Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hysbysebu 21 swydd newydd
Categori: Addysg, Ar-lein, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion

Dros y misoedd nesaf fe fydd Hysbysfwrdd Swyddi Cymru, rhan o wefan Lleol.net, yn hysbysebu’r holl swyddi darlithio y mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu noddi ar draws prifysgolion Cymru.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y bydd 21 o swyddi newydd yn cael eu cyllido drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn 2013/14.
Dywedodd Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd:
‘Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda Gwefan Lleol.net, fel rhan o’n hymgyrch recriwtio. Byddwn yn hysbysebu ein holl swyddi ar y wefan, rydym wedi defnyddio’r wefan yn y gorffennol ac mae’r ymateb i’n hysbysebion wedi bod yn arbennig o dda’.
Bydd y swyddi darlithio wedi’u lleoli mewn sefydliadau addysg uwch ar hyd a lled Cymru, a hynny mewn ystod eang o ddisgyblaethau academaidd, megis y gwyddorau, dyniaethau a'r celfyddydau.
Ewch draw i'r Hysbysfwrdd Swyddi er mwyn dod o hyd i’r swyddi diweddaraf.