: Susan Carey, Holly Cross, Joella Price, Nigel Annett

Ar ddiwedd diwrnod hynod lwyddiannus yn y Gerddi Botaneg Cenedlaethol, Llanarthne, cyhoeddwyd manylion y pedwar sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr eleni.

 

Y pedwar a ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth o safon uchel iawn oedd Nigel Annett, Susan Carey, Holly Cross a Joella Price. Bydd y pedwar yn dod ynghyd eto ar Faes yr Eisteddfod yn Llanelli, ddydd Mercher 6 Awst, am y rownd derfynol cyn clywed canlyniad y gystadleuaeth mewn seremoni arbennig y noson honno ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

 

Meddai Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, "Cawsom ddiwrnod ardderchog yn Llanarthne.  Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn rhan bwysig o waith yr Eisteddfod, a braf oedd gweld cystadleuaeth mor dda eleni, gyda’r safon yn arbennig o uchel. Gobeithio y bydd y pedwar yn y rownd derfynol yn ysbrydoli ac yn annog eraill i fynd ati i ddysgu Cymraeg,

 

“Roedd yn braf iawn croesawu dau o rownd derfynol y llynedd atom i’r Gerddi. Roedd clywed profiad Kathy Isaac a’r enillydd, Martin Croydon, yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol, a gobeithio y bydd hyn yn sbardun i bawb i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg ac annog eraill i wneud hynny hefyd. Roedd yn ddiwrnod arbennig o lwyddiannus, a diolch yn fawr i’w beirniaid am eu hymroddiad.”

 

Cyflwynir Tlws Dysgwr y Flwyddyn eleni gan Terry a Catrin Stevens a bydd yr enillydd hefyd yn derbyn £300, sy’n rhoddedig gan Eglwys Annibynnol Heol Awst, Caerfyrddin. Bydd y tri ymgeisydd arall yn y rownd derfynol yn derbyn tlysau llai, sydd hefyd yn rhoddedig gan Terry a Catrin Stevens, a £100 yr un, sydd eto’n rhoddedig gan Eglwys Annibynnol Heol Awst.

 

Gwybodaeth gefndirol am y pedwar

 

Nigel Annett

2014 - nigel annett

 

Daw Nigel Annett o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, ond mae’n byw erbyn hyn yn Aberyscir, rhwng Aberhonddu a Phontsenni.

 

Bu’n gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr i Dwr Cymru, ac roedd yn un o griw bychan a greodd y cwmni nid-am-elw, Glas Cymru, yn 1999, a llwyddodd y cwmni i godi £2 biliwn i brynu Dwr Cymru yn 2001.

 

Mae gan Nigel ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, a phan yn ifanc, roedd yn rhedeg 800 medr i safon uchel iawn, ond roedd hyn yng nghyfnod rhedwyr fel Sebastian Coe, Steve Ovett a Steve Cram, felly roedd y cystadlu’n chwyrn iawn. Serch hynny, bu Nigel yn llwyddiannus mewn nifer o rasys, ac roedd yn un o’r rheini’n rhedeg ar y traeth yn yr olygfa eiconig yn y ffilm ‘Chariots of Fire’. Erbyn hyn, mae’n canolbwyntio ar feicio, a bydd yn cystadlu yn y ‘Dragon Ride’ yn nes ymlaen eleni.

 

Aeth Nigel ati i ddysgu Cymraeg gan ei fod eisiau siarad gyda’i feibion, Elis a Rhys, yn eu mamiaith. Dywed hefyd bod ei waith gyda Glas Cymru a hanes Tryweryn wedi’i ysbrydoli i ddysgu’r iaith hefyd. Mae’n credu bod yr iaith yn rhan hanfodol o hunaniaeth Cymru.

 

Susan Carey

2014 - susan carey

 

O Lundain y daw Susan Carey’n wreiddiol, ond mae’n byw yn Nhrefdraeth, Sir Benfro ers bron i ddeng mlynedd ar hugain. Aeth Susan ati i ddysgu Cymraeg gan ei bod yn awyddus i chwarae rhan lawn ym mywyd cymunedol ei hardal, ac roedd hi’n awyddus i sicrhau nad oedd angen i bobl newid i’r Saesneg er mwyn ei chynnwys mewn sgwrs.

