Wedi darganfod 683 cofnodion | Tudalen 67 o 69
Blwyddyn orau erioed i'r diwydiant ym...
13/01/2016
Categori: Arian a Busnes, Hamdden, Newyddion
Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod y diwydiant twristiaeth wedi cael y flwyddyn fwyaf llwyddiannus erioed yn 2015.
Mae Arolwg Twristiaeth Prydain a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer Ionawr - Medi 2015 yn dangos bod cyfanswm y nifer o ymwelwyr o fewn Prydain a arhosodd dros nos yng Nghymru wedi codi 1.8 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2014.
Mae gwario ar ymweliadau â Chymru ar gyfer cyfnod Ionawr - Medi 2015 wedi cynyddu 12.0 y cant o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2014. A'r ffigur cymharol ar gyfer Prydain Fawr yw 10.3 y cant.
Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: &ldqu ...
Galw am wario 1% o gyllideb Llywodrae...
13/01/2016
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar i bleidiau'r Cynulliad ymrwymo i addo gwariant o 1% o'r holl gyllideb ar yr Iaith Gymraeg, yn dilyn sylwadau gan y Prif Weinidog gerbron pwyllgor y Cynulliad am y gyllideb drafft heddiw.
Yn nogfen gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 Ymlaen", mae'r mudiad yn galw am yr math o wariant ac sydd ar yr yr iaith Fasgeg yng ngwlad y Basg. Ar hyn o bryd, 0.16% yn unig o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru fyddai'n mynd at brosiectau sy'n hyrwyddo'r Gymraeg.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn codi flwyddyn nes ...
Pryder dros doriadau i gyllid y Coleg...
12/01/2016
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae'r mudiadau iaith wedi mynegi pryderon ynghylch toriadau i gyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mewn llythyron at y pedair plaid yn y Cynulliad cyn y Nadolig, galwodd Cymdeithas yr Iaith am gamau i sicrhau twf a datblygiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mewn cyfarfod diweddar rhwng y mudiad iaith a'r Prif Weinidog, dywedodd Carwyn Jones ei fod: ‘eisiau gweld [gwaith y Coleg] yn parhau [ac yn] tyfu".
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Gan fod prifysgolion Cymru'n derbyn y rhan helaethaf o'u hincwm bellach o ffioedd dysgu, dyfodol cwango fel HEFCW [Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru] sydd yn y fantol, nid y Coleg Cymraeg. Mae eu d ...
Opera gyffrous ar fin teithio
12/01/2016
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion
Mae opera gyffrous ar fin teithio'r hen sir Feirionnydd fel rhan o ymgyrch i hyrwyddo opera a’r iaith Gymraeg yng nghefn gwlad Cymru.
Mae Carmenâd i Ysgolion yn fersiwn awyr agored o berfformiad nôl yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod sydd wedi’i hailwampio er mwyn cynnig cyfleoedd hyfforddiant a phrofiad gwaith i ddisgyblion ysgol ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Fe fydd sawl un o’r cast gwreiddiol yn dychwelyd i’w prif rolau yn y sioe bromenâd, Robyn Lyn fel Don José a Sioned Gwen Davies fel Carmen. Mae Sion Goronwy yn dychwelyd fel y Toreador Escamillo ac mae Meinir Wyn Roberts o rownd derfynol Ysgoloriaeth Bryn Terf ...
Cyfres yn chwilio am bobl ifanc sydd ...
12/01/2016
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion
Mae cyfres newydd ar S4C yn chwilio am bobl ifanc sydd eisiau bod yn rhan o fand ifanc newydd cyffrous a fyddai’n cael cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd.
Mae Pwy Geith y Gig yn chwilio am 6 aelod i greu band newydd sbon fydd yn cael cyfle i gael eu mentora gan arbenigwyr yn y maes a pherfformio yn Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint eleni.
Yn ystod y gyfres, byddwn yn dod i adnabod rhai o grwpiau pop mwyaf adnabyddus Cymru heddiw – Candelas, Swnami, Yr Eira, y Reu, Yr Angen ac Yws Gwynedd wrth iddyn nhw ddychwelyd yn ôl i’w cyn – ysgolion uwchradd.
Dyma gyfres fydd yn cynnig profiadau creadigol ...
Byd Roald Dahl mewn berfa
11/01/2016
Categori: Addysg, Amgylchedd, Hamdden, Iechyd
Mae Cymdeithas Arddwriaethol Caerdydd a Chyngor Dinas Caerdydd yn galw ar arddwyr ifainc mewn ysgolion a grwpiau yng Nghaerdydd, Caerffili a Bro Morgannwg i ddod i fyd bendigedig a gwallgof Roald Dahl a chymryd rhan mewn cystadleuaeth berfâu ysgolion yn y Sioe Arddwriaeth Frenhinol eleni.
