Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 82 cofnodion | Tudalen 5 o 9

Wythnos Ddigidol Caerdydd

13/06/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Iaith

Wythnos Ddigidol Caerdydd
24 - 27 Mehefin, 2013Sgyrsiau, hyfforddiant a digwyddiadau am ddim ar gyfer y diwydiannau creadigol a digidolCynhelir gan Ganolfan Mileniwm Cymru
 
Bydd Wythnos Ddigidol Caerdydd yn dwyn ynghyd y talent gorau yn y sectorau cyhoeddus, preifat, addysgol a hyfforddiant i archwilio arloesedd, cyfleoedd a syniadau newydd ar draws yr holl sbectrwm digidol. Caiff y digwyddiad ei arwain gan nifer o bartneriaid, yn cynnwys BBC Cymru Wales, S4C, Cyngor Caerdydd, Creative Skillset Cymru, BAFTA Cymru, Academi Cyfryngau Cymru a Llywodraeth Cymru.
 
Bydd uchafbwyntiau’r wythnos yn cynnwys Diwrnod Dyfodol Digidol, a fydd yn edrych ar sut beth fydd darlledu dig ...

darllenwch mwy

Wythnos Wych i’r Urdd yn Sir Benfro

03/06/2013
Categori: Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Ar ddiwrnod olaf Eisteddfod yr Urdd yn Sir Benfro, mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi iddynt gael wythnos wych gyda phopeth wedi mynd yn hwylus.
 
Roedd 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda bron i 500 o wirfoddolwyr yn stiwardio.  Gosodwyd 2,316  o dracfyrddau i gynorthwyo traffig a cherddwyr o amgylch y safle a defnyddiwyd 710 medr o geblau trydan, yr un faint â sydd ei angen i bweru pentref bychan.
 
Un o’r llwyddiannau oedd yr ap, grewyd yn arbennig ar gyfer yr Eisteddfod, diolch i gefnogaeth S4C.  Mae dros 11,000 wedi lawrlwytho’r ap ers ei lansio 10 diwnrod yn ôl, 90% o’r defnyddwyr wedi rhoi 5 seren iddo ac yn ystod yr ...

darllenwch mwy

Ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 201...

30/05/2013
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gael nawr


Ap newydd Eisteddfod 2013

Mae ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gael NAWR!
 
Mae'r ap yn cynnwys amserlen lawn o'r cystadlaethau, canlyniadau'r wythnos, gweithgareddau'r maes ac mae hefyd modd i chi greu eich amserlen bersonol ar gyfer yr wythnos.
 
Cliciwch yma fynd yn syth i'r 'App Store' i'w lawr lwytho ar gyfer yr ipod,iphone neu ipad ac yma ar gyfer android.
 
Cefnogir yr ap gan S4C a datblygwyd gan gwmni Moilin Cyf.



 

Cynnal Gwerthiant Llyfrau Mewn Cyfnod...

24/05/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Cynnal Gwerthiant Llyfrau Mewn Cyfnod Heriol


Cynnal Gwerthiant Llyfrau Mewn Cyfnod Heriol

Er bod siopau’r stryd fawr yn mynd trwy gyfnod pur anodd ar hyn o bryd, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi bod gwerthiant llyfrau drwy eu Canolfan Ddosbarthu yn Aberystwyth yn gyson â gwerthiant y llynedd.
 
"O ystyried y sefyllfa economaidd, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith bod gwerthiant llyfrau o Gymru yn agos iawn at werthiant y llynedd, a gwelwyd cynnydd pellach yng ngwerthiant llyfrau Cymraeg i blant," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau. Canmolodd yr awduron a’r cyhoeddwyr am ddarparu arlwy ardderchog o lyfrau, a’r llyfrwerthwyr hwythau am gynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i’r darllenwyr.
 
"Yn ddiweddar, ...

darllenwch mwy

Bronwen Lewis yn llofnodi cytundeb re...

23/05/2013
Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Mae Bronwen Lewis wedi Trydar fod hi wedi arwyddo cytundeb record chwe mlynedd. Bydd mwy o wybodaeth yn ymddangos yma cyn bo hir.
 
Mae cerddoriaeth wedi bod yn rhan o fywyd y ferch 19 oed, sy'n astudio cwrs sylfaenol yng Ngholeg Celf Sant Martin yn Llundain, ers blynyddoedd.
 
Fe ddechreuodd hi ddysgu'r piano yn nhŷ ei nain pan oedd hi'n bump oed.
 
Isod gwelwch Bronwen yn perfformio yn Gymraeg ar The Voice yn gynharach eleni lle ni chafodd hi ei ddewis gan y beirniaid.


Cyfle i wirfoddoli yn Tafwyl 2013

23/05/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Cyfle i wirfoddoli yn Tafwyl 2013


Cyfle i wirfoddoli yn Tafwyl 2013

Wyt ti eisiau gwirfoddoli yn Tafwyl eleni?
 
