Wedi darganfod 64 cofnodion | Tudalen 1 o 7
Actor yn croesawu fod yr Heddlu am ym...
30/06/2015
Categori: Newyddion
Mae’r actor adnabyddus John Pierce Jones wedi croesawu'r datblygiad fod Heddlu De Cymru bellach am gymryd camau i ymchwilio i'r mater, fod un o'i swyddogion wedi ymddwyn yn ‘annerbyniol’ tuag at ei fab Iwan mewn gêm griced rhwng Morgannwg a Surrey.
Fel yr eglurodd John Pierce Jones, "Mi oedd yna ryw griw o hogiau yn yr eisteddle ac wedi bod yn taflu da da a mi ruthrodd yr heddlu yno, ac mi anwybyddodd un linelll o hogiau ond mynd i’r ail linell a phigo ar Iwan a’i dynnu allan. Mae'n rhaid i ni ofyn - pam aeth yr heddwas ar ôl Iwan, a phasio tri neu bedwar o blant eraill? Pam ddim gafael yn un o'i ffrindiau? Ai am ei fod o'n ddu?"
&n ...
Dadorchuddio plac i awdures nodedig
30/06/2015
Categori: Addysg, Iaith, Llenyddiaeth
Dadorchuddiwyd plac yr wythnos diwethaf i goffau’r nofelydd a’r awdures storiau byrion nodedig, y diweddar Margied Pritchard ym Minffordd, Penrhyndeudraeth.
Fe gyhoeddodd Margied Pritchard tair ar ddeg o gyfrolau yn cynnwys chwe chasgliad o storiau byrion, tair nofel, tair drama ynghyd a’r gyfrol Portreadau’r Faner.
Bu’n gyfrifol yr un pryd am golofn wythnosol i’ gylchgrawn Y Faner am saith mlynedd. Roedd hefyd wedi bod yn beirniadu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn cyfrannu erthyglau i gylchgrawn Barn, Taliesin a’r Traethodydd.
Y bwriad oedd sicrhau coffad i’r awdures yn ei bro, fel yr eglurodd Susan Owen a ...
Rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr...
30/06/2015
Categori: Arian a Busnes, Chwaraeon, Iaith, Newyddion
Cadarnaodd y gymdeithas sy'n gyfrifol am bêldroed yn Ewrop - UEFA fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi llwyddo yn ei chais yn 2017 i gynnal Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yng Nghaerdydd.
Hefyd, cadarnhawyd y bydd Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA 2017 yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Iau 1 Mehefin, 2017
Gan siarad am y penderfynid heddiw, meddai Trefor Lloyd Hughes, Llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, “Mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar i Bwyllgor Gweithredol UEFA am roi’r cyfle i’r Gymdeithas, ac i Gymru, lwyfannu un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf y byd.
Yn ôl Trefo ...
Cyhoeddi Eisteddfod Sir Fynwy
29/06/2015
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Hamdden, Newyddion
Daeth cannoedd o drigolion Sir Fynwy a’r Cyffiniau i dref Cil-y-Coed dros y penwythnos ar gyfer Cyhoeddi Eisteddfod 2016, a gynhelir ar gyrion tref Y Fenni y flwyddyn nesaf.
Gyda dau lwyfan yng nghanol y dref a rhaglen lawn o weithgareddau drwy’r dydd, roedd yr ardal yn llawn bywyd a bwrlwm, ac yn gyfle i ysgolion, corau, dawnswyr a pherfformwyr o bob math ddangos eu doniau a rhoi blas o’r hyn sydd i ddod yn yr Eisteddfod ei hyn y flwyddyn nesaf.
Ddechrau’r prynhawn, gorymdeithiodd Gorsedd y Beirdd a channoedd o gynrychiolwyr o gymdeithasau a sefydliadau lleol o’r dref i Gastell Cil-y-Coed, gyda thrigolion yr ardal hefyd yn ymuno yn yr or ...
Gwahoddiad swyddogol i'r Brifwyl i Fôn
29/06/2015
Categori: Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Hamdden, Iaith, Newyddion
Pleidleisiodd dros 250 o drigiolion Môn yn unfrydol dros wahodd yr Eisteddfod i’r ynys yn 2017 mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llangefni ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.
Bwriad y cyfarfod oedd cadarnhau bod trigiolion yr ardal yn awyddus i weld yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yn lleol, ac roedd brwdfrydedd a chefnogaeth pawb yn amlwg pan alwodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Cyng. Ieuan Williams, am y bleidlais.
Amlinellodd Trefnydd yr Eisteddfod, Elen Elis, strwythur y prosiect dros y ddwy flynedd nesaf, a bydd y gwaith hwn yn cychwyn yn yr hydref, wrth gynnal cyfarfod yn Ysgol Llangefni nos Lun 5 Hydref i greu’r pwyllgorau a fydd yn arwain y ...
