Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Dewi Sant

Cafodd enillwyr Gwobrau Dewi Sant eleni eu datgelu mewn seremoni arbennig yn y Senedd ym Mae Caerdydd neithiwr, gyda Gerald Williams, ceidwad yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd yn derbyn gwobr arbennig am gadw'r cof yn fyw am fywyd Hedd Wyn ei ewythr a fu farw ar faes y gad yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru: “Mae yr enillwyr yn nigwyddiad heno yn destun balchder i’ch teuluoedd, eich ffrindiau, eich cymunedau ac i Gymru gyfan. Llongyfarchiadau mawr ichi a hefyd i bawb oedd ar y rhestr fer. 

 

“Rwy’n gwybod bod pethau eithriadol yn cael eu gwneud gan bobl ysbrydoledig ac uchelgeisiol yma yng Nghymru. Wrth imi deithio ledled y wlad, rwy’n gweld drosof fy hun yr ymdrechion gan bobl, pob dydd, i wneud ein gwlad fechan, ond llwyddiannus yn wlad wych. 

 

“Mae Gwobrau Dewi Sant yn rhoi’r cyfle inni ddathlu’r bobl hynny sy’n gwneud ychydig mwy, yn aml heb y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu.” 

 

Enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2018 yw: 

 

Dewrder  - Laura Matthews (De-orllewin Cymru)

 

Roedd Laura yn gyrru drwy Dde-orllewin Cymru pan welodd wrthdaro hynod o dreisgar rhwng dau ddyn. Penderfynodd atal y gwrthdaro, a allai fod wedi bod yn angheuol, gan bod arf yn cael ei ddefnyddio. Gan ddefnyddio ei sgiliau yn ei swydd derbyn galwadau gyda Heddlu De Cymru, llwyddodd Laura i beidio â chynhyrfu wrth fynd i’r afael a sefyllfa beryglus dros ben.

 

Dinasyddiaeth  – Mair Elliot (Sir Benfro)

 

Mae Mair Elliott yn 20 mlwydd oed ac yn gweithio fel ymgyrchydd iechyd meddwl ac awtistiaeth yng Nghymru. Mae gan Mair anhwylder ar y sbectrwm awtistig ac mae wedi bod yn brwydro yn erbyn salwch meddwl difrifol ers iddi fod yn 14 oed. Er gwaethaf ei brwydr bersonol, mae Mair yn treulio'i hamser yn ymgyrchu i wella gwasanaethau a chynyddu ymwybyddiaeth ynghylch iechyd meddwl ac awtistiaeth.

 

Diwylliant  – David Pountney CBE (Caerdydd)

 

Cyfarwyddwr Celfyddydol Opera Cenedlaethol Cymru yw David, ac mae'n gyfarwyddwr a libretydd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Fel artist ac arweinydd diwylliannol, mae David Poutney wedi gwneud cyfraniad unigryw i fywyd celfyddydol Cymru.

 

Menter  – William Watkins – Radnor Hills (Knighton, Canolbarth Cymru)

 

Sefydlwyd Radnor Hills Mineral Water Company gan William Watkins yn 1990 pan ddechreuodd gasglu dŵr mewn poteli o darddell ar ei fferm deuluol gan ddarparu cwpanau bach i’r diwydiant hedfan. Ers hynny, mae'r cwmni wedi datblygu'n gwmni diodydd meddal blaenllaw, yn cynhyrchu tua 250 miliwn o boteli y flwyddyn.

 

Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg – IQE (Caerdydd)

 

Cyd-sefydlodd Dr Drew Nelson gwmni IQE yn 1988 ac mae wedi arwain y cwmni lled-ddargludyddion Cymreig i ddod yn arweinydd byd rhyngwladol o ran cyflenwi haenellau epitacsiol ar gyfer ystod eang o gynnyrch sy'n galluogi technolegau mor amrywiol â ffonau symudol, cyfathrebu optegol cyflym, celloedd solar tra effeithlon, a golau ynni isel.

 

Rhyngwladol – Phoenix Project (Caerdydd)

 

Mae Prosiect Phoenix yn rhan o raglen Trawsnewid Cymunedau Prifysgol Caerdydd, a lansiwyd yn y Senedd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones bedair mlynedd yn ôl, er mwyn gwella iechyd a lleihau tlodi yn Namibia. Maen nhw wedi gweithio ar draws ffiniau rhyngwladol i gyflawni canlyniadau sy'n cael effaith sylweddol ar Namibia.

