Wedi darganfod 55 cofnodion | Tudalen 1 o 6
Na i Adar Angau, yn ôl Cymdeithas y C...
30/01/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Mae'r ymgyrch gan Gymdeithas y Cymod er mwyn codi ymwybyddiaeth yn erbyn profi awyrennau di-beilot neu drôns yng Nghymru wedi codi stem.
Daw hyn yn dilyn sêl bendith Llywodraeth Cymru i QinetiQ sy’n gwmni arfau rhyngwladol i brofi a datblygu drones ym Maes Awyr Llanbedr ger Harlech, gyda'r llwybr awyr i Aberporth ac Epynt yn cael eu defnyddio i werthuso y drons milwrol ac mae hyn i gyd i ddechrau eleni.
Aeth Lleol.Cymru i siarad gyda Awel Irene o Gymdeithas y Cymod sy’n egluro camau nesaf yr ymgyrch,
Meddai, "Mi ydan ni yn ceisio codi ymwybyddiaeth yn lleol i'r adar angau. Mi oedden nhw yn deud fod nhw’n dechrau pro ...
Mudiad iaith yn galw ar Lywodraeth Cy...
30/01/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Galwodd Cymdeithas yr Iaith Cymraeg ar Lywodraeth Cymru i dderbyn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd am y Bil Cynllunio a gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r pwyllgor yn cefnogi nifer o brif argymhellion y mudiad iaith gan gynnwys gwneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol gan sefydlu cyfundrefn o asesiadau effaith iaith i'r drefn gynllunio.
Wrth groesawu'r argymhellion dywedodd Tamsin Davies, ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n croesawu'r adroddiad yn fawr iawn, yn enwedig ei gefnogaeth i roi'r Gymraeg yn ganolog i'r system ac i rymuso ein cymunedau. Rydyn ni nawr yn disgwyl i'r Llywodraeth dderbyn yr argymhellion, a fyddai'n gwneud y sys ...
Gwobr arall i Defaid a Dringo
30/01/2015
Categori: Amaethyddiaeth, Celfyddydau, Hamdden
Mae Ioan Doyle yn hen law wrth ddringo rhai o glogwyni anoddaf Eryri a thu hwnt, ond mae'r hogyn o Fethesda wedi dringo i'r brig mewn sawl gŵyl ffilm hefyd.
Yn ddiweddar enillodd y ffilm ddogfen, Defaid a Dringo sy'n dilyn Ioan yn bugeilio a dringo wobr am y ffilm ddringo orau yng Ngŵyliau Ffilm Mendi, Bilbao, Sbaen.
Yn ystod y deunaw mis diwethaf mae'r rhaglen wedi ennill gwobrau mewn gŵyliau antur, dringo a mynydda mewn gwyliau ffilm yn Slofacia, Y Weriniaeth Tsiec, Canada, Awstria, Cumbria, Ffrainc, Sbaen, Swistir, Yr Alban.
Mae'r ffilm ddogfen Defaid a Dringo, sydd wedi ei chynhyrchu gan Cwmni Da, yn dilyn Ioan Doyle yn ystod blwyddyn o'i fywyd - sy'n cynnwys e ...
Pobl yn llai tebyg o drydar yn y Gymraeg
29/01/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Canfuwyd mai defnyddwyr Trydar Cymraeg ei hiaith sydd yn lleiaf tebyg o drydar yn y Gymraeg o gymharu gyda defnyddwyr Facebook yn ôl arolwg a gyhoeddwyd heddiw gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru.
Yn ol yr adroddiad, mae 1 ym mhob 8 o siaradwyr Cymraeg yn anfon negeseuon testun at ffrind yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf, ac mae 1 ym mhob 10 yn anfon e-bost yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf. Mae 9 y cant o oedolion yn ysgrifennu yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf ar Facebook a 6 y cant yn ysgrifennu yn Gymraeg bob amser neu’n bennaf ar Twitter.
Yn arwyddocaol, mae yna gwymp o 1% yn y nifer sy’n gweld eu hunai ...
Apêl i sicrhau dyfodol Ffermwyr Ifanc...
29/01/2015
Categori: Amaethyddiaeth, Gwleidyddiaeth, Newyddion
Cafwyd apêl gan Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru i randdeiliaid i helpu i sicrhau ei ddyfodol, yn dilyn newyddion bod y mudiad i golli ei brif ffynonellau cyllid o ddwy ffrwd.
Yn y gorffennol mae’r cyllid hanfodolyma wedi dod gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru trwy raglen grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol wedi bod yn gyfrwng i alluogi’r mudiad i gynnal rhaglen lewyrchus o addysg a datblygiad personol i’w 6,000 o aelodau ar draws 155 o glybiau ledled Cymru.
