Comisiynydd y Gymraeg am ganolbwyntio ar bontio addysg a byd gwaith

05/08/2019

Categori: Addysg, Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Cyhoeddodd Comisiynydd newydd y Gymraeg ei weledigaeth ddoe ar gyfer y swydd gan ddweud mai ei brif ffocws fydd pontio’r bwlch sydd yna ar hyn o bryd rhwng addysg a’r byd gwaith.

Dechreuodd Aled Roberts fel Comisiynydd ar 1 Ebrill, 2019. Yn ystod y tri mis cyntaf bu ar daith o amgylch Cymru, gan siarad â thros 500 o bobl, a chlywed beth yw realiti sefyllfa’r Gymraeg yn eu hardaloedd a’u cymunedau nhw.

 

Dywedodd Aled Roberts: “Rydw i’n adnabod sefyllfa ieithyddol fy ardal fy hun yn y gogledd ddwyrain yn dda, ond mae’n bwysig fod gen i ddarlun clir a gonest o’r sefyllfa ar draws Cymru.

 

“Rydw i hefyd am i fy nghynlluniau ar gyfer y swydd gael eu seilio ar y pethau sydd fwyaf perthnasol i fywydau pobl ar lawr gwlad. Mae tuedd i’r drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg ganolbwyntio yn ormodol ar statws yr iaith ac ar ystadegau am niferoedd siaradwyr. Y perygl gyda hynny yw y byddwn ni’n canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg i Iwerddon, lle mae yna 1.76 miliwn o bobl yn medru siarad Gwyddeleg, ond llai na 0.5% o’r rheiny  yn ei siarad bob dydd. Rydw i am i’n gwaith ni ganolbwyntio ar gynlluniau wnaiff arwain at gynyddu defnydd dyddiol o’r Gymraeg. 

 

“Yn sicr, mae yna bethau y gallwn ni eu dathlu am sefyllfa’r iaith. Ar y daith, mi gwrddais i â channoedd o bobl o bob oed, ym mhob rhan o Gymru, sy’n rhoi o’u hamser a’u hegni i gynnal gweithgarwch cymunedol yn y Gymraeg. Ymysg y Cymraeg a’r di-gymraeg, mae yna ewyllys da ac agweddau cadarnhaol iawn tuag at yr iaith.

 

“Ond mi wnes i ddod ar draws amryw o heriau sydd yn wynebu’r iaith; does dim dwywaith fod addysg Gymraeg yn allweddol i greu siaradwyr Cymraeg a bod addysg drochi yn llwyddiannus iawn yn creu siaradwyr Cymraeg rhugl.

 

“Serch hynny, mae yna brinder athrawon yn y sector addysg Gymraeg ar draws Cymru a diffyg cynllunio cenedlaethol ar gyfer trochi. Clywais am sefyllfaoedd lle roedd cau ysgolion gwledig wedi arwain at leihau defnydd o’r iaith mewn cymunedau.”

 

Diffyg pontio

 

Yn ei araith gyntaf, ar faes yr Eisteddfod, aeth y Comisiynydd ymlaen i siarad am y ddiffyg pontio rhwng y byd addysg a’r byd gwaith. Ar y naill law mae busnesau a sefydliadau cyhoeddus yn cael trafferth recriwtio siaradwyr Cymraeg, ond ar y llaw arall, mae pobl ifanc yn gadael ysgolion yn siarad Cymraeg, ond yn colli’r iaith gan nad oes defnydd iddi.

 

Dywedodd Aled Roberts: “Mae yna wirionedd yn yr hen air mai mewn undod mae nerth; a byddaf yn blaenoriaethu codi pontydd a sefydlu partneriaethau gyda sefydliadau, cymdeithasau a mudiadau eraill a chydweithio tuag at yr un nod.

 

“Fel swyddfa, byddwn yn gweithio i gynyddu’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun gwaith. Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobl sy’n dysgu’r Gymraeg yn gallu defnyddio’u sgiliau dwyieithrwydd.

 

“Drwy safonau’r Gymraeg, mae dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i ystyried effaith eu penderfyniadau ar y Gymraeg. Gall rhain fod yn benderfyniadau all gael effaith fawr ar yr iaith – mewn meysydd fel cynllunio tai, yr economi, aildrefnu ysgolion neu ariannu prosiectau er enghraifft. Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu i’w llawn botensial a bod penderfyniadau’n arwain at gryfhau sefyllfa’r iaith.

 

“Byddwn yn defnyddio pob cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg – yn y gweithle, gyda sefydliadau, gyda busnesau ac elusennau a gyda llunwyr polisi. Mi ddathlwn ni werth y Gymraeg, a’r hawliau i’w defnyddio.”