Beirniadu Llywodraeth Cymru am wastraffu amser

17/07/2018

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am ‘wastraffu amser ar yr ymdrech i wanhau hawliau pobl i'r iaith’.

Ym mis Ionawr eleni, honnodd y Gweinidog bod ‘loads’ o weision sifil yn gweithio ar y Safonau, sy’n creu hawliau statudol i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Lai na phum mis yn ddiweddarach, cyfaddefodd y Gweinidog nad oedd yr un gwas sifil yn gweithio ar baratoi’r rheoliadau mewn gwirionedd, ac yn hytrach, eu bod i gyd yn gweithio ar lunio Deddf Iaith newydd. Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, mae Cymdeithas yr Iaith yn pryderu na fydd hawliau i'r Gymraeg mewn sectorau megis gwasanaethau trên, dŵr, bws, ynni a thelathrebu – dyletswyddau iaith y mae'n bosib eu creu o dan y ddeddfwriaeth bresennol – tan ar ôl etholiadau 2021.

 

Yn yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar, roedd mwyafrif clir yr ymatebwyr yn gwrthwynebu cynigion y Llywodraeth i ddiddymu Comisiynydd y Gymraeg, cyfyngu ar allu pobl i wneud cwynion a gwanhau pwerau i sicrhau bod cyrff yn cadw at eu dyletswyddau iaith – fframwaith tebyg iawn i hen Ddeddf Iaith 1993.

 

Mewn ymateb i'r datganiad, dywedodd Osian Rhys, is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “Mae’r Llywodraeth yma wedi colli ffydd cefnogwyr y Gymraeg yn gyfan gwbl. Yn lle defnyddio'u pwerau presennol i estyn hawliau i gael pethau fel ffonau symudol Cymraeg a gwasanaethau ynni, trên a bws yn Gymraeg, maen nhw’n gwastraffu amser ar ymdrech i wanhau hawliau iaith pobl. Yn wir, o achos penderfyniadau Eluned Morgan mae’n annhebyg y gwelwn ni unrhyw hawliau iaith mewn sectorau newydd tan ar ôl yr etholiadau nesa. Dydy'r Llywodraeth ddim wedi gwrando o gwbl: dim ond 15% o'r rhai wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad oedd yn cefnogi'r cynnig annoeth i ddiddymu'r Comisiynydd. Doedd hynny ddim ym maniffesto'r Blaid Lafur chwaith; does ganddyn nhw ddim mandad o gwbl i wneud hyn.

 

Cam mawr yn ôl

 

Ychwanegodd Osian Rhys, “Dydyn ni ddim yn deall pam fod Eluned Morgan yn mynnu dilyn agenda o leihau rheoleiddio er lles cyrff a busnesau pwerus. Mae ei phenderfyniad i wrthod ymestyn y Safonau i'r sector breifat yn mynd yn gwbl groes i farn pobl Cymru ac Aelodau Cynulliad. Mae'n gam mawr yn ôl ei bod hi'n sôn am 'ddarbwyllo' busnesau mawrion pan fo pob arbenigwr yn gwybod mai rheoleiddio yw'r unig ffordd o gael gwasanaethau Cymraeg o safon. Mae cyfundrefn y Safonau yn dechrau gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad felly mae'n warthus bod y Llywodraeth am droi'r cloc yn ôl i Ddeddf Iaith wan. Mae'r Blaid Lafur, a Gweinidog y Gymraeg Eluned Morgan yn benodol, yn gwrthod ein hamddiffyn yn erbyn busnesau mawr rhagfarnllyd fel Trago Mills, sy'n syndod ac yn siom fawr i lawer o bobl. Yn wir, mae eu cynlluniau i wanhau'r ddeddfwriaeth iaith yn fêl ar fysedd busnesau gwrth-Gymraeg.

 

"Yn lle trio pasio Deddf Iaith wan, mi fyddai'n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar waith arall, gan gynnwys gosod Safonau ar ragor o gyrff a chwmnïau, yn hytrach na gwastraffu amser ar gynigion Papur Gwyn a fyddai, o'i weithredu, yn troi'r cloc yn ôl i gyfnod Deddf Iaith 1993 wnaeth fethu amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg."