Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 82 cofnodion | Tudalen 2 o 9

Gwaith yn dechrau ar ganolfan newydd ...

02/12/2013
Categori: Addysg, Newyddion

Mae’r gwaith o adnewyddu adeilad Henblas yn Y Bala ar gyfer ei ail-agor i’r cyhoedd wedi dechrau.
 
Y bwriad yw ail-agor yr adeilad i’r cyhoedd fel Canolfan Henblas, canolfan a fydd yn cynnig   gwasanaethau cymunedol i bobl leol ynghyd ag ystafelloedd cyfarfod ac ystafell gynhadledd, sef hen siambr Cyngor Tref Y Bala. Mae’r ystafell honno wedi cael ei henwi yn Siambr Tom Ellis.
 
Cwmni Pum Plwy Penllyn sydd yn gyfrifol am y prosiect newydd hwn, sef cwmni cyfyngedig a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo lles cymdeithasol ac economaidd Penllyn. Maen nhw’n barod wedi cymryd cyfrifoldeb am amrywiol wasanaethau yn yr ardal gan gynnwys meysydd parcio a ...

darllenwch mwy

Toriadau i Gymraeg i Oedolion - cyfle...

02/12/2013
Categori: Addysg, Iaith

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi condemnio’r toriadau i’r rhaglen Cymraeg i Oedolion gan rybuddio y bydd yn arwain at lai o siaradwyr Cymraeg.
 
Heddiw, mae’r Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg wedi cyhoeddi toriad o 8% ar gyfer y rhaglen Cymraeg i Oedolion y flwyddyn nesaf.
 
Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar:
 
“Mae’n newyddion trychinebus. Mae’r Gymraeg yn wynebu argyfwng; mae hynny’n glir o ganlyniadau’r Cyfrifiad. Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru? Toriadau i ddarpariaeth sy’n cynhyrchu mwy o siaradwyr, er bod ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun wedi argym ...

darllenwch mwy

Urdd yn ystyried newidiadau

02/12/2013
Categori: Addysg, Barn, Celfyddydau, Chwaraeon, Cystadlaethau, Iaith

Urdd yn ystyried newidiadau


A fydd amseroedd cystadlu yn newid?

Mae gweithgor gafodd ei sefydlu gan yr Urdd i edrych ar syniadau i ddatblygu'r Eisteddfod yn dweud y dylid ystyried symud amseroedd cystadlu a'u cynnal yn hwyrach yn y dydd.
 
Ymhlith argymhellion eraill mae sefydlu Pafiliwn Technoleg a hefyd gwneud mwy i "hyrwyddo'r cyfleoedd mae technoleg yn ei gynnig trwy'r Gymraeg i fywydau pobl ifanc."
 
Mae'r gweithgor, o dan gadeiryddiaeth y barnwr Nic Parry, yn cynnig 12 o argymhellion fydd yn cael eu hystyried gan Fwrdd yr Eisteddfod yn eu cyfarfod nesa' yn Aberystwyth yn Ionawr 2014.
 
"Wrth gyflwyno argymhellion ac argraffiadau gwaith ymchwil manwl gan dîm y Gweithgor, dwi'n awyddus i bwysleisio mai dechrau'r daith yw ho ...

darllenwch mwy

Siop Wib (pop-up shop) newydd Bodlon

29/10/2013
Categori: Arian a Busnes, Iaith

Siop Wib (pop-up shop) newydd Bodlon


Siop Wib (pop-up shop) newydd Bodlon

Mae Siop Wib (pop-up shop) newydd Bodlon wedi agor ei drysau yn Heol las, Caerfyrddin am gyfnod o 3 mis.
 
Dyma gyfle gwych i weld yr holl nwyddau bendigedig sydd ar gael i’w prynu ar gyfer y Nadolig ynghyd â chasgliadau newydd sbon nad ydynt ar gael ar y wefan.
 
Beth am drefnu Noson Siopa y ein siop? Dewch a chriw o ffrindiau draw am noson hwyliog o siopa.
 
Cewch gyfle i brynu anrhegion unigryw a chymdeithasu dros gwydraid o siampên.

 

 
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu.  Rydym ar-lein hefyd www.bodlon.com
 
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac ...

darllenwch mwy

Cymorth Cyfrwng Cymraeg ym Maes Mathe...

29/10/2013
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Cymorth Cyfrwng Cymraeg ym Maes Mathemateg


Cyfieithiadau Dr Tudur Davies

Diolch i un o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd modd i fathemategwyr y dyfodol ddefnyddio adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.
 
Mae cyfieithiadau Dr Tudur Davies o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth o daflenni ffeithiau a fformiwlâu Mathemateg wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y MathCentre.
 
Prosiect aml-ddisgyblaethol yw’r MathCentre sy’n cynnig adnoddau rhad ac am ddim i fyfyrwyr er mwyn hwyluso dysgu Mathemateg mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.
 
Roedd Tudur o’r farn bod prinder adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg yn bodoli yn y maes felly roedd ...

darllenwch mwy

Cynllun Prentisiaethau Cynulliad Cene...

