Araith Rhodri Talfan Davies ar ddyfodol y BBC yng Nghymru

Rhodri Talfan Davies

CYFLWYNIAD

Rai misoedd yn ôl, ro’dd yr araith yma bron iawn yn barod.

O’dd hi’n gwneud rhyw fath o synnwyr hefyd. O’dd ‘na ddechrau, canol a diwedd. Ddim o reidrwydd yn y drefn yna. Ond ro’dd bron iawn yno. Ro’n ni am fwrw golwg ar y byd newydd lle mae’r cyfryngau interactif a dyfeisiau symudol yn cynnig ffyrdd newydd di-ben-draw o gysylltu â defnyddwyr. Ac ro’n ni am drafod beth allai hynny olygu i ddarlledu Cymraeg.

Ond, fe wnaeth digwyddiadau eraill dorri ar draws pethe. Cafwyd etholiad yn un peth. Ac yna setliad ffi’r drwydded mewn ychydig llai na wythnos. Ac yna cyhoeddodd Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig Bapur Gwyrdd ar ddyfodol darlledu a’r BBC. Felly, mae’n araith wahanol erbyn hyn. Ac mae’n araith gyda neges syml. Os ry’ch chi’n rhannu fy angerdd am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, am y BBC a S4C, mae’n amser codi’ch llais. Peidiwch â meddwl y bydd popeth yn iawn os edrychwch chi’r ffordd arall. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwn ni’n dod trwyddi.

Os y’ch chi’n credu bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn bwysig…..

Os y’ch chi’n credu ei fod yn sail i’r iaith ac i ffyniant yr iaith… Os y’ch chi’n credu ei fod yn cyfoethogi ac yn meithrin ein cenedl a’n cymuned….

Os y’ch chi’n credu’r pethau hyn i gyd, mae’n amser dweud eich dweud.

PAM BOD Y DDADL HON YN BWYSIG

Mae’r holl drafod yn y wasg ynglŷn â darlledu cyhoeddus yn ystod yr wythnosau diwetha yn drysu’r rheiny sydd ar y tu allan.

Wrth deithio i wledydd tramor, mae pawb yn dweud wrthoch chi, “ma’ gyda chi rywbeth gwerthfawr iawn, peidiwch â’i ddistrywio”.

“Allwch chi ddim gweld gwerth yr hyn ry’ch chi wedi’i greu?”, ma’ nhw’n dweud.

‘Y’ch chi ddim yn deall bod pob gwlad arall yn y byd yn eiddigeddus o uchelgais, ansawdd ac hynodrwydd darlledu ym Mhrydain?’

Wrth gwrs, nid y cyhoedd sy’n cwestiynu gwerth darlledu cyhoeddus. Mewn gwirionedd, ry’n ni’n gwybod bod balchder ac ymddiriedaeth yn y BBC wedi tyfu, ac nid lleihau, yn ystod y pum mlynedd ddiwetha.

Ry’n ni hefyd yn gwybod bod mwy o ymddiriedaeth yn y BBC mewn cartrefi sy’n derbyn Sky nag yn Sky ei hun. Mae mwy o ymddiriedaeth yn y BBC mewn cartrefi sy’n darllen y Daily Mail nag yn y Daily Mail ei hun.

Mae llawer gormod o’r erthyglau dwi’n darllen yn y papurau yn seiliedig ar y rhagdybiaeth bod y gefnogaeth i’r BBC, i ffi’r drwydded a i fathau eraill o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, yn dirywio.

Dyw hynny ddim yn wir. Mae cefnogaeth y cyhoedd yn gryf ac yn cryfhau. Dyw’r cyhoedd ddim yn meddwl ein bod ni’n berffaith – ac ma’ nhw’n iawn – ond ma nhw’n gwybod ein bod ni ar eu hochr nhw.

Yn fwy na hynny. Wrth i ni gael mwy a mwy o ddewis, mae’r rhagdybiaeth y byddai’r ddadl am ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru a Phrydain yn dirywio’n raddol, wedi troi allan i fod yn anghywir.

Mae’r syniad o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus dal yn gweithio.

Felly os nad yw’n fwriad gan y cyhoedd i leihau’r BBC – wel bwriad pwy yw e?

Beth welwn ni mewn gwirionedd yw buddiannau masnachol pwerus yn ceisio erydu’r syniad o ddarlledu cyhoeddus. Darlledu cyhoeddus sydd wedi ymrwymo i wasanaethu pawb beth bynnag fo’u cefndir.

Pam? Wel, oherwydd dyw e ddim yn cyd-fynd â’u golwg ideolegol o’r byd, lle mae’n rhaid i ddibenion y farchnad trechu dinasyddiaeth bob tro.

Iddyn nhw, mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn system go annymunol sydd ddim yn ymddiried yn y cyhoedd i wneud eu dewisiadau eu hunain fel defnyddwyr.

Ond er bod termau a chyfyngiadau’r ddadl bresennol yn gallu teimlo’n hynod o rwystredig, dyw hynny ddim yn golygu y gallwn ni fforddio’i hanwybyddu. Mae ‘na ormod yn y fantol yn yr Adolygiad Siartr yma.

Os bydd yr adolygiad yma’n colli’i ffordd, efallai y gwelwn ni gyllid cyhoeddus yn cael ei neilltuo’n unswydd ar gyfer amrywiaeth gyfyng o raglenni arbenigol na fyddai o ddiddordeb i gwmnïau masnachol.

Byddai’r BBC yn troi’n ryw fath o ‘polyfilla’ creadigol – yno i lenwi bylchau’r farchnad. A byddai ffi’r drwydded yn raddol ddiflannu dros amser. Efallai na fyddai’r broses o newid yn digwydd ar unwaith, ac efallai na fyddai’n bosib o gwbl gyda radio. Ond fe allai ddechrau.

Y canlyniad, gydag amser, fyddai datgymalu’r BBC a’r system ddarlledu – nid yn unig yn y Deyrnas Unedig ond yma yng Nghymru hefyd.

Byddem yn dechrau datgymalu system unigryw – cymysgedd o ddarlledu cyhoeddus a phreifat, a adeiladwyd dros y ganrif ddiwetha ar egwyddorion economaidd a diwylliannol cadarn.

System sy’n adlewyrchu bywydau a diwylliant pobl Cymru. Ac sy’n dod â ni at ein gilydd fel pobol.

System sy’n darparu un o’r gwasanaethau newyddion mwyaf annibynnol a dibynadwy yn y byd.

System sydd wastad wedi addasu i’r oes – wrth ddatblygu gwasanaethau radio, teledu, ar-lein, ar-alw a symudol.

System sy’n gosod seiliau ar gyfer darlledu Cymraeg ar draws y BBC a S4C.

Ac fe ddylen ni fod yn glir gyda’n gilydd. Unwaith fydd y datgysylltu wedi dechrau, bydd dim modd ei adfer.

GWERTH AC EFFAITH DARLLEDU CYMRAEG

Wrth gwrs, nid codi cwestiynau am y rhaglenni rhwydwaith mawr yn unig wnaeth y Papur Gwyrdd. Gyda rhywfaint o syndod, cododd gwestiynau am ddarlledu Cymraeg a Gaeleg hefyd.

Yn y bôn, mae’n sôn bod y gost ychydig yn fwy ‘y pen’ i ddarparu gwasanaethau radio mewn ieithoedd cynhenid na’r rhai Saesneg, ac mae’r papur yn gofyn a oes modd cyfiawnhau’r gost uwch.

Ar wahân i fod yn bwynt go amlwg – mae rhaglen dda yn costio fwy neu lai yr un peth i’w gwneud ar gyfer hanner miliwn o bobl neu chwedeg miliwn, felly wrth gwrs bod ‘cost y pen’ yn uwch – mae hwn hefyd yn ymddangos fel achos o eisiau ei chael hi bob ffordd.

Ar un llaw, mae’n ymddangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu bod rhai rhaglenni a gwasanaethau yn rhy boblogaidd a ddim yn ddigon unigryw. Ond ar y llaw arall, mae’n ymddangos bod gwasanaethau eraill ddim yn ddigon poblogaidd neu’n rhy unigryw hyd yn oed.

A’r ddeuoliaeth yna yn y Papur Gwyrdd sy’n meithrin pryder mai’r gwir agenda yw creu BBC dipyn llai a’i chrib wedi’i thorri.

