Cipolwg ar bolisiau'r pleidiau

05/05/2015

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Iechyd, Newyddion

Gyda llai na thridiau i fynd tan y bydd y bythau pleidleisio yn cau, mae Lleol.cymru wedi mynd ati i fwrw golwg dros bolisiau’r pleidiau yng Nghymru, gan asesu eu gobeithion ddydd Iau.

 

Yn gyffredinol, mae’r ras trwy Brydain yn parhau yn agos iawn, gyda thrwch gwybedyn yn gwahaniaethu’r Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur yn yr arolygon barn ac mae’r wythnos hon yn profi’n dyngedfennol iawn i sawl aelod seneddol sy'n wynebu brwydr fawr i warchod eu seddi, megis Danny Alexander, Nick Clegg a Douglas Alexander ymhlith y rhai fydd yn cnoi gwinedd, tra fod ymgais Nigel Farage i fod yn aelod seneddol hefyd yn hofran yn y gwynt. Mae Lleol.cymru wedi rhoi crynhoad o bolisiau'r prif bleidiau ac wedi amlygu polisiau tuag at Gymru a'r Gymraeg.  Dyma'r dewis gwleidyddol ddydd Iau:  

 

 

Llafur Cymru

 

Mae arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband wedi addo y bydd Cymru yn cael £300 miliwn yn ychwanegol petaent yn llwyddo i gael mwyafrif ac yn ffurfio llywodraeth fore Gwener. Ond serch hynny, nid yw’n glir os yw’r Blaid Lafur yn bwriadu newid fformiwla Barnett sydd yn ol arbenigwyr ariannol yn rhoi llawer llai i Gymru na’r Alban.  Yn y maniffesto, maent yn cydnabod fod y fformiwla yn anheg ond mae’n gwestiwn os ydynt yn bwriadu dileu fformiwla Barnett. Nid yw’n glir ychwaith os ydynt am  ddiogelu cyllideb Cymru rhag y toriadau arfaethedig a fydd yn deillio o Lundain. Mae ganddynt fwriad i ddatganoli mwy o bwerau mewn plismona, mewn ynni a thrafnidiaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn gam arall ymlaen i’r broses ddatganoli. Mewn perthynas a’r Iaith Gymraeg,  mae’r Blaid Lafur yn cyfeirio at ddatblygu Cynlluniau Addysg Cyfrwng Cymraeg newydd, ac yn addo ailddatgan lle’r Gymraeg wrth ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Mae’r Blaid yng Nghymru wedi rhoi rol ganolog i’w llefarydd ar Gymru, Owen Smith yn ystod y dadleuon teledu, ond nid yw aelod seneddol Pontypridd wedi cyrraedd y disgwyliadau, wrth iddo dan-befformio mewn sawl arolwg barn. Yn ol yr arolygon barn hyd yma, mae safle’r Blaid Lafur fel y prif blaid yng Nghymru yn gymharol ddiogel, yn wahanol i’r blaid yn yr Alban sy’n wynebu chwalfa. Gweler y maniffesto yma

 

Plaid Cymru

 

Y blaid sydd wedi elwa fwyaf o’r dadleuon teledu yw Plaid Cymru, gyda Leanne Wood yn llwyddo i gynyddu ei phroffil trwy Brydain a lledeanu neges amgen. Mae Plaid Cymru yn awyddus i ddod a llymder neu austerity i ben, gan sicrhau cynydd mewn gwariant cyhoeddus ynghyd a diwygio fformiwla Barnett i sicrhau fod Cymru yn cael ei siar ar sail angen yn hytrach na phoblogaeth. Mae’n credu y dylai Cymru gael cydraddoldeb gyda’r Alban gyda phwerau sylweddol yn cael ei datganoli i Gymru mewn meysydd ariannol, trafnidiaeth, iechyd, amgylchedd, cyfreithiol a darlledu ac ati. Ymhliith y prif amodau bargeinio sydd gan y Blaid mewn senedd grog bosib yw sgrapio rhaglen adnewyddu arfau Niwcliar fflyd Trident.  Mae Plaid Cymru hefyd eisiau gweld y Gymraeg yn cael ei diogelu a’i hadfer, gyda’r ddarpariaeth dros addysg Gymraeg yn cael ei gynyddu mewn ysgolion cynradd.  Gweler y manifesto yma