Rydym yn edrych i recriwtio unigolion cyfeillgar a brwdfrydig dros 18 oed i wirfoddoli yn Tafwyl eleni. Prif bwrpas rôl y gwirfoddolwyr yw bod yn bwynt cyswllt ar gyfer y cyhoedd, felly bydd angen gwirfoddolwyr hapus a chyfeillgar -- dyma gyfle gwych i fod yn rhan o'r Ŵyl gyffrous hon!
 
Bydd nifer o shifftiau a swyddi stiwardio amrywiol ar gael felly llenwch y ffurflen ar-lein (http://www.tafwyl.org/cyfle-i-wirfodd...)
 
neu cysylltwch â Sara Jones am fwy o fanylion -- sarajones@mentercaerdydd.org / 029 2068 9888.
 

 
www.tafwyl.org

Cymerwch olwg ar lyfryn Gŵyl Tafwyl 2013

23/05/2013
Categori: Bwyd, Celfyddydau, Iaith, Newyddion

Roedd Tafwyl 2012 yn rhan o ŵyl Caerdydd am y tro cyntaf ac yn llwyddiant ysgubol gyda chynulleidfa o dros 8,500 yn mynychu ar y dydd.
 
Eleni byddwn yn adeiladu ar lwyddiant yr ŵyl ac unwaith eto yn cynnal prif ddigwyddiad Tafwyl yng Nghastell Caerdydd, ar Fehefin 15fed.
 
Bydd stondinau amrywiol yn y ffair yn hyrwyddo cynnyrch Cymreig; yn ogystal â gweithdai a sesiynau llenyddol, cerdd, celf, coginio a drama. Bydd prif lwyfan gyda pherfformiadau byw gan artistiaid gwerin, roc a phop mwyaf llwyddiannus y sin gerddoriaeth Gymraeg, sesiynau acwstig, diddanwyr stryd, sesiynau dawns, maes chwaraeon, a gweithgareddau i blant o bob oedran.
 
Cymerwch olwg ar llyfryn ele ...

darllenwch mwy

Llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi e...

23/05/2013
Categori: Addysg

Llongyfarchiadau i’r rhai sydd wedi eu henwebu ar gyfer Prif Ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, i gychwyn yn Medi 2013.
 
Mae’r ysgoloriaeth yn werth £3,000 ac ar gael i fyfyrwyr sy’n astudio o leiaf dwy rhan o dair o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ar draws prifysgolion Cymru.
 
Abbie Bolitho - Ysgol Uwchradd Afon Taf 
Lowri Ceiriog - Ysgol Syr Hugh Owen
Ceiri Wyn Coker - Coleg Meirion-Dwyfor 
Rebecca Lilian Creamer - Ysgol Bro Pedr 
Rhun Wmffre Dafydd - Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
Llywelyn Ifan Davies - Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin
Mared Fflur Davies - Coleg Sir Gâr
Anest Fflur Edward - Ysg ...

darllenwch mwy

Y PLAS – fedrwch chi fyw yn 1910?

22/05/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Cyfres deledu newydd sbon ar S4C ym mis Medi 2013…
 
Mae cynhyrchwyr ‘Coal House’ a ‘Snowdonia 1890’ nawr am roi’r cyfle i CHI deithio yn ôl mewn amser i brofi bywyd unigryw mewn plasty crand Cymreig yn 1910.
 
Rydym yn chwilio am unigolion a theuluoedd o bob oed i fyw a gweithio mewn Plasty bendigedig am 3 wythnos ym mis Medi eleni. Ai chi fydd y bwtler, y cogydd, y forwyn, teulu’r ffermdy….neu hyd yn oed y Sgweier a’i wraig?! Bydd eich bywyd yn Y Plas yn golygu gwisgo, gweithio, bwyta a chwarae yn union fel yr oedd hi yn 1910, a bydd ein camerau ni yn dilyn bob cam ar gyfer cyfres uchelgeisiol ar S4C yn yr hydref.
...

darllenwch mwy

Y Cyfnod i barhau

21/05/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion, Papurau Bro

Mae papur newydd Y Cyfnod wedi cael ei brynu, gan sicrhau dyfodol i'r wythnosolyn dwyieithog.
Y perchennog a golygydd newydd yw Mari Williams, awdur sy'n rhedeg cwmni gwasanaeth cyfathrebu Mari Williams PR. Bu Mari Williams, sy'n 41 oed, yn gweithio fel newyddiadurwr ac awdur copi i gwmni Golwg yn Llanbedr Pont Steffan, yn golofnydd ac awdur nodwedd llawrydd i'r  Western Mail, Golwg a chyhoeddiadau eraill a Rheolwr Cyfathrebu BBC Cymru Wales. Mae'n byw yn Llanuwchllyn gyda'i gwr Brendon, sy'n newyddiadurwr, a'u dau o blant.

 

"Rydw i wrth fy modd o gael cymryd yr awenau," meddai Mari. "Mae'r Cyfnod a'i gyd-bapur y Corwen Times yn ganolog i fywyd yr ardal, yn ffynhonnell n ...

darllenwch mwy