Wedi darganfod 62 cofnodion | Tudalen 4 o 7
Ysgol Sul yn lansio sengl newydd
16/03/2015
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion
Bydd ail sengl y band addawol Ysgol Sul, 'Machlud Haul' yn cael ei rhyddhau ar label Ikaching heddiw. Daw’r sengl allan yn dilyn gwobrwyo Ysgol Sul yn fand newydd gorau 2014 gan Gwobrau Selar a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Prawf o lwyddiant y sengl gyntaf - ‘Aberystwyth yn y Glaw’ a ryddhawyd fel rhan o Glwb Senglau Y Selar - oedd ymateb y dorf yng Ngwobrau’r Selar a oedd yn symud mewn undod i’r gân honno.
Yn ôl y label,"Er y clod a ddaw o’r teitl hwnnw, mae sŵn Ysgol Sul yn cynnig pecyn llawer aeddfetach. Mae’r triawd o Landeilo wedi perffeithio eu sŵn lo-fi indie, shoegaze ...
Lansio gwefan newydd i annog pobl dde...
16/03/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Lansiwyd gwefan newydd ‘Cymraeg’ yn annog pobl Cymru gyfan i ddefnyddio’r safle er mwyn dysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith fel rhan o’u bywyd bob dydd – beth bynnag yw lefel eu Cymraeg.
Gwefan Cymraeg yw’r gyntaf o gyfres o is-wefannau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu lansio ar barth newydd .cymru a .wales.
Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg – gyda’r teulu, gyda phlant a phobl ifanc yn eu harddegau, ac yn y gweithle. Caiff nodweddion ychwanegol newydd eu cyflwyno dros y misoedd i ddod fel rhan o waith parhaus i ddatblygu’r wefan ymhellach a ...
'Cyfle euraidd i gryfhau'r Gymraeg yn...
16/03/2015
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith
Mae gan Gyngor Sir Ddinbych gyfle euraidd i gryfhau’r Gymraeg yn y sir trwy sefydlu ysgol Gymraeg newydd yno. Dyma yw galwad cangen Rhieni dros Addysg Gymraeg Sir Ddinbych wrth ymateb i ymgynghoriad ar ad-drefnu ysgolion Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd sy’n dod i ben heddiw.
Daw hyn wrth i’r mudiad baratoi at gyfarfod arbennig gyda’r Sir i drafod dyfodol Ysgol Pentrecelyn a Llanfair Dyffryn Clwyd fel rhan o sgwrs ehangach am agwedd y sir tuag at yr iaith Gymraeg.
Meddai Elfed Williams, Cadeirydd RhAG Sir Ddinbych, “Derbyniwn fod gan y sir awydd i hyrwyddo dwyieithrwydd, yn unol ag amcanion Llywodraeth Cymru. Mae Strategaeth Addysg Cyfrwng ...
'Angen gweithredu brys ar ddysgu Cymr...
13/03/2015
Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu sylwadau Carwyn Jones gerbron pwyllgor y Cynulliad heddiw am fethiannau dysgu'r Gymraeg fel ail iaith.
Croesawodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y ffaith fod y Prif Weinidog yn cydnabod yr angen am weithredu ar ddiwygio addysg ail iaith, "Fe gafodd y Llywodraeth gyfle i daclo'r problemau drwy gam cyntaf yr adolygiad cwricwlwm ynghylch llythrennedd a rhifedd.", yn ôl Ffred Ffransis.
"Fodd bynnag, rydym yn falch iawn nad yw'r Llywodraeth wedi diystyrru argymhellion yr Athro Sioned Davies, a bod awydd gan Carwyn Jones i weithredu ar frys. Fel mae'r adroddiad yn dweud, mae hi'n unfed awr ar ddeg arnom ni."   ...
Cofiwch am ddydd Sul y Mamau
13/03/2015
Categori: Hamdden
Cofiwch ei bod yn ddydd Sul y Mamau y dydd Sul hwn a dyma’r amser perffaith i archebu bwrdd at y cinio dydd Sul cyn iddynt lenwi neu brynu cerdyn neu anrheg. Dyma’r amser o’r flwyddyn ble yr ydych yn rhoi’r holl sylw i’r mamau yn ein plith. Ond beth yw’r cefndir wrth inni ddathlu ein mamau?
Yn hanesyddol ac yn draddodiadol, mae’r fam yng Nghymru wedi cael ei gweld fel conglfaen y teulu o fewn cymunedau diwydiannol ac amaethyddol, yn rhedeg y gwaith ty ac yn cadw’r teulu at ei gilydd. Mae’n wir mai ystrydeb hen ffasiwn yw hyn erbyn hyn, ac mae rol y fam wedi newid yn sylweddol yn ail rhan yr ugeinfed ganrif o fewn cymdeithas ...