 

Ceidwadwyr Cymru

 

Blaenoriaeth y Ceidwadwyr yng Nghymru yw ad-dalu’r diffyg ariannol a lleihau’r wladwriaeth, gan sicrhau fod Cymru yn dod esiampl wych o ffyniant economaidd, gyda sustem drafnidiaeth well a phwer rhwng Cymru a Llundain yn cael ei ddiffinio yn fwy eglur. Maent yn credu mewn datganoli rhai pwerau menthyg a chodi trethi i Gymru. Maent yn bwriadu diogelu annibyniaeth a chyllideb S4C ac yn awyddus i hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol yn fyd-eang.  Gweler rhagor yma.

 

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

 

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i weld y Cynulliad Cenedlaethol yn cael rhagor o bwerau ariannol, gan ddatganoli grym hefyd mewn meysydd allweddol fel trafnidiaeth a’r amgylchedd gyda’r bwriad o sefydlu ‘home rule’ i Gymru a fyddai yn ymdebygu i’r hyn sydd gan yr Alban rwan.  Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn addo diogelu annibyniaeth golygyddol a chyllid ar gyfer S4C. Un o’u polisiau yw sicrhau fod addysg Gymraeg yn cael ei wella yn y cwricwlwm cenedlaethol ac yn dod yn brif sgil wrth chwilio am swydd. Gweler rhagor yn y maniffesto yma

 

Y Blaid Werdd

 

Mae’r Blaid Werdd yn bwriadu sgrapio Trident, fel un o’i prif bolisiau, gan fynd ati i greu cymunedau sy’n gynaladwy ac yn gweithio er budd yr amgylchedd. Maent yn gwrthwynebu llymder ariannol ac yn awyddus i ddiwygio’r banciau a chreu treth ar y cyfoethog. Maent yn credu fod angen i’r Cynulliad Cenedlaethol gael pwerau ychwanegol mewn sawl maes ac yn cefnogi datblygu a diogelu cymunedau Cymraeg eu hiaith.  Gweler rhagor yma

 

 

Plaid Annibyniaeth Prydain

 

Prif amcan UKIP yw caniatau refferendwm ar aelodaeth Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd. Maent yn credu fod yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith niweidiol ar Gymru a Phrydain. Petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae UKIP wedi honni y byddai Llywodraeth San Steffan yn sicrhau’r cymorth ariannol i ardaloedd tlotaf Cymru, pan fydd yr arian o’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben o ganlyniad i Brydain yn gadael yr UE.  Mae UKIP o blaid lleihau Fformiwla Barnett gan sicrhau mwy o bwerau trethu i’r Cynulliad. Nid oes gan UKIP gynlluniau i gynyddu pwerau’r Cynulliad, ond fe ddywedodd  Arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill yn ddiweddar yn y ddadl deledu fod angen i Gymru ddysgu defnyddio’r pwerau presennol, cyn cael rhagor o bwerau deddfwriaethol.  Nid oes son am y Gymraeg ym maniffesto’r Blaid. Mwy am bolisiau'r blaid yma

 

Felly dyma'r dewis allweddol sydd gan etholwyr Cymru, ac mae'n argoeli yn etholiad diddorol tu hwnt, gyda'r un mwyaf cofiadwy yn hanes modern.

 

Bydd Lleol.cymru ar flaen y gad yn eich diweddaru yn gyson dros-nos o'r datblygiadau pan ddaw'r canlyniadau nos Iau a bore dydd Gwener.