Wedi darganfod 11 cofnodion | Tudalen 1 o 2
Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hysbyse...
19/03/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Hyfforddiant / Cyrsiau, Iaith, Newyddion
Dros y misoedd nesaf fe fydd Hysbysfwrdd Swyddi Cymru, rhan o wefan Lleol.net, yn hysbysebu’r holl swyddi darlithio y mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn eu noddi ar draws prifysgolion Cymru.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y bydd 21 o swyddi newydd yn cael eu cyllido drwy Gynllun Staffio Academaidd y Coleg ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn 2013/14.
Dywedodd Dylan Phillips, Uwch Reolwr Academaidd:
‘Rydym yn falch iawn o gael cydweithio gyda Gwefan Lleol.net, fel rhan o’n hymgyrch recriwtio. Byddwn yn hysbysebu ein holl swyddi ar y wefan, rydym wedi defnyddio’r wefan yn y gorffennol ac mae’r ymateb i’n hysbysebion ...
Lansiad rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Ch...
18/03/2013
Categori: Adolygiadau Cerddoriaeth, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Barn, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion
Lansiad #38 31.03.13
Tafarn Penlan Fawr, Pwllheli
i ddechrau oddeutu 4:00yh yn ystod gig Bob Delyn a’r Ebillion
Yn dilyn llwyddiant lansiad ‘Gwreiddiau’ #36 yn Nhafarn Penlan y llynedd, rydym yn falch iawn o gael dychwelyd eto eleni ar gyfer lansiad #38, ‘digidol’.
Mae croeso cynnes iawn i bawb ymuno â chriw tu chwith ar gyfer lansiad #38 yn awyrgylch ffantastig Penlan Fawr! Bydd cerddoriaeth fyw gan Bob Delyn a’r Ebillion a chyfle i brynu copi o’r cylchgrawn, cyn iddo gyrraedd y siopa’!
Edrychwn ymlaen am eich cwmni?
Cymru 30-3 Lloegr
18/03/2013
Categori: Chwaraeon, Newyddion
Mae Cymru wedi curo Lloegr a dal eu gafael ar Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Roedd y fuddugoliaeth yn un ysgubol, gyda Alex Cuthbert yn sgorio dau gais.
Hon oedd y fuddugoliaeth fwyaf i Gymru yn erbyn Lloegr.
Daeth gweddill pwyntiau Cymru o Leigh Halfpenny, pedair cic gosb, ac wyth pwynt o droed Dan Biggar.
Cymru oedd ar y blaen ar yr egwyl 9-3 ond roedd Lloegr dal yn y gêm.
Yn yr ail hanner, roedd Cymru ben ac ysgwydd uwchben Lloegr.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru wedi ennill eu pedair gem ddiwethaf yn y bencampwriaeth ar ôl colli yn y gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon.
Ar ôl y gêm dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru Rob Howley fod yn teimlad yn deimlad ...
Dangos Talent Newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi
13/03/2013
Categori: Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith
Cynhaliodd prosiect Mentro CDG Sir Gâr ‘Ar y Tracs’, sef cyfres o berfformiadau byw ar drên Rheilffordd Calon Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.
Gan adael o Lanymddyfri, fe wnaeth teithwyr fwynhau perfformiadau byw gan artistiaid newydd gorau Sir Gâr wledig wrth i’r trên fynd trwy Langadog, Ffairfach, Rhydaman a Llangennech cyn cyrraedd Llanelli.
Roedd y perfformwyr yn cynnwys Frank Thomas, Aaron Perry, Ben Montaigue a Gillie Rowland a chawsant eu mentora ar y diwrnod gan Amanda Toogood o Amanda’s Musical Steps.
“Roedd awyrgylch positif iawn ar y trên ac roedd yr artistiaid yn gefnogol iawn tuag at ei gilydd. Roedd ...
Goleuo'r Canolbarth 2013
13/03/2013
Categori: Arian a Busnes, Newyddion
Dydd Gwener, 15fed Mawrth - Hafren, Y Drenewydd
Digwyddiad undydd yw Goleuo’r Canolbarth fydd yn canolbwyntio ar lwyddiannau'r rhanbarth, canfod cyfleoedd newydd a chynnig strategaethau ar gyfer llwyddiant o fewn cyd-destun economaidd heriol.
Ysbrydoli Llwyddiant yw’r thema eleni ac mae'r digwyddiad wedi'i seilio ar gynadleddau hynod o lwyddiannus Goleuo'r Canolbarth 2011 a 2012 a ddenodd dros 200 o gynadleddwyr. Nod y diwrnod yw ysbrydoli, addysgu a dod â busnesau a mudiadau ynghyd i greu partneriaethau gwerthfawr.
Llywodraeth Cymru yw’r prif noddwr eleni ac mae’r digwyddiad yn bosib o ganlyniad i gydweithio cadarnhaol rhwng nifer o bartneriaid allwedd ...
Gwasg Gomer yn lansio gwefan newydd -...
