Wedi darganfod 13 cofnodion | Tudalen 1 o 2
Dathlwch y Nadolig ar S4C
23/12/2013
Categori: Celfyddydau
Nadolig ar S4C
Dathlwch y Nadolig gyda rhaglenni adloniant, cerddoriaeth, drama a dogfen i bawb eu mwynhau. Manylion llawn yma.
Eisiau gweithio gyda phlant ifanc?
23/12/2013
Categori: Addysg
Eisiau gweithio gyda phlant ifanc?
Dyma gyfle gwych ichi ennill cymhwyster Diploma Lefel 3 CACHE mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant yn y gweithle.
Mae’r Cynllun Hyfforddi Cenedlaethol yma yn cael ei gynnal gan Mudiad Meithrin, trwy ei is-gwmni Cam wrth Gam, o 1 Ebrill 2014 hyd 31 Mawrth 2015.
Gwahoddir siaradwyr Cymraeg a dysgwyr da i ymgeisio am le ar y cynllun hyfforddi rhan-amser yma a leolir mewn cylchoedd meithrin, meithrinfeydd dydd neu ysgolion cynradd ledled Cymru.
Mae'r pecyn ymgeisio ar gael isod. Yn y pecyn mae ffurflen gais a dogfen sy'n cynnwys gwybodaeth bwysig i ymgeiswyr. Mae'n bwysig darllen y ddogfen yma cyn mynd ati i ...
Tribiwnlys: 'BBC i dalu £100,000 y fl...
16/12/2013
Categori: Arian a Busnes, Cerddoriaeth
Mae asiantaeth sy'n cynrychioli cannoedd o gerddorion Cymraeg wedi methu yn eu hymgais i gael taliad blynyddol o £1.5m gan y BBC.
Yn hytrach, penderfynodd tribiwnlys hawlfraint y dylai'r BBC dalu breindal o £100,000 pob blwyddyn am yr hawl i ddarlledu miloedd o ganeuon Cymraeg.
Roedd y BBC wedi dweud na fyddai'n fodlon talu dim mwy na £100,000 ac maent yn dweud y byddan nhw nawr yn cydymffurfio'n llawn gyda'r dyfarniad ddydd Llun.
Dywedodd Eos y byddan nhw'n trafod y sefyllfa gyda'u haelodau ar ôl derbyn setliad oedd yn llawer is na'r hyn oeddynt wedi gobeithio amdano.
Mae penderfyniad y tribiwnlys yn orfodol ac yn para am gyfnod o ...
Arian S4C wedi ei ddiogelu tan 2016
10/12/2013
Categori: Celfyddydau, Iaith
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi fod S4C wedi cael ei harbed rhag unrhyw doriadau pellach i'w chyllideb.
Golygai hyn na fydd y sianel yn cael ei heffeithio gan gyhoeddiad y Canghellor George Osborne yr wythnos ddiwethaf bod yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn wynebu toriad pellach o 1.1% ar gyfer 2015-16.
Mae'r adran yn dweud eu bod nhw'n falch o allu amddiffyn yr iaith mewn cyfnod o galedi economaidd.
Er fod S4C wedi croesawu'r cyhoeddiad maen nhw hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod cyllideb y sianel wedi cael ei thorri mewn termau real ers 2010.
'Sicrwydd ariannol'
Yn ei chyhoeddiad mae'r Gweinidog Diwylliant Maria Mille ...
Ffilm newydd S4C i'w gweld yn lleol y...
10/12/2013
Categori: Celfyddydau, Iaith
Bydd pobl Ceredigion ymhlith y cyntaf i weld ffilm newydd Y Syrcas ar y sgrin fawr, cyn iddi gael ei darlledu ar S4C ar Ŵyl San Steffan.
Cafodd Y Syrcas ei ffilmio yn ardal Tregaron, Pontrhydfendigaid a Llangeitho. Yn ysbrydoliaeth i'r stori mae'r hanes lleol bod syrcas wedi ymweld â Thregaron yn 1848, a bod yr eliffant wedi marw, a'i gladdu yng ngardd gefn tafarn Y Talbot.
Gan ddechrau ar brynhawn Sadwrn 14 Rhagfyr, bydd y ffilm yn cael ei dangos yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth am gyfnod byr. Bydd hi'n cael ei darlledu ar deledu am y tro cyntaf fel un o uchafbwyntiau amserlen Nadolig S4C ar Ŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr, am 7.00.
Yn serennu yn y ffil ...
Dysgu'r iaith: cynnydd da mewn ysgoli...
05/12/2013
Categori: Addysg, Iaith

Roedd yr adroddiad yn dweud bod safon iaith, llythrennedd a sgiliau cyfathrebu plant mewn ysgolion C
Mae 86% o blant rhwng 3 a 7 oed yn gwneud cynnydd da wrth ddysgu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg - dyna gasgliad adroddiad Estyn oedd yn edrych ar sut yr oedd yr iaith yn datblygu mewn ysgolion a lleoliadau Cymraeg.