Y gwaith wedi dechrau ar ail-greu Lly...
13/03/2015
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden
Mae’r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau ar ‘gynllun archeolegol mwyaf cyffrous Cymru’ i ail-greu Llys Tywysogion Gwynedd Rhosyr yn Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd. Aeth Lleol.Cymru i holi’r Amgueddfa am y gwaith hyd yma.
Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa fod y gwaith wedi cychwyn ar brosiect tra anarferol i Sain Ffagan, “Erbyn hyn mae’r seiliau yn eu lle ac mae siâp yr adeilad i’w weld yn glir a’r waliau wedi codi rhyw dair troedfedd. Yn wahanol i brojectau arferol Sain Ffagan, ni fydd yr Amgueddfa yn cyffwrdd pen bys â’r meini ym Môn ond yn hytrach yn defnyddio canlyniadau cloddio arche ...
Dau ap newydd i grwydro cefn gwlad Cymru
12/03/2015
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hamdden
Cafodd dau ap newydd ei lansio gan Cyfoeth Naturiol Cymru heddiw ar gyfer ffonau clyfar, er mwyn i bobl allu gwneud y gorau o gefn gwlad Cymru.
Mae’r ap sy’n rhad ac am ddim o’r enw ‘Places to Go’ yn dangos y mannau y gellir crwydro yng nghoedwigoedd cyhoeddus a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol Cymru.
Mae’r ap ‘Place Tales’ ar y llaw arall yn esbonio treftadaeth naturiol a diwylliannol y safleoedd hyn, gan gynnwys llwybrau clywedol a chwedlau gwerin, sy’n dod â’r lleoedd chwedlonol yma’n fyw.
Meddai Steven Richards-Price, ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, “Mae mentro allan i’r awyr ago ...
Mwy o ysgoloriaethau gan y Coleg Cymr...
12/03/2015
Categori: Addysg, Iaith, Newyddion
Bydd mwy o gyrsiau nac erioed mewn sawl maes yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth William Salesbury sy’n werth £5000 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni.
Cafodd yr ysgoloriaeth ei chynnig am y tro cyntaf y llynedd gan Ymddiriedolaeth Cronfa William Salesbury, er mwyn ysgogi darpar fyfyrwyr i fanteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg prifysgolion Cymru.
Mae dros 60 cwrs gradd ar gael yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg ac felly’n gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni a bydd gan ymgeiswyr tan 20 Mawrth i gyflwyno cais.
Mae amrywiaeth eang o feysydd gan gynnwys Cymdeithaseg, Newyddiaduraeth, Ffrangeg a Hanes yn gymwys ar gyfer yr ysgoloriaeth eleni yn o ...
Dechrau cyfres Cymry'r Cant
12/03/2015
Categori: Hamdden, Newyddion
Bydd cyfres Cymry’r Cant yn dechrau ar S4C nos Sul, sy'n edrych ar Gymry sydd wedi dathlu eu canfed pen-blwydd – a mwy.
Does dim llawer o bobl yn y byd yn gallu dweud eu bod wedi’u geni cyn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn cofio David Lloyd George yn Brif Weinidog. Ond mae Hugh Lloyd Jones o Lanfairfechan yn un.
Gyda direidi yn ei lygaid bydd Hugh yn adrodd hanesion ei fywyd lliwgar yn Cymry’r Cant. Gyda’i ddawn dweud ryfeddol, nid oes syndod i Hugh Lloyd Jones gyrraedd y brig mewn sawl gyrfa.
Ganed Hugh ym 1913, ac mae wedi ei enwi ar ôl y canghellor ar y pryd, y Cymro Lloyd George. Mae’r gŵr 101 oed yn dipyn o seleb yn e ...
Protest yn erbyn Wylfa B
12/03/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iechyd, Newyddion
Cafodd protest heddychlon ei chynnal heddiw ar Bont Borth sy’n croesi i Ynys Môn i gofio pedair blynedd ers y ffrwydrad yn Atomfa Fukushima yn Japan, gyda’r trefnwyr hefyd yn rhybuddio yn erbyn codi atomfa yn Ynys Môn.
Dywedodd llefarydd PAWB neu Pobol er atal Wylfa B, Robert Idris, “Mae’n bwysig i gofio’r miloedd o bobl a gafodd eu gorfodi i adael eu cartrefi yn ardal Fukushima yn 2011 a’r cannoedd o weithwyr a beryglodd eu bywydau yn trio atal trychineb mwy byth."
Ychwanegodd hefyd fod gwleidyddion yng Nghymru yn cymryd trywydd annoeth yn cymeradwyo Wylfa arall, “Wrth gofio bod y damwain niwclear yn ...