Chwilio am farn y cyhoedd ynghylch y cynllun bwyd a diod ar y Prom yn Aberystwyth
Categori: Arian a Busnes, Bwyd, Newyddion

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynnal arolwg o’r arbrawf Bwyd a Diod a gyflwynwyd ar Bromenâd Aberystwyth yn ystod haf 2019.
Croesewir adborth oddi wrth ddefnyddwyr y Promenâd, yn rhai lleol ac ymwelwyr, yn ogystal ag oddi wrth Fasnachwyr a gymerodd ran yn yr arbrawf neu sydd â diddordeb ynddo.
Ewch i wefan y Cyngor i lenwi’r arolwg, ‘Cyfnod Prawf Gwerthu Bwyd a Diod ar Bromenâd Aberystwyth, Holiadur Adborth o’r Cyhoedd neu fasnachwyr.
Profiad y cyhoedd
Y Cynghorydd Rhodri Evans yw’r aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb am yr Economi ac Adfywio. Fe ddywedodd, “Treialwyd gwerthu bwyd a diod ar Bromenâd Aberystwyth yn ystod yr haf. Mae diddordeb gyda ni ym mhrofiad y cyhoedd, gan gynnwys bobl lleol ac ymwelwyr, ac hefyd Masnachwyr. Hebddyn nhw, ni fyddwn yn medru cynnal arbrawf o’r fath. Edrychwn ymlaen at ddarllen yr adborth fel y gallwn ystyried a gweithredu unrhyw newidiadau sydd eu hangen i wella’r profiad yn y blynyddoedd a ddaw.”
Mae’r arolwg ar agor tan ddydd Gwener, 24 Ionawr 2020.