Conwy ymhlith y llefydd harddaf yn Ewrop
29/06/2015
Categori: Hamdden, Newyddion
Mae tref gaerog hynafol Conwy a’i chastell sy’n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd wedi’i dewis yn un o’r 30 lle Harddaf yn Ewrop. Conwy oedd yr unig le yn y Deyrnas Unedig oedd ar y rhestr hyrwyddo arbennig ar gyfer ymwelwyr o Japan.
Roedd y cyfle i Gonwy gael ei ystyried fel un o'r 30 lle gorau yn Ewrop yn syniad a awgrymwyd gan Gymdeithas Asiantau Teithio Siapan yn ystod cyfarfod gyda Croeso Cymru a'r swyddfa Llywodraeth Cymru Tokyo yn Japan ym mis Mawrth. Fe gafodd 157 o ymgeiswyr eu hystyried fel pentrefi Ewropeaidd hardd ac fe gafodd yr enwau eu casglu gan asiantaethau teithio, trefnwyr teithiau, byrddau twristiaeth, cwmnïau awyrenn ...
Taith i Frwsel i enillwyr Eisteddfod ...
29/06/2015
Categori: Cystadlaethau, Eisteddfod yr Urdd, Iaith, Newyddion
Bydd Holly Megan Evans o Faenclochog a Sian Elin Williams o Bencarreg yr wythnos hon yn teithio i Frwsel gyda’r Urdd yn dilyn eu perfformiad yng nghystadlaethau siarad cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch.
Cafodd y ddwy eu dewis gan y beirniaid, Richard Morris Jones, fel y ddwy mwyaf addawol yn y cystadlaethau siarad cyhoeddus. Roeddent yn cystadlu fel rhan o dîm, Sian Elin gydag Aelwyd Pantycelyn a Holly gydag Ysgol y Preseli.
Yn ystod eu deuddydd ym Mrwsel mi fyddant yn cysgodi Mr Tom Jones, cynrychiolydd Cymru a’r Deyrnas Unedig yn y Cyngor Economaidd a Chymdeithasol. Byddant yn ymweld â’r Senedd Ewr ...
Deiseb dros addysg Gymraeg yn Wrecsam...
26/06/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Mae deiseb sy’n ymgyrchu dros gynyddu addysg Gymraeg yn ardal Wrecsam wedi llwyddo i gyrraedd dros 700 o lofnodion hyd yma, gyda'r ddeiseb yn galw am arolwg i asesu’r galw am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ôl y ddeiseb, "Mae galw cynyddol am addysg Gymraeg yn Wrecsam a galwn ar y Cyngor i asesu'r galw at y dyfodol drwy gynnal arolwg tebyg i un yn 2007, pan holwyd rhieni plant dwyflwydd oedd yn y sir."
Mae’r ddeiseb yn nodi fod angen i’r cyngor ystyried yr angen am greu ysgol newydd am fod y ddarpariaeth bresennol yn anigonol, "Dangosodd hyn y byddai 44% yn danfon eu plant i ysgol Gymraeg pe bai o fewn dwy filltir i'r cartref. O ganlyni ...
Llywodraeth Cymru yn rhoi dros £2 fil...
26/06/2015
Categori: Arian a Busnes, Newyddion
Cyhoeddodd y Gweinidog Cymunedau, Lesley Griffiths y bydd gwasanaethau cynghori sy’n helpu pobl fregus ar hyd a lled Cymru yn cael dros £2 filiwn o gymorth.
Gyda’r grant, bydd Cyngor ar Bopeth Cymru, Shelter Cymru, SNAP Cymru, Age Cymru a Tenovus Gofal Canser yn gallu cynnig gwasanaethau cynghori am ddim ar amrywiaeth o faterion pwysig sy’n gallu effeithio’n ddirfawr ar fywydau pobl; materion fel canser, tai, swyddi a dyledion.
Bydd y buddsoddiad parhaus yn galluogi sefydliadau i ychwanegu at yr holl waith da y llwyddon nhw i’w gyflawni y llynedd. Dengys ymchwil eu bod wedi ymateb i 30,000 o geisiadau am wybodaeth a chyngor yn 2014/15 a s ...
Ywain Gwynedd yn ymuno gyda thîm Gwef...
26/06/2015
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Hamdden, Newyddion
Bu eleni yn flwyddyn i'w chofio i’r canwr Ywain Gwynedd wrth iddo ddod yn dad am y tro cyntaf, tra'r enillodd wobr Selar am ganwr roc a phop Cymraeg gorau’r flwyddyn, a bellach mae hefyd yn un o banelwyr cyfres banel hwyliog S4C, Gwefreiddiol.
Bydd Gwefreiddiol yn dychwelyd i’r sgrin nos Wener, 3 Gorffennaf, gyda’r cyflwynydd Dylan Ebenezer yn ceisio cadw trefn ar y ddau gapten Ywain Gwynedd a Dyl Mei.
“Ro’n i’n teimlo’r pwysau pan ‘nes i ddechrau; bod rhaid i mi ddweud rhywbeth doniol. Ond erbyn hyn dwi’n teimlo ‘mod i’n cael hwyl yng nghwmni mêts,” meddai Ywain, sy’n wreiddiol o Lanf ...