Beirniadu'r Llywodraeth am beidio disodli Cymraeg ail iaith yn y cwricwlwm

29/01/2020

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru i fethu â chadw at ei hymrwymiad i ddisodli Cymraeg ail iaith gydag un continwwm o ddysgu’r iaith yn ein hysgolion.

Yn ôl canllawiau diwygiedig Cwricwlwm Cymru a gyhoeddir heddiw gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ddoe, mae dau lwybr o ddysgu’r Gymraeg yn parhau.

 

Mewn ymateb, dywedodd Toni Schiavone, Is-gadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith: "Mae'r cwricwlwm newydd yn torri addewid y Llywodraeth i ddisodli Cymraeg Ail Iaith gydag un continwwm dysgu'r iaith. Daeth yr ymrwymiad hwn yn dilyn adroddiad gan yr Athro Sioned Davies yn 2013 a argymhellodd mai dyna’r ffordd i wella safonau yn y Gymraeg.”

 

Adroddiad Un Iaith i Bawb

 

Yn yr adroddiad hwnnw – Un Iaith i Bawb – a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yr oedd yr Athro Davies yn argymell disodli Cymraeg Ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru yn cael cyfran o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg ac, “o ganlyniad byddai'r elfen Cymraeg ail iaith yn y rhaglen astudio Cymraeg yn cael ei disodli ynghyd â'r term Cymraeg Ail Iaith.”

 

Ychwanegodd Toni Schiavone: “Mae'r penderfyniad yn dangos diffyg uchelgais a pharodrwydd i fuddsoddi mewn trefn dysgu Cymraeg a fyddai'n sicrhau bod pob disgybl yn gadael ysgol yn medru siarad Cymraeg. Pam trin y Gymraeg yn is-raddol i'r Saesneg a pham caniatáu parhad trefn dysgu sydd wedi methu'n llwyr dros yr hanner canrif diwethaf? Mae'r Llywodraeth wedi colli cyfle euraidd i gyflwyno'r iaith a'r diwylliant i holl ddisgyblion Cymru yn ddiwahân, ac mae hynny'n hynod siomedig.”
Ychwanegodd hefyd: “Mae'r cwricwlwm hefyd yn bygwth statws a defnydd y Gymraeg drwy wneud y Saesneg yn bwnc gorfodol heb i neb argymell hynny."