Canslo Sioe Fawr Llanelwedd eleni
Categori: Amaethyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw na fydd y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn chael ei chynnal eleni.
Dyma ddatganiad llawn gan y Gymdeithas:
"Gyda gofid mawr, oherwydd y sefyllfa o amgylch Coronavirus (COVID-19), mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw i ganslo'r Sioe Frenhinol Cymru 2020. "
"Gyda'r Llywodraeth yn cynghori yn erbyn mynychu cynulliadau torfol a chamau gweithredu pellach yn ymwneud â phellter cymdeithasol a hunan-ynysu a theithio diangen, roedd y Gymdeithas yn teimlo nad oedd ganddi unrhyw opsiwn arall."
"Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn sefydliad a arweinir gan aelodau, gan gyflwyno ein Sioe eiconig ynghyd a digwyddiadau eraill sy'n rhan annatod o gefnogi ein cymunedau gwledig ac o'r herwydd, rydym yn deall effaith y penderfyniad hwn, sy'n cael ei wneud â chalon drom. "
Iechyd a diogelwch aelodau
"Rydym wedi ystyried gohirio neu gynnal digwyddiad llai, ond am lawer o resymau, nid yw'r un o'r opsiynau hyn yn hyfyw. Er bod y newyddion hyn yn siomedig i bawb, rydym yn sicr y byddech yn cytuno bod iechyd, diogelwch a lles ein haelodau, ymwelwyr, arddangoswyr a staff o'r pwys mwyaf."
"Bydd hon yn flwyddyn anodd i'r Gymdeithas ac rydym yn deall nad ydym ar ein pennau ein hunain ac y bydd canlyniad ariannol y senario hwn yn effeithio arnom i gyd. Rydym wedi creu polisi canslo yr ydym yn gobeithio sy'n caniatáu i'r rhai sydd angen ad-daliadau eu derbyn ar sail yr hyn a restrir isod."
"Ar yr un pryd, rydym yn rhoi cyfle i'n cefnogwyr niferus adael arian sydd eisoes wedi'i ymrwymo gyda'r Gymdeithas, neu gael ei drosglwyddo i 2021."