Wedi darganfod 70 cofnodion | Tudalen 1 o 7
Pobol y Cwm yn dychwelyd i bum gwaith...
03/08/2015
Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion
Bydd gwylwyr selog y gyfres sebon Pobol y Cwm yn falch o glywed fod cynhyrchwyr y ddrama BBC Cymru wedi cynnig cynhyrchu pumed bennod wythnosol, ac mae S4C wedi cadarnhau’r comisiwn a chytuno i’w hariannu.
Roedd y ddrama nosweithiol wedi gostwng i bedair pennod yr wythnos ddechrau’r flwyddyn ar ôl i S4C ddod a’u gwariant ar Omnibws y gyfres i ben. Wrth i wariant ar yr Omnibws gael ei dorri yn ôl, doedd dim modd i’r tîm cynhyrchu ddarparu pum pennod wreiddiol yn ystod yr wythnos.
Mae’r cyhoeddiad bod y bumed bennod yn dychwelyd yn dod ar adeg gyffrous i’r gyfres wrth i stori Garry Monk gyrraedd uchafbwynt yr w ...
Y Gwyll yn dychwelyd
03/08/2015
Categori: Celfyddydau, Hamdden, Newyddion
Mae ail gyfres Y Gwyll yn parhau gyda phedwar achos cwbl newydd dros gyfnod o wyth pennod awr o hyd.
Mae’r ail gyfres fel y gyfres gyntaf wedi ei ffilmio ar leoliad gyda thirlun trawiadol, prydferth ac anial Ceredigion yn gefndir iddi hi.
Mae'n uno Richard Harrington â thîm cynhyrchu sy'n cynnwys Ed Talfan ac Ed Thomas, a'r cynhyrchydd Gethin Scourfield.
Mae'r cast amryddawn hefyd yn cynnwys Mali Harries fel DI Mared Rhys, Aneirin Hughes fel Prif Uwch-arolygydd Brian Prosser, Hannah Daniel fel DS Siân Owens ac Alex Harries fel DC Lloyd Elis.
Bydd yr actor Mark Lewis Jones hefyd yn ymuno â phawb ar gyfer pennod gyntaf y gyfres. ...
Te bach i ddathlu'r Wladfa ar stondin...
03/08/2015
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Iaith, Newyddion
Bydd Prifysgol Bangor yn dathlu 150 o flynyddoedd y Wladfa gyda the bach ar faes yr Eisteddfod yn Meifod i gydfynd gyda chynnal arddangosfa yn dangos casgliad amhrisiadwy yn ymwneud â Phatagonia.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn dod i’r ‘Te bach’ ar stondin Prifysgol Bangor yn yr Eisteddfod Genedlaethol, am 2.30 prynhawn Llun.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: "Rwyf newydd ddychwelyd o Batagonia, lle cefais gyfle i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod.
"Mae gan ddisgynyddion yr ymfudwyr a aeth o Gymru i’r Ariannin le ...
Mynediad am ddim i safleoedd Cadw i d...
03/08/2015
Categori: Hamdden, Iechyd, Newyddion
Cafodd plant maeth ar hyd de Cymru brofiad canoloesol yn ddiweddar, wrth i fudiad Gweithredu dros Blant gynnal picnic i deuluoedd maeth yng Nghastell Caerffili.
Roedd y digwyddiad yn dathlu’r cydweithio parhaus rhwng Cadw a Gweithredu dros Blant ar y Cynllun ar gyfer Teuluoedd Maeth — cynllun sy’n galluogi plant maeth, a’r teuluoedd sy’n gofalu amdanynt, i ymweld â’r holl henebion hanesyddol sydd dan ofal Cadw am ddim.
Yn ystod y digwyddiad am ddim, bu dros 25 o deuluoedd maeth yn cymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol gyda marchog go-iawn, ac yn Neuadd Fawr y castell roedd teuluoedd wedi helpu i osod byrddau ar gyfer gwledd ganolo ...
Penodi bargyfreithiwr blaenllaw ym Mh...
03/08/2015
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Newyddion
Mae Prifysgol Abertawe wedi penodi un o gyfreithwyr mwyaf blaenllaw y Deyrnas Unedig yn Bennaeth Coleg y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol.
Mae Elwen Evans CF wedi gweithredu mewn nifer o achosion llys o bwys: hi oedd y prif erlynydd yn achos llofruddiaeth April Jones a bu'n arwain tîm yr amddiffyniad yn achos trychineb mwyngloddio Gleision. Mae'n Gofiadur Llys y Goron (barnwr rhan-amser) ac mae'n Bennaeth Siambr Bargyfreithwyr o fri ers nifer o flynyddoedd.
Bydd Elwen Evans yn dechrau yn ei rôl newydd yn y Brifysgol ar 1 Awst ac mae'n edrych ymlaen at yr her o helpu i lunio dyfodol maes y gyfraith yng Nghymru a thu hwnt.