29/10/2013
Categori: Addysg

Cynllun Prentisiaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2013-14


Cynllun Prentisiaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2013-14

Bwriad y Cynllun Prentisiaethau 2013-14 yw annog pobl ifanc i ymgeisio a gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
 
Mae’r Cynllun Prentisiaethau’n cynnig rhaglen hyfforddi sy’n seiliedig ar ddysgu ac sy’n golygu bod ymgeiswyr yn ennill cymhwyster NQF; cymwyseddau penodol sy’n seiliedig ar waith a sgiliau gweinyddol cyffredinol. Darperir hyfforddiant a mentora hefyd er mwyn helpu i gyflwyno ymgeiswyr i amgylchedd gwaith a’u paratoi ar gyfer bywyd mewn swyddfa weithredol.Bydd y cais yn seiliedig ar sgiliau a gallu, a bydd y Cynulliad yn chwilio am y potensial mewn ymgeiswyr yn ogyst ...

darllenwch mwy

Addysg cyfrwng Gymraeg - dim digon?

05/10/2013
Categori: Addysg, Iaith

Addysg cyfrwng Gymraeg - dim digon?


Mae Hywel Jones yn dweud nad oes digon o arweiniad yn dod o gyfeiriad y llywodraeth

Mae polisi addysg Gymraeg blynyddoedd cynnar y llywodraeth wedi cael ei feirniadu.
 
Dywedodd pennaeth Mudiad Ysgolion Meithrin nad yw arweiniad y llywodraeth ddigon cadarn yn y maes.
 
Mae hyn yn dilyn honiadau gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) nad oes digon o ddarpariaeth addysg cyfrwng Gymraeg ar gael i blant mewn ardaloedd difreintiedig.
 
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o'i rhaglen addysg i blant ifanc.
 
Garden City
 
Yr wythnos hon fe agorwyd ysgol feithrin yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir y Fflint. Prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Mudiad Meithrin yw Cylch Meithrin Garden City.
 
Ho ...

darllenwch mwy

WOMEX 13 – Galw gwirfoddolwyr!

19/09/2013
Categori: Cerddoriaeth

WOMEX 13 – Galw gwirfoddolwyr!


WOMEX 13 – Galw gwirfoddolwyr!

WOMEX 13 yw 19eg cynhyrchiad yr arddangosfa gerddoriaeth byd flynyddol ac fe’i cynhelir rhwng dydd Mercher 23 a dydd Sul 27 Hydref 2013 mewn tri lleoliad yng Nghaerdydd: Arena Motorpoint yng nghanol y ddinas, Canolfan Mileniwm Cymru a Roald Dahl Plas yng Nghaerdydd.
 
Mae WOMEX yn ŵyl arddangos cerddoriaeth byd ryngwladol gydnabyddedig a mawreddog. Mae’n cynnwys 60 cyngerdd a fydd yn agored i’r cyhoedd, gyda thros 300 o artistiaid, ffair fasnach lle ceir arddangosiadau gan oddeutu 650 o gwmnïau o fwy na 90 o wledydd a thua 60 o siaradwyr mewn cynhadledd ryngwladol. Mae’r digwyddiad yn cynnig sesiynau mentora, gwobrau blyn ...

darllenwch mwy

Diwrnod Shwmae Su'mae?

17/09/2013
Categori: Iaith

Diwrnod Shwmae Su'mae?


Diwrnod Shwmae Su'mae?

Hydref 15, 2013 fydd y tro cyntaf inni ddathlu Diwrnod Shwmae Su’mae? gan ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg.
 
Bydd Diwrnod Shwmae Su’mae? yn gyfle inni atgyfnerthu a dathlu'r Gymraeg a'r ffyrdd y byddwn ni’n cyfarch ein gilydd yn Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd hefyd yn gyfle i gefnogi ac annog ymdrechion pawb sydd wrthi yn dysgu Cymraeg ledled Cymru.
 
Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb a gallwn ni i gyd ddefnyddio’r Gymraeg ymhob man! Yn y siop, y ganolfan hamdden, y gwaith, wrth geisio gwasanaeth Cymraeg yn ein cymuned, gyda ffrindiau.
 
Am ddathlu'r diwrnod? Rho gynnig arni! Have a go! Cyfle i'ch mudiad, cymuned, cymdeithas nodi'r diwrnod, a chael yc ...

darllenwch mwy

Cyrsiau oedolion at ddant pawb

17/09/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Iechyd

Cyrsiau oedolion at ddant pawb


Cyrsiau oedolion at ddant pawb

Cyrsiau oedolion at ddant pawb
 
Mae Cyrsiau Oedolion Menter Caerdydd yn cychwyn diwedd mis Medi, ac efallai bod rhywbeth ymysg yr holl gyrsiau fydd o ddiddordeb i chi.
 
Er bod y Cyngor eisoes yn trefnu cyfres helaeth o wersi i oedolion, mae’r Fenter yn gyfrifol am ddosbarthu llu o ddosbarthiadau gyda’r nos i drigolion Caerdydd drwy’r iaith Gymraeg.
 
Mae’r cyrsiau yn amrywiol iawn ac mae rhywbeth i bawb, boed chi’n ffanatig ffitrwydd, yn grefftwr o fri, neu’n mwynhau dysgu ieithoedd newydd.
 
Os ydych chi’n mwynhau cadw’n heini, mae gan Menter Caerdydd nifer o wersi yn cychwyn ym mis Medi gan gynnwys 3 cwrs Pilate ...

darllenwch mwy