Felly gadewch i ni fod yn glir am ddau beth.

Gynta oll, dyw darlledu Cymraeg ar radio, teledu a’r wê erioed wedi bod yn bwysicach. Ac nid yw’r achos dros y buddsoddiad cyhoeddus sy’n ei gefnogi erioed wedi bod yn gliriach.

Wrth gwrs, dylai’r costau fod yn destun craffu call – mae hynny’n arfer da – ond peidiwch â gadael i ni syrthio i dwll lle ry’n ni’n meddwl am bopeth mewn termau economaidd, sychlyd – sy’n anwybyddu pwysigrwydd yr hyn sydd yn y fantol.

I fi, mae darparu gwasanaethau cyhoeddus yn Gymraeg yn mynd tu hwnt hyd yn oed i ymrwymiad bendigedig yr Arglwydd Reith i hysbysu, addysgu a diddanu. Inform, educate and entertain. Mae yna amcan ychwanegol yn does? I gynnal. Helpu i gynnal diwylliant, cymuned ac iaith.

Ac ochr yn ochr â’n hysgolion, daw rôl darlledu cyhoeddus hyd yn oed yn fwy allweddol yn yr ymdrech honno.

Mewn gwirionedd, wrth i gynifer o’r llefydd cyhoeddus a arferai gefnogi’r Gymraeg ddiflannu – y capel, y neuadd bentre neu’r dafarn leol – mae’r gofod cyhoeddus sy’n cael ei greu gan ddarlledu hyd yn oed yn bwysicach.

Sy’n fy arwain at fy ail bwynt. Byddwch yn ofalus, byddwch yn ofalus iawn, o’r proffwydi gwae sy’n mwydro am ddirywiad anochel darlledu Cymraeg.

Weithiau, dwi’n amau os ry’n ni’n deall yn iawn beth sydd gyda ni – a pha mor arbennig yw e.

Ystyriwch Radio Cymru am funud. Gorsaf sydd wedi bod yn cynnal math o eisteddfod genedlaethol ar y tonfeddi bob dydd, pob wythnos, ers bron i ddeugain mlynedd.

Dyma’n siambr drafod, ein theatr a’n neuadd gyngerdd, ein stadiwm chwaraeon, ein talwrn, ein capel, ein sgwâr y dref, ein llyfrgell, ein clwb comedi, ein tafarn leol – i gyd yn un. Dyw e ddim yn berffaith. Mewn gwirionedd, mae’n well na hynny. Mae’n swnllyd, yn anniben, yn angerddol, yn gecrus, yn ddychanol, yn ddiddanwch ac yn ysbrydoliaeth.

Weithiau, i gyd ar yr un pryd. Mae’n orsaf sy’n fyw gyda thwrw bywyd a diwylliant.

OND DYW E DDIM YN GWEITHIO RHAGOR, NAG YW E?

Wrth gwrs, nid yw pawb o’r un farn. Bydd y sgeptics yn dweud wrthoch chi na all darlledu Cymraeg greu argraff bellach. Byddan nhw’n mynd mlân a mlân hyd syrffed am oes aur darlledu – oes aur na fu.

Byddan nhw’n dweud wrthoch chi ein bod ni ond yn hyrwyddo manteision diwylliannol a chymdeithasol darlledu Cymraeg y dyddiau yma oherwydd bod y ffigurau gwrando a gwylio ddim yn dda iawn.

Wel, arhoswch am funud.

Ydy, mae’r gystadleuaeth yn tyfu. Ydy, mae’r her o gyrraedd siaradwyr ifancach a llai rhugl yn mynd yn anoddach.

Ond gyda’r holl anawsterau hyn, mae darlledu Cymraeg yn dal i greu argraff ddofn.

Mewn gwirionedd, er gwaetha’r holl sialensau, mae Radio Cymru, hyd heddiw, yn dal i ddenu traean o siaradwyr Cymraeg rhugl bob wythnos.

Meddyliwch am hynny. Un o bob tri ohono ni’n troi at un orsaf radio bob wythnos.

