Carwyn Morgan Eckley yw Prifardd yr Urdd 2020-21

21/10/2021

Categori: Eisteddfod yr Urdd, Llenyddiaeth, Newyddion

Ar ôl dod yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd deirgwaith yn y gorffennol, datgelwyd heno mai Carwyn Morgan Eckley o Benygroes, Dyffryn Nantlle yw Prifardd Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Matthew Tucker o Bontarddulais ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a Caryl Bryn Hughes o Borth Amlwch, Ynys Môn sy’n drydydd.

 

Trwy gydol yr wythnos mae Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn gwobrwyo’r holl waith Cyfansoddi a Chreu buddugol ddaeth i law yn 2020, cyn gorfod gohirio'r Eisteddfod yn Ninbych oherwydd Covid-19.

“Thema’r gerdd ydi tlodi plant, a thlodi plant yng Nghymru yn benodol,” eglura Carwyn. “Y rheswm mai ‘Pump’ oedd fy ffugenw oedd bod pum golygfa o fewn y gerdd, sy’n edrych ar wahanol agweddau o dlodi plant a lle ’da ni arni yng Nghymru ar hyn o bryd. O’n i’n teimlo fod o’n fater pwysig i sgwennu amdano, o gysidro pan sgwennwyd y gerdd fod tua threian o blant Cymru yn byw mewn tlodi.”

 

Mae Carwyn yn ennill Cadair hardd wedi’i cherfio gan y saer Rhodri Owen. Bellach yn 25 oed ac yn gweithio fel newyddiadurwr i adran rhaglenni Cymraeg ITV Cymru yng Nghaerdydd, dechreuodd Carwyn ymddiddori mewn barddoniaeth yn Ysgol Dyffryn Nantlle dan arweiniad ei athrawes Ms. Eleri Owen. Aeth ymlaen i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, ble dysgodd i gynganeddu, ac mae’n aelod o dîm buddugol Talwrn y Beirdd eleni, Dros yr Aber.

 

Roedd gofyn i gystadleuwyr gyfansoddi cerdd neu gerddi caeth neu rydd ar y testun ‘Ennill Tir’. Yn ôl y beirniaid, Eurig Salisbury a Peredur Lynch daeth tair cerdd ar ddeg i law, a phob un gyda'i rhinweddau. Mewn cystadleuaeth agos, roedd tri ymgais yn dod i’r brig. Gydag awdl fuddugol Carwyn yn “gerdd grefftus i’n cywilyddio yn haeddu clod a Chadair yr Eisteddfod.”
Meddai’r beirniaid: “Nid ar chwarae bach mae ysgrifennu awdl, ac mae hon yn awdl fedrus, feiddgar a dyfeisgar. Mae’n defnyddio ystod o wahanol fesurau yn effeithiol iawn ac mae ganddo ddawn cynghanedd feistrolgar. Man cychwyn y bardd yw’r ffaith fod traean o blant Cymru’n byw mewn tlodi heddiw, ac yn drwm ei lach ar eiriau gweigion y gwleidyddion. Lluniodd ddarlun teimladwy o fachgen ifanc a’i fam, yn ceisio dygymod â thlodi.”
Cerfiwyd cadair Carwyn gan y saer Rhodri Owen, a eglurodd: “Mae hi wedi bod yn daith eithaf hir i gyrraedd y fan yma, nid jest i fi ond i lawer o bobl eraill. Felly mae hi’n anrhydedd mawr a dwi’n falch iawn o gyflwyno'r Gadair o’r diwedd.
“Y pren dwi wedi ei ddefnyddio ydi ffawydd ac ychydig bach o dderw hefyd. Mae’r paneli lliw yn ffawydd wedi ei sbotio, sy’n golygu fod y pren wedi ei blancio fel coeden ac yna mae  ffwng wedi mynd i mewn iddo i greu’r patrymau du wrth sychu yn yr awyr agored. Mae’r lliwiau duon yn gwneud patrymau tlws, ac mae lliwiau’r Urdd yn torri drwy hynny ac yn ailymddangos ar ben y gadair.
“Mae cael creu Cadair yr Urdd yn rhywbeth pwysig iawn i mi. Pan roeddwn i’n blentyn roedd cael gwneud Celf a Chrefft drwy’r Urdd wedi meithrin fy niddordeb a fy sgiliau fel artist a chrefftwr. Dwi’n gobeithio bod y Gadair hon yn adlewyrchu'r gobaith yn Urdd Gobaith Cymru.”

 

Gweithdai ysgrifennu creadigol

 

Mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru, bydd y tri a ddaeth i’r brig yn cael gwahoddiad i gymryd rhan yng Nghwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Bydd Cwrs Olwen yn cynnig penwythnos cyfan o weithdai ysgrifennu creadigol, cymdeithasu ag awduron ifanc eraill, a dysgu am y byd llenyddiaeth a chyhoeddi.
Yfory, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi ‘Deffro’, cyfrol y cyfansoddiadau ar ei newydd wedd wedi ei roi at ei gilydd gan ddau o gyn-enillwyr Eisteddfod yr Urdd.