 

Chwaraeon – Aled Sion Davies MBE

 

Aled Sion Davies yw pencampwr triphlyg y byd ac enillydd dwbl y fedal aur Baralympaidd ar gyfer y ddisgen a thaflu maen. Yn wreiddiol o Ben-y-bont ar Ogwr, mae wedi bod yn fodel rôl ysbrydoledig i bobl ifanc o Gymru a gweddill y byd – fel pencampwr athletaidd y byd ac fel dyn ifanc sydd wedi ymdopi'n llwyddiannus ag anabledd.

 

Person Ifanc - Jasmine Williiams

 

Mae Jasmine Williams yn 11 oed ac yn neilltuo ei hamser hamdden i godi arian i bobl ddigartref yn Rhondda Cynon Taf. Y llynedd, cododd dros £2000 trwy drefnu digwyddiadau codi arian yn ei chymuned leol. Mae Jasmine wedi dangos trugaredd gwirioneddol ac aeddfedrwydd y tu hwnt i'w hoedran i helpu'r rhai sy'n llai ffodus na hi.

 

Gwobr Arbennig y Prif Weinidog – Gerald Williams MBE (Yr Ysgwrn, Trawsfynydd)

 

Dros y bedair mlynedd ddiwethaf cynhaliwyd digwyddiadau ledled y byd i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. 

 

Roedd 2017 yn flwyddyn arbennig o bwysig i Gymru wrth inni goffáu Trydydd Brwydr Ypres (Passchendaele) ble y collwyd cynifer o Gymry, gan gynnwys y Preifat Ellis Humphrey-Evans, sy’n fwy adnabyddus fel Hedd Wyn.

 

Mae Gerald Williams MBE, o Drawsfynydd, Gwynedd wedi rhoi ei fywyd i gadw’r cof am ei ewythr Ellis Humphrey Evans, neu Hedd Wyn, fyw. Bu Hedd Wyn farw ym Mrwydr Passchendaele chwe wythnos cyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1917, pryd yr enillodd y Gadair Ddu am ei gerdd Yr Arwr (The Hero). Mae’r gadair honno, fel llawer o etifeddiaeth Hedd Wyn, yn cael ei gadw ar fferm y teulu, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, sydd wedi’i gadw â gofal fel yr oedd 100 mlynedd yn ôl gan deulu’r bardd. 

 

Ceidwad yr Ysgwrn

 

Mae Gerald, fel ceidwad Yr Ysgwrn, wedi cadw ei addewid i ‘gadw’r drws ar agor’ ers 1954, yn croesawu ymwelwyr ledled y byd i Yr Ysgwrn, a gwneud hynny yn rhad ac am ddim. Mae gwaith di-flino Gerald wedi helpu i gadw’r cof o Hedd Wyn yn fyw ac i gadw etifeddiaeth y bardd o’r Rhyfel Byd Cyntaf i genedlaethau’r dyfodol. 

 

Mae gan Yr Ysgwrn arddangosfeydd am fywyd a gwaddol barddol Hedd Wyn, yn ogystal ag am yr iaith Gymraeg a’i diwylliant, y traddodiad barddol, hanes cymdeithasol a gwledig, a’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd y Prif Weinidog: “Ar 31ain Gorffennaf 1917, yn ystod Trydydd Brwydr Ypres (Passchendaele), gwelwyd cynifer o Gymry yn colli eu bywydau, gan gynnwys y Preifat Ellis Humphrey-Evans, sy’n cael ei adnabod yn well fel y bardd Hedd Wyn.   

 

“Am dros 60 mlynedd, mae nai Hedd Wyn, Gerald, sy’n dal i fyw yn hen fferm y teulu, wedi gweithio’n ddi-flino, yn wirfoddol i gadw hanes bywyd ac etifeddiaeth ei ewythr yn fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae Gerald wedi croesawu miloedd o bobl i’r cartref teuluol i rannu ei brofiadau gydag ymwelwyr o’r gymuned leol, a hefyd ymwelwyr ledled Cymru a thramor. Mae’n gwbl wir, heb ymrwymiad ac ymroddiad Gerald, byddai’r darn hynod hwn o’n hanes, ein diwylliant a’n iaith wedi ei golli. Felly mae fy ngwobr arbennig eleni i Gerald Williams – beth am edrych ar ei stori.”