Meddai, "Rwy'n credu bod cyfle ...
Colli Cenedlaetholwr brwd
30/07/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Bu farw’r cenedlaetholwr blaenllaw a'r gweriniaethwr Neil ap Siencyn ar 27 Gorffennaf, yn 78 oed.
Yn wreiddiol o Ferthyr Tydfil, fe ymgartrefodd yn Sycharth, Talgarreg, cyn symud i Landysul.
Fe roedd Neil ap Siencyn yn genedlaetholwr a ddaeth i amlygrwydd fel un o hoelion wyth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y dyddiau cynnar cyn mynd ati i sefydlu mudiad Adfer yn yr 1970au a oedd yn credu mewn diogelu’r Fro Gymraeg - ardal gyda'r mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg.
Yn ystod y 1980au, fe fu’n ganolog yn sefydlu Cymdeithas Cyfamodwyr y Gymru Rydd, ble bu’n ymgyrchydd dadleuol dros Gymru Annibynnol. Roedd yn Gymro i’r c ...
Mudiad iaith yn croesawu fod Cyngor M...
30/07/2015
Categori: Iaith, Newyddion
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad pwyllgor cynllunio Cyngor Ynys Môn i wrthod cymeradwyo cynllun dadleuol am y tro i adeiladu parc hamdden ger Caergybi.
Mae’r datblygwyr yn chwilio am ganiatad i greu parc hamdden gyda 500 o dai pren, parc dwr, neuadd chwaraeon a bwyty ym mharc gwledig Penrhos ger Caergybi, gyda’r pwyllgor wedi gohirio’r penderfyniad tan eu cyfarfod nesaf ym mis Medi, gan ofyn am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r cynllun.
Dywedodd Tamsin Davies, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg eu bod yn ddiolchgar i’r cynghorwyr am oedi’r cynllun, ‘Rydyn ni'n diolch i'r cynghorwyr sydd wedi gorf ...
Llond gwlad o ddigwyddiadau yn Y Lolf...
29/07/2015
Categori: Celfyddydau, Llenyddiaeth, Newyddion
Cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru raglen lawn o ddigwyddiadau yn Y Lolfa Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod eleni.
Bydd Y Lolfa Lên yn llwyfan lliwgar hwyliog a fydd yn gartref i dros 40 o ddigwyddiadau llenyddol yng nghwmni rhai o lenorion Cymru.
Yn ol y trefnwyr, "Mae rhaglen ddigwyddiadau Y Lolfa Lên wedi ei llunio ar y cyd ag amryw o weisg a chymdeithasau, a bydd yn cynnwys sgyrsiau, gweithdai, a pherfformiadau ar themâu amrywiol o Dryweryn i lenyddiaeth wleidyddol, o addasu sgriptiau i ddwyieithrwydd mewn diwylliant."
Cyflwynir Y Lolfa Lên gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth gan Academi Hywel Teifi, Cyngor Celfyddyd ...
Galw ar y Prif Weinidog i gymryd cama...
29/07/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Mae mudiad iaith wedi gofyn i'r Prif Weinidog gymryd camau cyfreithiol wedi i bennaeth yr Ardd Fotaneg wrthod cynnal cyfarfod yn Gymraeg gyda nhw.
Ers i bryderon godi am agwedd yr Ardd at y Gymraeg, tua tri mis yn ôl, ceisiodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg drefnu cyfarfod gyda'r corff i drafod ei bolisi iaith.
Yn ôl y mudiad, ar un achlysur, gofynnodd Cyfarwyddwr yr Ardd, Dr Rosie Plummer, i swyddog Cymdeithas yr Iaith Gymraeg beidio ag ysgrifennu at yr Ardd yn Gymraeg.
Ymhlith pryderon y mudiad iaith yw&rs ...
Cyfrol Deyrnged i Merêd
29/07/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Yn dilyn marwolaeth Meredydd Evans yn gynharach eleni, cyhoeddir cyfrol deyrnged iddo sy’n canolbwyntio ar ddau o’i ddiddordebau mawr, sef yr iaith Gymraeg ac Athroniaeth o dan y teitl Hawliau Iaith.
Mynegir gwerthfawrogiad o’i gyfraniadau i’r diwylliant Cymraeg, ac, yn fwy penodol, i athronyddu drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn teyrnged gwbl haeddiannol ohono, ar ddechrau’r gyfrol gan ei golygydd, Gwynn Matthews.
Yn ôl Gwynn Matthews: “Fe uniaethwyd ymgyrchu ac athronyddu yn holl lafur ei fywyd. Mae’n cyrraedd uchafbwynt yn ei ymdrechion dros sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a sicrhau lle anrhydeddus i athroniaeth yn y g ...