Cyfoeth Naturiol Cymru yn cefnogi datganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru
Categori: Amgylchedd, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi nodi camau gweithredu blaenoriaethol i gefnogi Datganiad Argyfwng Hinsawdd Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd fis diwethaf.
Mewn cyfarfod diweddar o'r Bwrdd, gan ymateb i obaith Llywodraeth Cymru y bydd y datganiad yn sbarduno ton o weithredu, ymrwymodd CNC i fwrw ymlaen ymhellach ac yn gyflymach i ddatblygu ystod o fesurau datgarboneiddio, addasu a newid ymddygiad.
Mae'r rhain yn cynnwys adfer mawndiroedd i atal rhyddhau carbon, gwella rheolaeth coedwigoedd er mwyn iddynt storio mwy o garbon, bod yn fwy ynni-effeithlon mewn swyddfeydd, gwneud mwy o ddefnydd o gerbydau trydan a rhannu arbenigedd i helpu sefydliadau eraill.
Meddai Syr David Henshaw, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru:“Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae rôl arweiniol wrth helpu i gyflawni uchelgais y sector cyhoeddus o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
“Rydym yn cydweithio'n agos â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i gyflawni hyn.“Mae’r Datganiad Argyfwng Hinsawdd yn her allweddol inni i gyd a dylem gydnabod yr argyfwng amgylcheddol ehangach, yn arbennig y golled o safbwynt bioamrywiaeth.
“Mae gan lawer o gamau gweithredu megis coedwigo, adfer mawndiroedd a lleihau llygredd drwy ddefnyddio dulliau ynni-effeithlon y potensial o arwain at nifer o fanteision - nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd, ond hefyd ar gyfer ein hiechyd, ein lles a’n heconomi.
“Nawr rydym yn edrych ymlaen at gynllunio mwy o waith, mewn partneriaeth ag eraill. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddatgarboneiddio Cymru – ac yn sicrhau bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn ganolog i’n holl waith.
Croesawu penderfyniad
“Yn y cyd-destun hwn rydym yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod ffordd liniaru’r M4 – cam cadarnhaol o ran Gwastadeddau Gwent, rheolaeth gynaliadwy o’i adnoddau naturiol a gwytnwch y cynefin unigryw hwn. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod fod hyn wedi bod yn benderfyniad anodd ac rydym yn awyddus i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ganfod dulliau cynaliadwy o ddatrys problemau tagfeydd.”
Yn ystod y misoedd nesaf bydd CNC yn adolygu ei dargedau a’i uchelgeisiau ar gyfer datgarboneiddio yn ogystal ag addasu i effeithiau newid hinsawdd ar draws cylch gwaith CNC.