Cwpan Ryder bythgofiadwy i'r Cymro

Prynhawn ddoe yn Gleneagles ddaeth Ewrop i'r brig unwaith eto trwy ennill Cwpan Ryder. A'r Cymro Jamie Donaldson o Bontypridd oedd yn flaenllaw yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Unol Daleithiau.
O dan bwysau mawr fe wnaeth Donaldson drechu Keegan Bradley - 5-3.
Disgrifiodd Donaldson y foment fawr fel 'Pinacl fy ngyrfa' ac mae stori'r gŵr 38 oed yn rhyfeddol gan nad oedd o'n chwarae ar y brif gylchdaith Ewropeaidd tan 2007. Roedd yn ddiweddglo anhygoel i Gwpan Ryder cyntaf Donaldson.
Fe gyrhaeddodd Ewrop eu targed o 14 pwynt yn ddigon cyfforddus i ennill eu 8fed allan o 10 Cwpan Ryder.
Llongyfarchiadau mawr iddo a dyma rhai o'r cyfarchion i Jamie Donaldson ar y Cyfryngau Cymdeithasol.