Pe bai gorsaf Saesneg yn llwyddo i’r un graddau ar lefel Brydeinig, byddai angen iddi ddenu deunaw miliwn o wrandawyr. Does dim un orsaf yn dod yn agos. Ddim Radio One, Radio Two na Radio Four.

Yn blwmp ac yn blaen, Radio Cymru yw’r orsaf radio fwyaf poblogaidd ymhlith siaradwyr Cymraeg rhugl.

A hynny o bell ffordd – gan ddenu tri deg y cant yn fwy o wrando na’r orsaf agosa, Radio Two.

Ah ie, ocê, ond dyw’r gwrandawyr hynny ddim yn deyrngar erbyn hyn, nag y’n nhw? Falle eu bod nhw’n troi am damed bach o Beti neu Dylan neu Dewi, ond mae eu gwir deyrngarwch rywle arall yn dyw e?

Anghywir unwaith eto.

Mae gwrandawyr Radio Cymru yn gwrando am dros filiwn o oriau bob wythnos – ac mae hynny’n hawdd yn fwy na deg awr yr un.

Dyma’r fath o deyrngarwch y byddai’r rhan fwya o orsafoedd yn breuddwydio amdani.

Bron i ddeugain mlynedd ers lansio, mae Radio Cymru yn parhau, heb os, yn asgwrn cefn a chonglfaen darlledu Cymraeg. Dwi’n browd iawn o’r ffaith – a dylai’r tîm fod hefyd.

Felly, dwi ddim am glywed y darogan gwae. Wrth gwrs bod yna sialensau. Ond mae Radio Cymru yn parhau wrth galon y bywyd Cymraeg. Cefnogwr brwd o’n diwylliant a’n cymuned. Curiad calon ein hiaith. Ein Heisteddfod ddyddiol.

PAM BOD ‘BBC I BAWB’ YN BWYSIG?

Ond gadewch i ni aros fan hyn am eiliad.

Bydd nifer ohonoch chi wedi darllen yn ystod yr wythnosau diwetha mai prif bryder Llywodraeth San Steffan, mae’n debyg, yw bod y BBC yn rhy fawr ac yn gwneud gormod o raglenni poblogaidd y gallai’r sector masnachol eu gwneud yn lle hynny.

Ac os y’ch chi’n frwd am ddarlledu Cymraeg, efallai y bydd y ddadl yna’n apelio atoch chi.

Oherwydd, os yw’r Llywodraeth yn mynnu bod y BBC yn tynnu nôl o fathau poblogaidd o raglenni ac yn canolbwyntio yn lle hynny ar raglenni mwy arbenigol sydd wedi eu targedu’n fwy – mewn meysydd lle mae’n amlwg nad yw’r farchnad yn mynd i’w darparu – wel, gallai hynny fod yn beth da i’r iaith Gymraeg, yn galle?

Gadewch i ni fod yn hollol glir. Paradwys ffŵl fyddai hynny.

Os wnewn ni ddechrau datod ethos ac apêl y BBC fel darlledwr i bawb, mae yna beryg y byddai parodrwydd y cyhoedd i gefnogi buddsoddiad mewn mwy o wasanaethau sy’n cael eu targedu, fel yr iaith Gymraeg, yn edwino.

Pam? Oherwydd bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi’i seilio ar gytundeb rhyfeddol o syml rhwng y BBC a’r rhai sy’n talu ffi’r drwydded.

Y rheswm bod ffi’r drwydded yn ennyn y fath gefnogaeth gyhoeddus ar draws y Deyrnas Unedig yw oherwydd ein bod ni gyd yn cyfrannu, gan wybod y bydd pawb yn elwa o’r buddsoddiad. Mae pawb ar eu hennill. Mae cymdeithas yn elwa, a dwi’n elwa.

Wrth gwrs, dyw hynny ddim yn golygu ein bod ni gyd yn gwylio ac yn gwrando ar yr un rhaglenni. Efallai mai Radio Three yw’n ffefryn i yn hytrach na Radio One. Efallai y mod i byth yn defnyddio’r News Channel ond yn dwli ar raglen Today.

Ond ry’n ni’n iawn gyda’r syniad y gallai ein ffi’r drwydded gael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethau a rhaglenni ry’n ni ddim yn eu gwylio. Cyn belled â’n bod yn gallu rhoi ffydd yn y BBC i ddarparu rhywbeth y byddwn am fwynhau.