07/03/2013
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
Gwasg Gomer yn dathlu Diwrnod y Llyfr a lansio gwefan newydd gyda chynnig arbennig
I ddathlu Diwrnod y Llyfr ac i lansio ei gwefan newydd, mae Gwasg Gomer yn cynnig 50% o ostyngiad ar BOPETH ar ei gwefan am un diwrnod yn unig.
Fel rhan o ddathliadau 120 y wasg y llynedd, penderfynwyd rhoi gwefan newydd ar waith. Erbyn hyn, mae’r wefan newydd yn fyw ac yn cynnwys e-lyfrau, newyddion a digwyddiadau’r wasg a nifer o gynigion arbennig.
Bydd y 50% o ostyngiad ar holl lyfrau Gomer - y teitlau newydd yn ogystal â hen ffefrynnau a chlasuron - ar www.gomer.co.uk tan hanner nos ddydd Iau, 7 Mawrth 2013.
CERDYN POST O WLAD Y RWLA
07/03/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Ar ‘DDIWRNOD Y LLYFR’ mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch iawn o gyhoeddi mai CERDYN POST O WLAD Y RWLA, sioe yn seiliedig ar gymeriadau poblogaidd cyfres llyfrau Rwdlan gan Angharad Tomos fydd ein sioe haf yn 2013.
Teithiwyd y sioe am y tro cyntaf ym 1995 ac roedd theatrau Cymru yn fwrlwm o blant, athrawon a theuluoedd. Oherwydd bod y gyfres llyfrau yn dathlu ei phenblwydd yn 30 oed eleni, penderfynwyd atgyfodi’r sioe a rhoi cyfle i genhedlaeth newydd o blant ar hyd a lled Cymru i gwrdd â Rala Rwdins a’i ffrindiau.
“Mae’r llyfrau yr un mor boblogaidd ag erioed ac mae’r sioe lwyfan hon yn sicir o ddod a gwen i wyneb y plant a& ...
App i'ch arwain i'r Llefydd Sanctaidd
06/03/2013
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
Mae S4C a Cwmni Da wedi lansio app newydd i gyd-fynd â'r gyfres Llefydd Sanctaidd sy’n rhad ac am ddim ar gyfer yr iPhone a'r iPad.
Yn ystod chwe phennod y gyfres rydym wedi dilyn Ifor ap Glyn wrth iddo grwydro Ynysoedd Prydain benbaladr yn mynd ar drywydd llefydd sanctaidd o bob math.
Mae'r llefydd sanctaidd hyn wedi amrywio o fod yn adfeilion ac ynysoedd, i goed ac ogofau. Seintiau a chreiriau fydd yn mynd â bryd Ifor yn y bennod olaf, nos Sul 24 Chwefror.
Nawr, gyda chymorth yr app arbennig hwn, fe allwch chithau gychwyn ar eich pererindod eich hunain i unrhyw un o'r 37 lle sanctaidd sy'n ymddangos yn y gyfres. Gan ddefnyddio technoleg GPS, gallwch ddarganfod su ...
Y Pridd A'r Concrid - Y Frenhines A'r...
06/03/2013
Categori: Barn, Celfyddydau, Cerddoriaeth
Mae dyddiadur dechrau blwyddyn y Dyn Mynd a Dwad yn cofnodi ei fod eisoes eleni wedi ymddiddori yn rhywioldeb y Frenhines Fictoria ac wedi tynnu cerddorion i’w ben.
Ar ôl dychwelyd o Fôn i’r brifddinas i groesawu’r Flwyddyn Newydd, cefais hi’n anodd ailafael yn fy ngwaith. Profiad digon cyffredin reit siwr. Mae gen i domen o waith ysgrifennu ac mae’r dyddiad y cytundebais i’w gwblhau yn dod yn nes ac yn nes. Ar ben hynny mae gen i ddau arholiad morwrol i’w sefyll mewn rhyw dair wythnos. Yn lle torchi llewys a mynd ati rhag blaen dwi’n gwneud pob dim ond agor y cyfrifiadur. Gwyliaf ffilmiau ‘Carry On’ yn y pnawni ...
Cylchgrawn Tu Chwith ar y thema ‘Digi...
06/03/2013
Categori: Ar-lein, Celfyddydau, Newyddion
Bydd rhifyn #38 o gylchgrawn Tu Chwith, ar y thema ‘Digidol’ yn cael ei gyhoeddi cyn hir. Bydd y rhifyn hwn yn trafod datblygiadau digidol, boed hynny ym myd e-newyddiaduraeth, gemau cyfrifiadurol, celf a llenyddiaeth. Bydd y rhifyn yn camu i fyd y blogio, trydar ac i oes bell, bell yn ôl pan ddaeth y cyfrifiadur i ddisodli’r cwilsyn. Bydd gennym eitem ar Ŵyl Gelf Ddigidol Blinc, sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yng Nghonwy, lle mae nifer o artistiaid yn cael eu comisiynu i drawsnewid y dref yn oriel gelf ryngweithiol. Dyma ŵyl sydd gwironeddol werth ymweld â hi.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd golygydd gwadd ar gyfer y rh ...