 

Dechreuodd ddysgu Cymraeg ar ôl gweld arwydd am wersi yn ei ffenest siop leol, ac yn fuan iawn, roedd Susan wedi mynd ati i gael hyd i ragor o wersi wrth iddi hi weithio’n galed i ddysgu’r iaith. Erbyn hyn mae’i gwr hefyd wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg, ac mae’n gobeithio y bydd y ddau ohonyn nhw’n byw eu bywydau’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg cyn bo hir.

 

Mae Susan yn gweithio fel tiwtor Technoleg Gwybodaeth i Gyngor Sir Penfro, ac mae hefyd yn ysgrifennydd y gangen leol o Ferched y Wawr ac yn ysgrifennu colofn fisol i’w phapur bro, Clebran.

 

Dywed bod ei phenderfyniad i ddysgu Cymraeg wedi’i galluogi i ddechrau byw o’r newydd, gan ei fod wedi newid ei bywyd ac wedi rhoi cyfleoedd a golwg hollol wahanol ar bethau iddi hi.

 

Holly Cross

2014 - holly cross

 

Ganwyd Holly yng Nghaerfyrddin, ond symudodd y teulu i Wlad yr Haf pan oedd hi’n ddwy oed, a chafodd ei magu a’i haddysgu yn Lloegr. Dychwelodd i Gymru yn 2000, i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, gan ennill gradd mewn Saesneg a gradd Meistr mewn ysgrifennu creadigol.

 

Ar ôl cyfnod yn teithio o amgylch Ewrop, symudodd Holly i Gaerdydd, a chael swydd yn yr Adran Hanes yn y Brifysgol, a dyma pryd y dechreuodd fynd ati i ddysgu Cymraeg. Roedd y brifysgol yn darparu gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim, felly ymunodd Holly gydag un o’r dosbarthiadau ar y cwrs Wlpan.

 

Symudodd Holly i fyw i gymuned Gymraeg yn Sir Benfro bum mlynedd yn ôl, ac aeth ati i barhau i ddysgu’r iaith, gan fynychu cwrs Sylfaen Dwys yn Hwlffordd, ac erbyn hyn mae’n dilyn y Cwrs Uwch mewn dosbarth yn Aberteifi.

 

Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’r bywyd erbyn hyn, ac mae’n defnyddio’r Gymraeg ar bob cyfle. Dywed bod dysgu’r iaith wedi cael effaith ar y ffordd mae’n cymdeithasu ac ar y gweithgareddau mae’n eu mynychu bob wythnos.

 

Joella Price

2014 - joella price

 

O Bort Talbot y daw Joella Price yn wreiddiol, ac ar ôl treulio blynyddoedd yn byw yn America, Awstralia, Lloegr a Malta, dychwelodd i Gymru ddwy flynedd yn ôl, ac erbyn hyn, mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

 

Dysgodd Joella ychydig o Gymraeg yn yr ysgol, ond ni ddysgodd ddigon iddi allu cynnal sgwrs na chael hyder i wneud unrhyw beth gyda’r iaith. Pan aeth i’r coleg yn Abertawe, dechreuodd fynychu dosbarthiadau nos, ond wrth iddi symud o le i le, fe ddaeth yn anodd i barhau gyda’r gwersi. Pan symudodd i Nottingham yn 2009, ymunodd â’r Gymdeithas Gymraeg yn y ddinas, a bu hefyd yn gwylio S4C ar-lein yn ystod y cyfnod hwn.

 

Dychwelodd i Gymru i weithio yn yr uned gofal dwys yn Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd ac roedd hyn yn gyfle perffaith iddi ail-gydio yn y Gymraeg, ac erbyn hyn mae Joella hanner ffordd drwy Gwrs Uwch Dau. Mae’n defnyddio’r Gymraeg yn ei gwaith gyda chleifion bob dydd, ac mae’n falch o allu gwisgo bathodyn Iaith Gwaith ar yr ward.

 

Mae Joella’n awyddus i barhau i ddysgu’r iaith ac i fod yn diwtor Cymraeg rhan amser, ac mae hefyd yn dysgu’r Gymraeg i’w chariad.

 

Ffynhonnell: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch post@lleol.net