Astudiaeth newydd yn archwilio effeithiau newid hinsawdd ar adar arfordirol

18/02/2020

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Bydd effeithiau newid yn yr hinsawdd ar ddwy rywogaeth o adar arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon yn cael eu harchwilio mewn prosiect ymchwil newydd gwerth €2.6m fydd yn cynnwys ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Bydd yr astudiaeth yn edrych ar sut gall newidiadau yn yr hinsawdd effeithio ar gynefinoedd y gylfinir a gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las a pha gamau lliniarol gall rheolwyr tir a safleoedd eu cymryd.

 

Bydd arolygon o’r fflatiau llaid, fflatiau tywod agored, llystyfiant y glaswelltir a’r morfa a ddefnyddir gan y gylfinir a gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las yn amlygu ardaloedd bregus ar hyd arfordiroedd Cymru-Iwerddon, yn ffinio â Môr Iwerddon a Bae Ceredigion.

 

Caiff y canfyddiadau eu defnyddio i ddatblygu llwyfan ac offerynnau ar-lein i helpu tirfeddianwyr, ffermwyr, llunwyr polisi a thrigolion i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd ar y rhanbarth lleol, a’u rheoli.
Dyfarnwyd cyllid o €2,687,579 i brosiect ECHOES o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop fel rhan o raglen INTERREG Iwerddon-Cymru.

 

Daw ag ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Cork at ei gilydd, ynghyd â’u partneriaid Compass Informatics, Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, a Geo Smart Decisions.

Dywedodd Dr Peter Dennis, fydd yn arwain tîm ECHOES oddi mewn i Brifysgol Aberystwyth: “Fe wyddom fod nifer yr adar arfordirol yng Nghymru wedi gostwng yn ddramatig dros y degawdau diwethaf. Rydyn ni’n croesawu’r cyfle hwn i fynd i’r afael â’r pryderon drwy ymchwil traws-ddisgyblaethol, cydweithredol gyda phartneriaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon.
“Bydd dulliau arloesol ECHOES o safbwynt ymchwil ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ychwanegu at waith y partneriaethau cadwraeth sefydledig yng Nghymru ac Iwerddon su’n gyfrifol am reoli, monitro a gwarchod cynefinoedd adar pwysig. Rydyn ni gyd yn benderfynol o adfer poblogaethau’r gylfinir a gŵydd dalcen-wen yr Ynys Las a bydd momentwm cynyddol yn sgil ECHOES.
“Yn bwysig, nid yw'r ddealltwriaeth a ddaw am effeithiau cynhesu byd-eang ar ystodau llanw a cholli tir arfordirol yn ymwneud â chadwraeth yr adar gwyllt hyn yn unig. Mae'n arwydd o fygythiadau uniongyrchol i bobl, sy’n dibynnu ar yr un ecosystem arfordirol am eu bywoliaeth ac ansawdd bywyd. Bydd amcanestyniadau ECHOES o’r pwysau ar yr arfordir a’r cydweithio â sefydliadau sy'n ymwneud â chasglu a storio data amgylcheddol yn galluogi'r cymunedau hynny i ragweld ac addasu i'r newidiadau hynny."

 

Mae ECHOES yn un o ddau brosiect ymchwil mawr sy’n cynnwys prifysgolion Aberystwyth a Cork sydd wedi derbyn cyllid drwy raglen Iwerddon-Cymru ym mis Chwefror 2020.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit Llywodraeth Cymru Jeremy Miles, sy’n gyfrifol am gronfeydd yr UE yng Nghymru: “Mae hwn yn brosiect gwych sy’n delio gyda heriau byd-eang newid hinsawdd mewn modd llawn dychymyg ac yn greadigol.
“Mae gan Lywodraeth Cymru record wych o gefnogi prosiectau mawr sy’n gweithio ar draws ffiniau ar faterion fel hyn. Mae ein gwaith tîm gydag Iwerddon drwy’r rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd yn werthfawr ac yn hanfodol, a dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn gallu parhau i fuddsoddi cyllid fel hyn yn y rhanbarthau sydd ei angen fwyaf.”

 

Dulliau arloesol

 

Dywedodd Crona Hodges o un o bartneriaid y prosiect yng Nghymru, Geo Smart Decisions: “Bydd prosiect ECHOES yn ymchwilio i fylchau data allweddol ac yn defnyddio dulliau arloesol ym maes mapio cynefinoedd, modelu newid yn yr hinsawdd a modelu dosbarthiad rhywogaethau mewn cynefinoedd arfordirol sensitif.
“Byddwn yn datblygu offerynnau mapio ffynhonnell agored i gynorthwyo gyda chynllunio a phenderfyniadau rheoli, gan ddefnyddio arbenigedd o Gymru ac Iwerddon ym maes Arsylwi’r Ddaear er mwyn gwneud hynny. Yn y pen draw bydd ECHOS yn galluogi cymunedau a rhanddeiliaid ar ddwy ochr Môr Iwerddon i fod yn fwy ymwybodol o effeithiau newid yn yr hinsawdd, a’r dewisiadau cysylltiedig o ran lliniaru ac addasu i’r newidiadau hynny.”

 

Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Adareg Prydain: "Dyma brosiect cyffrous a heriol i fod yn rhan ohono. Mae’r Ymddiriedolaeth yn adnabyddus am ein hymchwil blaenllaw i adar, ond rydym ni’n edrych ymlaen at feithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth ymysg ein partneriaid a rhanddeiliaid y prosiect, wrth i ni i gyd ddatblygu ECHOES o’r cysyniad gwreiddiol i’r byd real."
Bydd y prosiect yn para tair blynedd a hanner gyda’r gwaith ymarferol yn chwyn ym mis Chwefror 2020.