Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 82 cofnodion | Tudalen 8 o 9

Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r...

06/03/2013
Categori: Barn, Celfyddydau, Cerddoriaeth

Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r Eos. Gan John Pierce Jones


Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r Eos. Gan John Pierce Jones

Mae dyddiadur dechrau blwyddyn y Dyn Mynd a Dwad yn cofnodi ei fod eisoes eleni wedi ymddiddori yn rhywioldeb y Frenhines Fictoria ac wedi tynnu cerddorion i’w ben.
 
Ar ôl dychwelyd o Fôn i’r brifddinas i groesawu’r Flwyddyn Newydd, cefais hi’n anodd ailafael yn fy ngwaith. Profiad digon cyffredin reit siwr. Mae gen i domen o waith ysgrifennu ac mae’r dyddiad y cytundebais i’w gwblhau yn dod yn nes ac yn nes. Ar ben hynny mae gen i ddau arholiad morwrol i’w sefyll mewn rhyw dair wythnos. Yn lle torchi llewys a mynd ati rhag blaen dwi’n gwneud pob dim ond agor y cyfrifiadur. Gwyliaf ffilmiau ‘Carry On’ yn y pnawni ...

darllenwch mwy

Cylchgrawn Tu Chwith ar y thema ‘Digi...

06/03/2013
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion

Cylchgrawn Tu Chwith ar y thema ‘Digidol’


Cylchgrawn Tu Chwith ar y thema ‘Digidol’

Bydd rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Chwith, ar y thema ‘Digidol’ yn cael ei gyhoeddi cyn hir.  Bydd y rhifyn hwn yn trafod datblygiadau digidol, boed hynny ym myd e-newyddiaduraeth, gemau cyfrifiadurol, celf a llenyddiaeth.  Bydd y rhifyn yn camu i fyd y blogio, trydar ac i oes bell, bell yn ôl pan ddaeth y cyfrifiadur i ddisodli’r cwilsyn.  Bydd gennym eitem ar Ŵyl Gelf Ddigidol Blinc, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yng Nghonwy, lle mae nifer o artistiaid yn cael eu comisiynu i drawsnewid y dref yn oriel gelf ryngweithiol.  Dyma ŵyl sydd gwironeddol werth ymweld â hi.

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd golygydd gwadd ar gyfer y rh ...

darllenwch mwy

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015 yn...

06/03/2013
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015 yn ôl i Feifod


Eisteddfod Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2015 yn ôl i Feifod

Heddiw (4 Mawrth), cyhoeddwyd mai tro Maldwyn fydd hi i roi cartref i’r Eisteddfod Genedlaethol ymhen dwy flynedd yn 2015, a chynhelir y cyfarfod cyhoeddus cychwynnol yn yr Institiwt, Llanfair Caereinion am 19.30, nos Lun 15 Ebrill.

Bwriad y cyfarfod hwn yw egluro rhywfaint am ymweliad yr Eisteddfod â’r ardal o 31 Gorffennaf – 8 Awst 2015, ac i ddechrau ar y paratoadau a’r ethol pwyllgorau a fydd yn digwydd yn fuan ar ôl y cyfarfod cychwynnol.

Meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod,”Braf yw cyhoeddi ein bod yn dychwelyd i Faldwyn, i Feifod, ac i gaeau Mathrafal, cartref yr Eisteddfod yn 2003, ymhen dwy flynedd. Bu hon yn wythnos lw ...

darllenwch mwy

Yr Awr Gymraeg

27/02/2013
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Yr Awr Gymraeg


Yr Awr Gymraeg

Mae’r Awr Gymraeg ar Trydar bob nos Fercher rhwng 8.00 a 9.00 yr hwyr. 
Cyfle i fusnesau Cymraeg i hyrwyddo eu hunan, digwyddiadau neu cyfleoedd arbennig. Trydarwch y neges ar Trydar gyda "hashtag" #yagym a mwynhewch gynulleidfa o amgylch Cymru! Mae llawer yn gweld budd arno yn barod!
 
...does dim rhaid trydar yn Gymraeg! 
 
 
Cofiwch medrwch chi ddod o hyd i fusnes, digwyddiad, swydd, bargen, eitemau marchnad yn lleol neu yn genedlaethol drwy fynd i'r adrannau perthnasol uwchben.
 
Os ydych yn gweithio i neu’n cynrychioli busnes, sefydliad, elusen, ysgol, coleg neu brifysgol a’ch bod yn awyddus i hyrwyddo eich gwasanaeth Cymraeg, hysbysebion ...

darllenwch mwy

Diwrnod y Llyfr 2013

27/02/2013
Categori: Addysg, Celfyddydau, Newyddion

Diwrnod y Llyfr 2013


Diwrnod y Llyfr 2013

Cynhelir Diwrnod y Llyfr 2013 ddydd Iau , 07 Mawrth.
 
Cefnogaeth Enwogion
 
Aled Sion Davies, enillydd dwy fedal yn y Gêmau Paralympaidd, a’r nofwraig Olympaidd Georgia Davies, yw wynebau newydd Diwrnod y Llyfr 2013 yng Nghymru.
 