Meddai Cadeirydd CFfI Cymru, Iwan Meirion: “Rydym yn hynod siomedig o dderbyn y newyddion hyn gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Chyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedl ...
Gwadu fod Trident yn dod i Gymru
28/01/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Gwadodd Llywodraeth Cymru yr adroddiadau ar dudalen flaen y Daily Mail yn yr Alban bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn cynllunio yn gyfrinachol i symud llongau tanfor niwcliar Trident o’r Alban i Gymru.
Wrth ymateb i’r honiadau yn y papur newydd, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd yna gynlluniau i symud yr arfau niwcliar, "Er nad yw amddiffyn yn bwnc sydd wedi’i ddatganoli, mae Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau fod Trident yn aros yn yr Alban.”
Mae Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i’r posiblrwydd o adleoli Trident i Gymru. Un o’r mannau sy’n cael ei hystyried yn ôl yr adroddiad yw Aberdaugleddau.
...
Iolo yn derbyn gradd anrhydedd gan Br...
28/01/2015
Categori: Addysg, Newyddion
Cafodd yr arbenigwr adar a’r darlledwr adnabyddus, Iolo Williams ei wobrwyo gyda gradd anrhydedd gan Brifysgol Abertawe yr wythnos hon.
Wrth gyflwyno’r wobr, dywedodd Athro Steve Wilks, Dirprwy Is-Ganghellor Dynodedig, “Mae Iolo yn dangos rhinweddau yr ydym yn ceisio datblygu a’u hannog ar bob lefel ym Mhrifysgol Abertawe i ychwanegu gwerth at brofiad y myfyrwyr."
Ychwanegodd, "Yn ystod ei gysylltiad 15 mlynedd â Phrifysgol Abertawe, mae Iolo wedi defnyddio ei broffil cyhoeddus i bwysleisio materion amgylcheddol a helpu’r Coleg Gwyddoniaeth i gyrraedd y gymuned ehangach."
Meddai Iolo am yr anrhydedd: “Rwy wedi gweithi ...
herio penderfyniad dros y mesur cynll...
28/01/2015
Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion
Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y byddent yn dechrau ymgyrch codi arian, gyda’r bwriad o herio penderfyniad gweinidogion llywodraeth Cymru dros y ddeddfwriaeth gynllunio yn y llys.
Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn datgan bod rhaid i'r Llywodraeth gymryd 'sylw dyladwy' o gyngor ysgrifenedig Comisiynydd y Gymraeg. Mae Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, wedi ysgrifennu ddwywaith at y Llywodraeth gyda chyngor ynglŷn â'r Bil Cynllunio, gan dynnu sylw at wendidau ac anghysonderau'r drefn bresennol o ran yr iaith, ac yn argymell gwelliannau penodol i'r Bil.
Yn ôl ...
Galw am ymrwymiad i daclo cwmnïau rhy...
27/01/2015
Categori: Arian a Busnes, Gwleidyddiaeth, Newyddion
Mae 17 o sefydliadau wedi dod ynghyd i alw am ymrwymiadau gan bob plaid wleidyddol i sicrhau ei bod yn mynd i ‘rafael â chwmnïau rhyngwladol sy’n osgoi talu treth.
Yn ol y glymblaid o sefydliadau sy’n cynnwys elusennau fel Oxfam, Cymorth Cristnogol ac ActionAid, mae’r ffaith fod cwmnïau rhynglwladol yn osgoi trethi yn amddifadu’r tlotaf mewn cymdeithas o arian hanfodol.
Mae ymgyrch Y Mesur Osgoi Trethi, yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i gyflwyno’r Mesur o fewn y 100 diwrnod cyntaf wedi’r etholiad er mwyn mynd i’r afael â chwmnïau corfforaethol sy’n osgoi talu trethi ac i sicrhau ...
Ar ei feic dros Ambiwlans Awyr Cymru
26/01/2015
Categori: Eisteddfod yr Urdd, Hamdden, Llythyron
Bydd eleni yn argoeli’n flwyddyn a hanner i fyfyriwr o’r Efailwen yn Sir Gaerfyrddin a fydd yn beicio o amgylch Cymru i godi arian at Ambiwlans Awyr Cymru, ac wedyn yn mynd i Batagonia yn Awst fel aelod o gwmni drama yn perfformio drama gerdd y Mimosa.
Aeth Lleol.Cymru i holi Gwyndaf Lewis sy’n gwneud gradd mewn perfformio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant am ei anturiaethau eleni yng Nghymru a Phatagonia.
Bydd y pedlo yn dechrau o ddifrif yng Ngwersyll yr Urdd, Glanllyn ger Y Bala gan orffen yng ngwersyll mwyaf newydd yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd.
Wrth lansio’r ymgyrch i godi arian, dywedodd, "Ers imi ...