Wedi darganfod 8 cofnodion | Tudalen 1 o 1
Dathlu Dwynwen
24/01/2012
Categori: Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Newyddion
Bydd Menter Caerdydd yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen mewn nifer o ffyrdd eleni - dyma flas o'r gweithgareddau!Diwrnod Santes Dwynwen hapus i chi gyd!DWYNWEN-O-GRAMBeth am ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen eleni trwy ddanfon Dwynwen-o-Gram i'ch gwr, gwraig neu gariad?I enwebu, ebostiwch leanne@mentercaerdydd.org gan nodi pwy sy'n haeddu'r Dwynwen-o-gram a pham!Bydd yr enillydd lwcus yn derbyn tusw o flodau a photel o champagne ar Ionawr y 25ain.Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw Dydd Llun, Ionawr 23, 2012.CARDIAU SANTES DWYNWENBydd Dwynwen a rhai o staff y Fenter yn dobsarthu cardiau yn y mannau canlynol ar Ddiwrnod Santes Dwtynwen, Dydd Mercher, Ionawr 2510.15am Asda Lecwydd12pm Siop Ann Summe ...
Yr Urdd yn edrych ymlaen at y degawd ...
24/01/2012
Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Newyddion
Mae Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru yn dweud bod angen i'r mudiad ddatblygu mwy o weithgareddau sy'n caniatau i blant a phobl ifanc "gael budd cymdeithasol drwy'r Gymraeg".
Mae hynny, a phenodi swyddog ieuenctid ym mhob rhanbarth, dyblu nifer y swyddogion a chlybiau chwaraeon a denu 10,000 yn rhagor o blant i gystadlu ar lefel leol yn Eisteddfod yr Urdd ymhlith y cynlluniau gan y mudiad.
Fe wnaeth Efa Gruffudd Jones gyhoeddi dogfen, "Ymlaen i'r 100" sy'n amlinellu gweledigaeth yr Urdd ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.
Daw'r ddogfen yn ystod yr wythnos y mae mudiad ieuenctid mwya' Cymru yn dathlu ei phenblwydd yn 90 oed.
Yn ôl y mudiad, mae'n bwysog datblygu mwy o weithgaredda ...
Pryd delfrydol i’w rannu gyda rhywun ...
24/01/2012
Categori: Bwyd
Cig Oen Bys a Bawd gyda Saws Bara Lawr a Pherlysiau
Dwy rag cig oen Cymru (wedi’u torri yn eu hanner)
1 llond llaw fawr mintys ffres
1 llond llaw fawr persli ffres
1 ewin garlleg, wedi’i wasgu
1 llond llwy bwdin caprys bach
6 cornichon
3 llond llwy fwrdd olew olewydd
Croen 2 lemon a sudd 1 lemon
1 llond llwy bwdin bara lawr ffres neu o dun
4 llond llwy fwrdd briwsion bara
1 llond llwy fwrdd olew
15g menyn
Dull:
Cynheswch y ffwrn i 200°C/400°F/Nwy 6.
Torrwch linell trwy fraster y cig a’i sesno’n dda.
Seriwch y cig mewn ffreipan wrthlynu boeth nes ei fod yn euraid a’i roi yn y ffwrn am 15 munud. Tynnwch o’r ffwrn a’i adael ...
Dawns yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
24/01/2012
Categori: Celfyddydau
Dros y misoedd nesaf bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i sawl cynhyrchiad dawns gan gwmnïau cenedlaethol a rhyngwladol. Gyda sawl sioe yn cynnig cyfleoedd i ddod yn agosach at y gelfyddyd yn ogystal â’i bargen ddawns mae’n haws nag erioed i weld gwaith newydd gan oreuon byd dawns.
Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno Rhaglen Ryngwladol ar 26 Ion ar lwyfan Donald Gordon. Mae’r cynhyrchiad wedi denu coreograffwyr amlycaf y maes i gyfrannu at waith a fydd yn gwthio 12 dawnswyr y cwmni i’r eithaf. Am ragor o fanylion cliciwch yma.
Mae cynhyrchiad Michael Flatley, Lord of the Dance yn dod i’r Ganolfan 6 - 11 Maw ac, yn og ...
Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth?
23/01/2012
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?” ac ar flog Golwg360.
Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012 (28ain Ionawr 2012). Hwn fydd y trydydd digwyddiad, ac un o’r ‘barcamps’ mwyaf yng Nghymru.Mae llawer wedi gofyn i mi esbonio beth yn union ydi ‘bar camp’… wel…Mae bar camp yn fath arbennig o gynhadledd sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘unconference’, does dim amserlen, dim digwyddiadau na siar ...
Blwyddyn Newydd Dda gan Ganolfan Mile...
09/01/2012
Categori: Celfyddydau
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn bair o ddigwyddiadau celfyddydol amrywiol dros 2012. Gyda sioe gerdd Cameron Mackintosh, Oliver! yn dod i ben ddiwedd y mis, cyn hir bydd rhaglen gwanwyn Stiwdio Weston yn cael ei chyhoeddi yn ogystal â chyfres o sioeau newydd ar lwyfan Donald Gordon. Felly er mwyn sicrhau eich bod chi’n cael gwybod am holl ddigwyddiadau’r Ganolfan cadwch olwg ar ei gwefan neu cofrestrwch i dderbyn yr e-fwletin misol. Cliciwch yma i gofrestru.
Ond er mwyn i chi gael blas o’r hyn sydd ar y gweill gan y Ganolfan, dyma rywfaint o uchafbwyntiau hanner cyntaf y flwyddyn. Bydd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, un o gwmnïau preswyl y Ganolfan, yn dy ...
Diwedd y daith i Denzil
05/01/2012
Categori: Celfyddydau, Newyddion
Bydd 2012 yn dod â diwedd cyfnod yn hanes Cwmderi, wrth i Gwyn Elfyn ffarwelio â'r cymeriad Denzil ym Mhobol y Cwm.
Mae Denzil wedi bod yn rhan o fywyd Gwyn Elfyn a'r Cwm ers bron i 28 mlynedd.
Mae o wedi gweld nifer o ddigwyddiadau hanesyddol yn ystod y cyfnod.
Bu Denzil yn briod ddwywaith - gydag Eileen, a'i chwaer hi, Maureen.
Roedd yn dad i Sioned a'r diweddar John.
Mae'r cymeriad wedi profi amseroedd tywyll wrth barhau i fod yn un o gonglfeini'r gymuned.
Cafwyd tridiau emosiynol yn y stiwdios yn Llandaf yn ddiweddar wrth i aelodau'r cast a'r criw ffarwelio â Gwyn.
Dyw union stori ymadawiad Denzil ddim yn ca ...
Beth yw eich addunedau blwyddyn newyd...
05/01/2012
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Chwaraeon, Newyddion