Breichiau Hir yn rhyddhau sengl ddwbwl

07/10/2021

Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion

Mae'r band o Gaerdydd - Breichiau Hir yn rhyddhau sengl ddwbwl heddiw 'Mwynhau/Ofni Braidd'

I gydfynd â'r newyddion, bydd y band yn rhyddhau fideo gerddoriaeth i'r trac 'Mwynhau', sy'n dathlu'r traddodiad gwych o chwarae'r air guitar, a'r llawenydd y mae rhywun yn ei deimlo wrth brofi profiadau newydd. 

 

Wrth drafod y gân, esbonia Steffan Dafydd: "Dyma gân sy'n trafod chwilio am hwyl, a phrofi amser da - mae'r ffordd yr wyt ti a dy ffrindiau yn mwynhau wedi newid. Dim ond pan ma' profiadau yn newydd, ma' nhw'n teimlo'n gyffrous. Pan maen nhw'n cael eu hail-adrodd, mae'r cyffro yn diflannu. Mae'r gân yma am ymgais enbyd i deimlo'r wefr yma eto, ar ôl blynyddoedd o ail-adrodd yr un profiadau"

 

Cyhoeddodd y chwechawd o Gaerdydd yn ddiweddar bydd eu halbym gyntaf 'Hir Oes I'r Cof' yn cael ei ryddhau ar 19 Tachwedd 2021 drwy Recordiau Libertino. 

 

Bydd Breichiau Hir yn chwarae yn Focus Wales ym mis Hydref a bydd eu gig lansio albym yn cael ei gynnal yn Clwb Ifor Bach ar 20 Tachwedd 2021, gyda chefnogaeth False Hope For The Savage. 

 

Senglau

 

Ar ôl rhyddhau eu EP gyntaf 'Mae'r Angerdd Yma Yn Troi Yn Gas' yn 2015, mae'r band wedi rhyddhau sawl sengl yn cynnwys 'Mewn / Halen' (2018), 'Portread o Ddyn yn Bwyta Ei Hun' (2018), 'Penblwydd Hapus Iawn' (2019), 'Yn Dawel Bach / Saethu Tri' (2019), 'Preseb o Ias' (2020) ac yn ddiweddar eu cover o'r gân eiconig gan Bryn Fôn 'Y Bardd O Montreal' (2020). 

 

Wrth ryddhau'r senglau yma, mae'r band wedi casglu llu o gefnogwyr fel Huw Stephens a Daniel P Carter yn BBC Radio 1, Brian Foss yn Sonic Reducer ar KEXP, Adam Walton yn BBC Radio Wales, Planet Mosh, Punktastic, God Is In The TV, Buzz Magazine, For The Rabbits, Circuit Sweet a mwy. 

 

Ar yr ochr byw, mae'r band wedi chwarae ym mhrif wyliau cerddorol Cymru dros y blynyddoedd fel Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Gŵyl Sŵn, FOCUS Wales, HUB Festival, The Swansea Fringe, Single Mothers a cafodd eu trac 'Yn Dawel Bach' ei ddefnyddio ar fideo hyrwyddo FA Wales ar gyfer eu hymgyrch Euro 2020.