Cig oen Cymru yn boblogaidd mewn bwyty yn Llundain

20/02/2017

Categori: Bwyd, Newyddion

Pan agorodd y bwyty barbeciw newydd Temper yn Soho ym mis Tachwedd, gan addo i weini’r cig gorau posib o bob cwr o Brydain, doedd y perchnogion heb sylweddoli pa mor boblogaidd fyddai Cig Oen Cymru gyda chwsmeriaid Llundain.

Erbyn hyn, mae aelod diweddaraf Clwb Cig Oen Cymru Hybu Cig Cymru  wedi defnyddio dros 150 o garcasau Cig Oen Cymru PGI ers agor ei ddrysau gwta dri mis yn ôl.

 

O’r cychwyn, bu Cig Oen Cymru PGI yn rhan ganolog o’r fenter, gan ennill lle cyson ar y fwydlen ynghyd â phorc o fridiau prin o foch a chigoedd arbenigol eraill. Dechreuodd y Prif Gogydd Neil Rankin weini bwyd barbeciw ym mwytai Smokehouse a Bad Egg, cyn sefydlu Temper gyda’r Rheolwr Gyfarwyddwr Sam Lee.

 

Coginio’n araf

 

Maent yn prynu’r oen yn gyfan, yn eu torri ar y safle ac yna’n eu coginio’n araf am oriau o flaen y cwsmeriaid.

“Mae’r cig oen ry’n ni’n ei ddefnyddio mor dda, y cyfan sydd ei angen yw ei weini’n ‘noeth’, ar fara fflat ffres er mwyn i’r cwsmer werthfawrogi’r blas,” meddai George Wood, Prif Sous Chef Temper.

“Mae gennym ni a’n cwsmeriaid hyder yn y Cig Oen Cymru ry’n ni’n ei brynu, a dyna pham mae’n nhw’n dod yn ôl eto. Mae cig oen yn un o’r ffefrynau yma.”

 

Bydd Temper yn ymuno gyda’i gyflenwraig, Daphne Tilley o gwmni Daphne’s Original Welsh Lamb o Henllan, Sir Ddinbych, mewn eitem arbennig ar raglen Countryfile y BBC fis nesa.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru