Camu fewn i fyd rhithiol y Lle Celf

Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi’i ohirio am flwyddyn arall eleni, mae’r trefnwyr unwaith eto wedi troi at gwmni Cynyrchiadau 4Pi, i greu fersiwn rhithwir o Y Lle Celf, arddangosfa celfyddydau gweledol enwog yr ŵyl.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant arddangosfa’r llynedd, Epona, a oedd yn cynnwys gwaith 31 o artistiaid, a oedd wedi arddangos yn yr oriel ar Faes yr Eisteddfod yn y gorffennol.
 
Eleni, bu'r trefnwyr yn gwahodd artistiaid i gyflwyno eu gwaith ar gyfer yr arddangosfa, gyda thri detholwr yn asesu’r ceisiadau ac yn dewis eu ffefrynnau er mwyn eu cynnwys yn yr oriel.
 
Gweithiodd Gwenno Angharad, Aled Wyn Davies a Carwyn Evans, sydd rhyngddynt yn cynrychioli ystod eang o ddisgyblaethau, gyda'r tîm yn 4Pi, i greu arddangosfa uchelgeisiol a deniadol gyda chyfuniad cyffrous o artistiaid newydd a sefydledig.
 
Meddai’r detholydd, Carwyn Evans, Mae wedi bod yn bleser cymryd rhan ar banel ddethol arddangosfa 'rhithiol' Y Lle Celf eleni, fel rhan o Eisteddfod AmGen. Fel gyda phob arddangosfa yn Y Lle Celf, mae siâp y sioe’n cael ei ddiffinio gan y detholiadau, a ‘dyw eleni heb fod yn eithriad i'r broses honno. Ry’n ni’n fodlon iawn gydag ansawdd y gwaith sydd wedi'i ddewis. 
 
“Ac er bod deialog Y Lle Celf ychydig yn wahanol yn ei ffurf eleni - gan ei bod yn arddangosfa rithiol - a'r chwarae diddorol hwnnw o 'rith' a 'real' gyda'r mynegiant terfynol yn gymharol newydd i'r profiad yn Y Lle Celf, ry’n ni’n gyfarwydd ag e. Fodd bynnag, unwaith eto, mae'r arddangosfa'n ymgysylltiad gwych ag ymarfer celf gyfoes 'Gymreig a'r agweddau niferus rheini mae'r maes yn eu hymgeleddu. Rwy'n eich annog i gyd i edrych, arsylwi ac asesu'r arddangosfa gyda'r un awch ag a gawson ni wrth ddewis.
 
Mae arddangosfa eleni yn un o uchafbwyntiau rhaglen AmGen yr Eisteddfod, sy'n rhedeg rhwng 31 Gorffennaf - 7 Awst ar draws llwyfannau digidol yr Eisteddfod, ynghyd â BBC Radio Cymru a S4C, a bydd yn cael ei lansio ddydd Llun 2 Awst gan y cyflwynydd, Lisa Gwilym, gyda rhaglen fer yn ein tywys trwy'r arddangosfa a gwaith yr 14 artist a ddewiswyd.
 
Yr artistiaid eleni yw Manon Awst, Siân Barlow, Ann Catrin Evans, Gwen Evans, Kate Fiszman, Rhiannon Gwyn, Kate Haywood, Llio James, Karolina Jones, Rhys Bevan Jones, Roger Lougher, Karen McRobbie, John Gareth Miles ac André Stitt.
 
Mae Y Lle Celf yn un o brif atyniadau Maes yr Eisteddfod, a ‘dyw’r fersiwn rhithwir yn ddim gwahanol, gan brofi i fod yn llwyddiant mawr yn 2020.  Ac mae profiad y llynedd wedi rhoi’r hyder i 4Pi fynd hyd yn oed ymhellach eleni, gan gyflwyno nifer o ddatblygiadau newydd, er mwyn gwella ar brofiad ymwelwyr i’r Lle Celf.
 
Eglura Janire Najera, Cyfarwyddwr Creadigol 4Pi, “Gan weithio gyda’r artistiaid anhygoel ar y rhestr fer a phanel dethol Y Lle Celf, ry’n ni wedi curadu ac adeiladu profiad rhithwir unigryw digidol, gan osod y gynulleidfa yn ‘adeilad Y Lle Celf’ ar y Maes.

 

Gwobr Dewis y Bobl

 

“Gan gynnwys gwaith 14 o artistiaid sy’n gweithio ar draws llawer o ddisgyblaethau, mae gan yr arddangosfa hon rai nodweddion newydd fel Gwobr Dewis y Bobl, gyda chyfle i bobl bleidleisio dros eu ffefrynnau a rhoi adborth i ni ar yr arddangosfa.

 
“Eleni, ry’n ni wedi cynhyrchu modelau 3D o’r ceisiadau cerameg a thecstilau ac wedi cydweithio’n agos gyda’r artistiaid i atgynhyrchu eu gwaith yn yr arddangosfa rithwir. Ry’n ni hefyd wedi buddsoddi llawer o amser i guradu a dylunio'r arddangosfa, gan drafod syniadau am sut i gynrychioli'r gweithiau celf ar eu gorau tra’u bod nhw hefyd yn hawdd i'w archwilio gan gynulleidfaoedd digidol.  Roedd sicrhau bod hunaniaeth Y Lle Celf yn dod drosodd yn glir drwy’r holl broses hefyd yn hollbwysig.”
 
Mae'r arddangosfa'n rhan o raglen Lle Celf ehangach, sy'n rhedeg trwy gydol wythnos yr ŵyl. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill mae’r artist, Bedwyr Williams yn trafod ei fywyd a’i waith, a Gwobr Dewis y Bobl Josef Herman, a enillodd yn Eisteddfod Wrecsam yn 2011; trafodaeth o amgylch y themâu a’r gweithiau yn arddangosfa agored eleni, gyda grŵp o raddedigion Celf o Gymru, dan gadeiryddiaeth Gwenllian Beynon, a nifer o sesiynau wedi'u curadu gan Y Lle Hanes.