Yn dilyn eu llwyddiant anhygoel yn eu gwahanol gampau yn 2012, mae’r ddau wedi cytuno i roi cyhoeddusrwydd i’r ymgyrch ddarllen flynyddol bwysig hon yng Nghymru.
 
Bydd dros 10,000 o bosteri Diwrnod y Llyfr yn dangos delweddau o’r athletwyr yn cael eu dosbarthu trwy Gymru benbaladr yn y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod y Llyfr ar 7 Mawrth.
 

 

 

 

 

Mwy yma

Yr heddlu am holi dyn yn dilyn mosodi...

25/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio wedi i actor gael ei anafu'n ddifrifol wedi rhyddhau llun o ddyn maen nhw'n awyddus i siarad â fo.
 
Mae Rhys ap William, 37 oed, yn gwella ar ôl ymosodiad y tu allan i dafarn yng Nghaerdydd yn ystod oriau man bore Sul.
 
Yn ôl yr heddlu, fe gafodd yr actor ei ddarganfod gydag anafiadau difrifol i'w ben y tu allan i dafarn yr Admiral Napier ar Heol Ddwyreiniol Y Bont-faen yn Nhreganna, tua 0.19am.Llun CCTV Mae'r heddlu'n awyddus i siarad gyda'r dyn yma a welwyd ger y dafarn
 
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i adroddiadau am y digwyddiad ac yn apelio am dystion.
 
Maen nhw'n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yng ng ...

darllenwch mwy

Dangos Talent Newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

20/02/2013
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Bydd prosiect Mentro CDG Sir Gâr yn cynnal ‘Ar y Tracs’, cyfres o berfformiadau byw ar drên Rheilffordd Calon Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.

Gan adael o Lanymddyfri, bydd teithwyr yn mwynhau perfformiadau byw gan artistiaid newydd gorau Sir Gâr wledig wrth i’r trên fynd trwy Langadog, Ffairfach, Rhydaman a Llangennech cyn cyrraedd Llanelli.

Bydd y perfformiadau yn cynnwys: setiau acwsteg gan Gillie Rowland a Martin Goddard, barddoniaeth gan Frank Thomas, caneuon gwerin gyda’r Aunty Depressants a set gan y DJ Jason Lye Phillips.

Mae’r holl artistiaid sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad wedi gweithio’n agos gy ...

darllenwch mwy

S4C yn gwahodd syniadau o ran sefydlu...

07/02/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Fel rhan o astudiaeth i'r posibilrwydd o adleoli rhannau o S4C, mae'r darlledwr wedi gwahodd ymateb gan gyrff neu sefydliadau fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda S4C i chwilio am leoliadau newydd.Mae modd i unrhyw gorff, sefydliad neu gwmni gyfrannu syniadau sut y gallen nhw gydweithio ag S4C ac eraill i roi cartre’ newydd i rannau o waith y Sianel mewn unrhyw ran o Gymru.Yn ôl Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Marchnata a Phartneriaethau S4C, Garffild Lloyd Lewis, fe fydd natur yr ymateb yn helpu S4C i i wneud penderfyniadau pwysig ynglyn â’i dyhead i symud rhannau o’r gwaith i rannau eraill o Gymru.Dywedodd Garffild:“Mae’r gwahoddiad yma yn un agored ...

darllenwch mwy

Dysgwr Cymraeg o Lundain yn canu'r an...

02/02/2013
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth

Mae Simon Howard sy’n enedigol o Newcastle wedi bod yn byw yn Llundain am y 13 blynedd diwethaf ac wedi bod yn dysgu Cymraeg yn raddol bach.
 
Mae ganddo chwaer sydd wedi priodi a Chymro ac o ganlyniad i hyn mae wedi dysgu ambell air Cymraeg a nawr yn galw eu hun yn Gymro.
 
Dyma fe yn chwarae’r Ukulele ac yn canu’r anthem genedlaethol Cymru.
 
 

 

Invertigo, Saer Doliau

31/01/2013
Categori: Celfyddydau

Sion Alun Davies a Louise Best ar gyfer Invertigo Theatre Company mewn cydberthynas â Neil McPherson ar gyfer y Finborough Theatre yn cyflwyno’r perfformiad cyntaf yn Lloegr:
 
SAER DOLIAU gan Gwenlyn Parry Cyfarwyddwyd gan Aled Pedrick.
 
“Pam na cha’ i lonydd gynnoch chi? Wnes i ddim byd i haeddu cael fy nhrin fel hyn.”
 
Bydd y perfformiad cyntaf erioed yn Lloegr o glasur Gwenlyn Parry, ‘Saer Doliau’ - wedi ei berfformio yn y Gymraeg - yn agor yn y Finborough Theatre yn Llundain am gyfnod cyfyngedig o naw perfformiad Nos Sul a Llun a Matinee dydd Mawrth o Ddydd Sul y 3ydd Chwefror 2013 (Noson y wasg: Dydd Llun, 4 Chwefror 20 ...

darllenwch mwy