Wedi darganfod 3 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Ffotomarathon Aberystwyth
21/11/2012
Categori: Celfyddydau
Cynhaliwyd ail ffotomarathon Aberystwyth ar ddydd Sadwrn, 27 Hydref 2012. Nod y diwrnod oedd tynnu chwe llun ar chwe thema mewn chwe awr.
Cafwyd cryn ddiddordeb gyda dros 60 o bobl yn cymryd rhan. Rhoddwyd gwobrau ar gyfer y set orau gan gamera a lensys cyfnewidiol a lensys parhaol, set orau ar gyfer 16 oed ac iau a'r set orau o luniau wedi eu cymryd gan ffôn symudol. Gwobrwywyd hefyd y llun unigol gorau ymhob thema.
Anna Irving enillodd y wobr am set a chamera gyda lensys cyfnewidiol ac Andrew Currie yn ennill am y set orau gyda chamera a lensys parhaol. Yr enillydd ifanc (16 oed ac iau) oedd Steffan Nicolas ac enillodd Mark Davies am ei gyfres o chwe llun wedi eu t ...
Gwahodd Prifwyl yn swyddogol i Lanell...
09/11/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Roedd tua 200 o bobl mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol y Strade, Llanelli nos Iau i wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn swyddogol i'r dref yn 2014.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r Eisteddfod ymweld â'r sir ers pedair blynedd ar ddeg.
Bydd Maes yr Eisteddfod yn y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, a bydd yr Eisteddfod hefyd yn defnyddio'r theatr newydd yn Y Ffwrnes.
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, eu bod wedi ystyried safleoedd yn Rhydaman, Llandeilo, Caerfyrddin a Phen-bre cyn dewis yr un yn Llanelli yn dilyn misoedd o drafod rhwng y Brifwyl a'r cyngor lleol.
Bydd disgwyl i bobol leol godi £320,000 tuag at gostau cynnal yr Eisteddfod.
...
Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofr...
07/11/2012
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion
Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw!
Manylion
Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013 9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau) Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru
Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eich help a chynnig hael gan gynnwys ystafelloedd, bwyd a di-wifr.
Beth?
Dyma’r Hacio’r Iaith mawr lle fydd cyfle i drafod, dysgu, rhannu a datblygu bob math o ddefnydd o dechnoleg yn y Gymraeg. Mae gymaint o gynhadleddau, yn enwedig yn y diwydiant technoleg, lle mae angen talu cannoedd o bunna ...