Roedd yr adroddiad yn dweud fod safon iaith, llythrennedd a'r ffordd yr oedd disgyblion yn siarad gyda phobl eraill yn debyg i rai mewn ysgolion Saesneg ac yr un peth â'r lefel y disgwylir gan blant yr oedran yma.
Ond roedd y ddogfen hefyd yn nodi bod plant o gefndiroedd di-Gymraeg weithiau ddim yn datblygu yn ddigon cyflym a'u bod yn medru "llesteirio cynnydd" plant o aelwydydd Cymraeg iaith gyntaf.
Dywedodd y Prif Arolygydd Ann Keane: "Ryd ...
Sylw i Statws y Gymraeg yng Ngwlad y ...
05/12/2013
Categori: Addysg, Iaith
Treuliodd rhai o fyfyrwyr Prifysgol Bangor eu hwythnos ddarllen eleni yn cymharu sefyllfa ieithyddol Gwlad y Basg â Chymru wrth ymweld â’r ardal.
Dr Rhian Hodges, darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Gwyddor Cymdeithas ym Mhrifysgol Bangor wnaeth arwain y daith i fyfyrwyr cwrs MA Polisi a Chynllunio Ieithyddol.
Yn ystod eu hymweliad, aethant draw i weld Ikastola (ysgol cyfrwng Basgeg) yn Orio, cyfarfod golygydd papur newydd y Basgeg, Berria, ymweld â mudiad Hawliau Ieithyddol, Kontseilua a threulio diwrnod mewn gorsaf radio yng ngogledd y wlad sef Journal du Pays Basque.
Mi wnaeth Rhian draddodi darlith ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, ...
Adroddiad ar gyflwr cymunedau Cymraeg...
05/12/2013
Categori: Iaith
Mae grŵp gafodd ei sefydlu er mwyn ystyried sut i gynyddu nifer y cymunedau sy'n siarad Cymraeg wedi cyhoeddi ei adroddiad.
Cafodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gymunedau Cymraeg ei sefydlu yn dilyn cyfrifiad 2011 pan oedd gostyngiad yng nghanran siaradwyr Cymraeg.
Bu gostyngiad hefyd yn nifer y cymunedau lle'r oedd mwy na 50% yn siarad yr iaith.
Un o brif argymhellion yr adroddiad yw i greu dinas-ranbarthau newydd yn yr ardaloedd mwyaf Cymreig er mwyn hybu eu heconomiau.
'Gwersi i'w dysgu'
Ymhlith y prif faterion a gafodd eu hystyried oedd tai a'r economi, addysg Gymraeg, y defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle, a'r mesurau y gall Llywodraeth Cymru, ...
Cynllun i greu swyddi celfyddydau yn ...
05/12/2013
Categori: Celfyddydau, Newyddion

Bydd y trefnwyr yn ceisio annog cwmniau i gyflogi prentisiaid yn y lansiad yng Nghanolfan y Mileniwm
Mae cynllun i geisio creu swyddi ym myd y celfyddydau dros y 1,000 diwrnod nesaf yn cael ei lansio.
Nod cynllun 'Building a Creative Nation' yw creu miloedd o swyddi ar draws y DU, ym meysydd y cyfryngau, cerddoriaeth a theatr erbyn 2016.
Bydd digwyddiad yng nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd ddydd Iau, Rhagfyr 5ed, yn ceisio annog cwmnïau i gyflogi prentisiaid.
Mae prentisiaid llawn amser yn derbyn £3,600 tuag at eu cyflog fel rhan o'r cynllun, gyda'r arian yn dod gan Llywodraeth Cymru.
Un fydd yn siarad yng Nghanolfan y Mileniwm yw Sammi Pepper, sydd wedi cael prentisiaeth gydag Opera Genedlaethol Cymru.
Dywedodd wrth BBC Radio Wa ...
Taith gan milltir yr awr i fyd nofel ...
03/12/2013
Categori: Addysg, Adolygiadau Llyfrau, Newyddion
Eisiau ymhyfrydu yn y Gymru waraidd, ddiwylliedig rydyn ni yn byw ynddi, lle mai parch a goddefgarwch at gyd-ddyn sy’n teyrnasu? Neu eisiau cael eich saethu gan milltir yr awr i ffrwydrad o isfyd didrugaredd llawn cymeriadau milain a ffiaidd a gamodd o’ch hunllef waetha? Yr ail? Yna camwch i mewn i fyd nofel ddiweddaraf Alun Cob, Gwyllgi.
Yr olaf mewn trioleg o lyfrau yn dilyn hanes Oswyn Felix yw hon, wedi’i helyntion yn Pwll Ynfyd a Tarw Pres.
‘Dyw’r awdur ddim yn rhyddhau’r darllenydd yn raddol i fyd tywyll trais, cyffuriau, puteiniaid a gwleidyddiaeth llwgr ond yn eich lluchio i’w ganol, wrth i’r nofel agor gyda Felix wedi ...