Brigyn yn rhyddhau albwm Dulog

01/03/2016

Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, bydd Brigyn yn rhyddhau'r albwm newydd 'Dulog' yn swyddogol ledled y byd, ac mi fydd bellach ar gael yn ddigidol.

Gyda chyfraniadau gan artistiaid blaenllaw eraill o Gymru – Candelas, Casi, Emyr Huws Jones, – ynghyd ag ymddangosiad gan 'El Surco Duo' (y brodyr Alejandro a Leonardo Jones o Drevelin, Patagonia), mae 'Dulog' yn gymysgedd eclectig o ganeuon sydd eisoes wedi ennill llawer o glod.

 

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni, bydd band boblogaidd Brigyn yn rhyddhau'r albym newydd Dulog yn swyddogol ledled y byd, ac mi fydd bellach ar gael yn ddigidol.

 

Mae'r casgliad diweddaraf o ganeuon gan y ddau frawd o Waunfawr ger Caernarfon yn deyrnged gyfoes i Batagonia – gyda chyfeiriadau uniongyrchol at hanes diddorol y Wladfa a'i phobl drwy'r caneuon ['Malacara', 'Ana', 'Dôl y Plu', a 'Pentre sydyn' i enwi ond rhai]. 

 

Dyma un o'r caneuon oddi ar yr albwm - Dôl y Plu