Cyhoeddi fideo i helpu rhieni di-Gymraeg ddysgu Cymraeg adref

Mae Menter Iaith Môn ar y cyd ag Ysgol Parc y Bont, un o ysgolion cynradd Cyngor Ynys Môn, wedi cynhyrchu fideo i roi arweiniad i rieni plant cynradd ar sut i gefnogi’r addysg Gymraeg yn y cartref.
Anelir y fideo at rieni a gwarchodwyr di-Gymraeg, i’w galluogi, gyda apiau di-dâl i’w lawrlwytho ar ffonau symudol neu ipad/tabled, i gefnogi eu plant i ddysgu Cymraeg. Maent yn dysgu sut i ffurfio ac ynganu llythrennau gyda ‘Tric a Chlic’, sut i ddechrau darllen gyda ‘Magi Ann’, sut i ddarllen yn rhugl gyda mynegiant gyda ‘Selog’, a sut i fwynhau canu, ioga, a’r awyr agored yn y Gymraeg gyda mwy o apiau Selog.
Esboniodd Pennaeth Ysgol Parc y Bont, Iwan Wyn Taylor: “Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn flaengar yn sicrhau fod pob plentyn yn cyflawni ei botensial drwy adael yr ysgol gynradd gyda sgiliau dwyieithog. Fel pennaeth, yn debyg i addysgwyr ar draws Cymru, bu’n rhaid i mi ystyried anghenion rhieni na allant gefnogi dysgu Cymraeg eu plant adref. Felly, gyda Menter Iaith Môn, a’r disgyblion, rhieni a staff gwych yr ysgol, aethom ati i gynhyrchu’r fideo syml fel arweiniad i rieni. Mae’r neges yn syml: mae cefnogi plentyn gyda Chymraeg yn y cartref yn bosib i bawb.”
Wedi'r penderfyniad diweddaraf i gau ysgolion yng Nghymru, gyda mwy o bwysau unwaith eto ar ddysgu yn y cartref, bu galw i rannu’r fideo yn ehangach er mwyn cefnogi rhieni sy’n gofidio na allant efelychu’r trochi Cymraeg gwych sy’n digwydd yn yr ysgolion.
Her
Dywedodd Elen Hughes o Menter Iaith Môn: “Sylweddolwn fod mynediad at gyfrifiaduron a hyder rhieni yn trosglwyddo’r Gymraeg yn her i rai teuluoedd. Felly, drwy ddarparu apiau medrant ddefnyddio yn eu hamser eu hun, bydd ganddynt gyfrwng mwy ymarferol i gefnogi datblygiad Cymraeg y plant. Wrth gwrs, rhaid cofio hefyd, yn eu cyfnodau hamdden, fod gwylio rhaglenni plant S4C yn gwneud byd o les yn trochi plentyn o gartref di-Gymraeg yn y Gymraeg.”
Gwelir y fideo 5 munud yma