Wedi darganfod 4 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Siop Wib (pop-up shop) newydd Bodlon
29/10/2013
Categori: Arian a Busnes, Iaith
Mae Siop Wib (pop-up shop) newydd Bodlon wedi agor ei drysau yn Heol las, Caerfyrddin am gyfnod o 3 mis.
Dyma gyfle gwych i weld yr holl nwyddau bendigedig sydd ar gael i’w prynu ar gyfer y Nadolig ynghyd â chasgliadau newydd sbon nad ydynt ar gael ar y wefan.
Beth am drefnu Noson Siopa y ein siop? Dewch a chriw o ffrindiau draw am noson hwyliog o siopa.
Cewch gyfle i brynu anrhegion unigryw a chymdeithasu dros gwydraid o siampên.
Edrychwn ymlaen i’ch croesawu. Rydym ar-lein hefyd www.bodlon.com
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac ...
Cymorth Cyfrwng Cymraeg ym Maes Mathe...
29/10/2013
Categori: Addysg, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Diolch i un o ddarlithwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd modd i fathemategwyr y dyfodol ddefnyddio adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg i’w cynorthwyo gyda’u gwaith.
Mae cyfieithiadau Dr Tudur Davies o Athrofa Mathemateg, Ffiseg a Chyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth o daflenni ffeithiau a fformiwlâu Mathemateg wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y MathCentre.
Prosiect aml-ddisgyblaethol yw’r MathCentre sy’n cynnig adnoddau rhad ac am ddim i fyfyrwyr er mwyn hwyluso dysgu Mathemateg mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.
Roedd Tudur o’r farn bod prinder adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg yn bodoli yn y maes felly roedd ...
Cynllun Prentisiaethau Cynulliad Cene...
29/10/2013
Categori: Addysg
Bwriad y Cynllun Prentisiaethau 2013-14 yw annog pobl ifanc i ymgeisio a gweithio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Cynllun Prentisiaethau’n cynnig rhaglen hyfforddi sy’n seiliedig ar ddysgu ac sy’n golygu bod ymgeiswyr yn ennill cymhwyster NQF; cymwyseddau penodol sy’n seiliedig ar waith a sgiliau gweinyddol cyffredinol. Darperir hyfforddiant a mentora hefyd er mwyn helpu i gyflwyno ymgeiswyr i amgylchedd gwaith a’u paratoi ar gyfer bywyd mewn swyddfa weithredol.Bydd y cais yn seiliedig ar sgiliau a gallu, a bydd y Cynulliad yn chwilio am y potensial mewn ymgeiswyr yn ogyst ...
Addysg cyfrwng Gymraeg - dim digon?
05/10/2013
Categori: Addysg, Iaith
Mae polisi addysg Gymraeg blynyddoedd cynnar y llywodraeth wedi cael ei feirniadu.
Dywedodd pennaeth Mudiad Ysgolion Meithrin nad yw arweiniad y llywodraeth ddigon cadarn yn y maes.
Mae hyn yn dilyn honiadau gan Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RhAG) nad oes digon o ddarpariaeth addysg cyfrwng Gymraeg ar gael i blant mewn ardaloedd difreintiedig.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr iaith Gymraeg yn rhan annatod o'i rhaglen addysg i blant ifanc.
Garden City
Yr wythnos hon fe agorwyd ysgol feithrin yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Sir y Fflint. Prosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Mudiad Meithrin yw Cylch Meithrin Garden City.
Ho ...