Arriva yn ymddiheuro i'r Prif Weinidog

14/07/2014

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae Trenau Arriva Cymru wedi ymddiheuro ddoe i Carwyn Jones ar ôl i aelod o staff ymateb i’r Prif Weinidog ynglŷn â chŵyn am yr iaith Gymraeg. Ar ddydd Sadwrn fe wnaeth y Prif Weinidog Trydar Trenau Arriva Cymru yn cwyno am ddiffyg yr iaith Gymraeg yn y cyhoeddiadau yn Orsaf trên Caerdydd.

 

 

Roedd yr ymateb y derbyniodd o aelod o’r staff yn ‘amhroffesiynol’ yn ôl y Prif Weinidog a ymatebodd ar Trydar yn synnu nad oedd Arriva wedi medru ymateb yn briodol. Ar ôl ychydig o amser ymatebodd Arriva eto gydag ymddiheuriad swyddogol.

 

 

Darllenwch ymlaen i weld yr ymddiheuriad wrth Arriva ac i weld yr ymateb ar trydar.