Mae 2016 yn nodi canrif ers geni’r awdur byd-enwog Roald Dahl, yn Llandaf, Caerdydd. Fel rhan o’r dathliadau, rydym yn annog ysgolion, meithrinfeydd a chlybiau ar ôl ysgol i gymryd rhan a chreu eu darnau difyr eu hunain wedi eu hysbrydoli gan lyfrau Roald Dahl.
Bydd ymwelwyr â RHS Caerdydd ym Mharc Bute o 15-17 Ebrill 2016 yn pleidleisio dros eu hoff gre ...
Urdd yn newid Medal y Dysgwr
11/01/2016
Categori: Eisteddfod yr Urdd, Hamdden, Iaith, Newyddion
Eleni bydd Medal Dysgwyr Eisteddfod yr Urdd yn cael ei thrawsnewid. Mi fydd y gystadleuaeth am y tro cyntaf gyda’r ffocws ar gyfathrebu yn y Gymraeg yn hytrach na darn ysgrifenedig, ac oedran cystadlu yn cael ei ymestyn o 19 i 25 oed.
Gall unigolion wneud cais eu hunain neu fe all rhywun arall eu henwebu, gyda’r pwyslais yn cael ei roi ar y defnydd maent yn ei wneud o’r Gymraeg yn y gymuned a safon y cyfathrebu. Wedi cwblhau ffurflen gais syml mi fyddant wedyn yn cael eu gwahodd i Lan-llyn i wneud amrywiol dasgau gan gynnwys adeiladu tîm ac yn cael eu cyfweld gan y beirniaid sef Nia Parry ac Enfys Davies.
Bydd y tri sydd ar y brig wedyn y ...
Blwyddyn gyffrous ar y gweill i golff...
11/01/2016
Categori: Amgylchedd, Chwaraeon, Hamdden, Newyddion
Wedi blwyddyn lwyddiannus iawn o ran Golff yng Nghymru yn 2015, fe fydd 2016 hefyd yn argoeli’n flwyddyn gyffrous arall i’r gamp yng Nghymru.
Mae Pencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn Cymru yn ddigwyddiad i edrych ymlaen ato yn 2016. Cafodd y bencampwriaeth hwb sylweddol cyn y Nadolig pan gyhoeddwyd mai SSE Enterprise fydd y prif noddwr unwaith eto pan fydd y twrnamaint yn dychwelyd i Westy Hamdden y Celtic Manor rhwng 3 a 5 Mehefin 2016, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Yn fuan wedyn, bydd Pencampwriaeth y Golffwyr Amatur yn dychwelyd i Glwb Golff Royal Porthcawl rhwng 13 a 18 Mehefin. Bydd prif chwaraewyr golff amatur y byd yn cystadlu ar un o ...
Her Hywel wedi dechrau
08/01/2016
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Hamdden, Iechyd, Newyddion
Mae Her Hywel wedi dechrau a phawb wedi’u pwyso ac yn cychwyn ar y colli pwysau yng nghwmni’r darlledwr a’r cyflwynydd adnabyddus, Hywel Gwynfryn.
Bwriad yr ymgyrch sy’n rhedeg rhwng dechrau Ionawr a diwedd mis Mawrth yw rhoi hwb i unrhyw un sy’n teimlo bod angen colli pwys neu ddau mewn ffordd hynod gymdeithasol – a thrwy godi arian at gronfa leol Eisteddfod Ynys Môn y flwyddyn nesaf.
Hywel Gwynfryn sy’n egluro, “Bydd rhywun yn teimlo’n aml ar ôl y Nadolig a’r flwyddyn newydd ein bod ni wedi’i gor-wneud hi braidd, a bod ambell bwys ychwanegol wedi ymddangos o rywle, a bod rhaid gwneud rhywb ...
Eryri i godi arian trwy dwristiaeth?
08/01/2016
Categori: Amgylchedd, Arian a Busnes, Bwyd, Newyddion
Mae busnesau yn y diwydiant ymwelwyr yn Eryri yn cael eu gwahodd i glywed am gynllun sy’n codi chwarter miliwn o bunnoedd bob blwyddyn trwy ychwanegu swm at filiau cwsmeriaid, a fyddai’n cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau lleol.
Mae Nurture Lakeland yn Ardal y Llynnoedd wedi rhedeg cynllun llwyddiannus am ugain mlynedd dan yr arwyddair “Ymweld / Rhoi / Gwarchod” ac mae cyfle i fusnesau yn Eryri wybod mwy am y cynllun. Maent yn gweithio’n agos â’r sector dwristiaeth i godi arian trwy ychwanegu swm bychan i filiau cwsmeriaid ar gyfer eu pryd o fwyd, llety neu weithgaredd. Mae’r cyfraniad yn wirfoddol a phrin ydyw fwy na £1.
&nb ...