A dyna’r peryg. Os wnewch chi erydu’r rhaglenni hynny sy’n cyrraedd y nifer fwya o bobl – y sioeau adloniant mawr a’r dramâu sy’n sicrhau bod y BBC yn wasanaeth gyfoethog i bawb – yn araf bach, byddwch chi’n erydu parodrwydd cymdeithas i gyfrannu at y gwasanaethau hynny sy’n cael eu targedu, gwasanaethau na fydd y rhan fwyaf o gynulleidfaoedd yn eu defnyddio.

A byddai’r goblygiadau ar gyfer Cymru a’r iaith Gymraeg yn bellgyrhaeddol.

Mae’r iaith Gymraeg yn elwa’n aruthrol o’r cyd-fuddsoddiad yn ffi’r drwydded. Mae’n cynnal S4C, BBC Radio Cymru a’r holl wasanaethau digidol a rhyngweithiol sy’n cael eu darparu gan y ddau ddarlledwr.

A byddai’r cyfan yma mewn peryg os byddai’r BBC yn cael ei gorfodi i fynd ar hyd y llwybr ‘polyfilla’: model o fethiant yn debyg i’r PBS yn America.

Mae dyfodol darlledu Cymraeg – hoffi hynny neu beidio – yn rhan gwbl annatod o gyflwr darlledu gwasanaeth cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Dyna fu’r gwirionedd ar hyd y blynyddoedd. Ac mae gyda ni ddiddordeb go iawn yng nghyflwr y ddau.

Felly os ry’n ni am ymladd dros ddarlledu Cymraeg, mae angen i ni godi’n llais hefyd dros dirlun darlledu cyhoeddus cryf ac uchelgeisiol ym Mhrydain.

Y CHWYLDRO SYDD I DDOD

Dwi nawr am droi at y dyfodol. A gadewch i fi ddechrau wrth gytuno mor bwysig yw hi yn yr hinsawdd ansicr yma ein bod yn diogelu cyllid digonol ar gyfer darlledu Cymraeg. Mae eraill wedi’i ddweud, ond gadewch i fi bwysleisio’r neges honno.

Wrth wneud hynny, dwi’n credu bod angen i ni fod yn ofalus i beidio â chwympo i’r trap o amddiffyn y gorffennol yn hytrach nag adeiladu ein dyfodol.

Dyna’r trwbwl ar adegau fel hyn – gyda phopeth yn ddryslyd. Ry’n ni’n dueddol o fynd yn amddifynnol, yn fewnblyg, a chyn bo hir, mae’r status quo yn gallu ymddangos fel cynllun ar gyfer y dyfodol.

Gallwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd. Oherwydd mae’r newid sydd ar y gorwel yn gwbl ddigynsail – ac mae’n gyffrous. Mae angen manteisio ar hynny.

Dyma chwyldro fydd yn rhoi’r defnyddiwr wrth galon yr ecoleg ddarlledu ac yn ail-ddiffinio’r tirlun cyfryngau ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Mae hefyd yn ddyfodol ry’n ni wedi bod yn paratoi’n drylwyr ar ei gyfer.

Dair blynedd yn ôl, ro’dd gen i bryder go iawn y byddai’r iaith Gymraeg mewn peryg o gael ei hynysu mewn môr o ddewis a thechnoleg oedd yn trawsnewid y tirlun cyfryngau.

Ers hynny, ry’n ni wedi gwneud cynnydd go iawn.

Bellach, mae pob rhaglen deledu a radio sy’n cael ei chynhyrchu yn Gymraeg ar gael, bron iawn, ar bob tablet, cyfrifiadur, teledu a chonsôl gemau yn y Deyrnas Unedig – diolch i gyrhaeddiad a phroffil BBC iPlayer.

Mae’n dangos i ni bod yna awydd go iawn am raglenni Cymraeg – nid yn unig yma yng Nghymru ond ar draws Prydain hefyd.

Ers lansio S4C ar iPlayer y llynedd, mae nifer y ceisiadau i wylio rhaglenni teledu Cymraeg wedi mwy na dyblu – gyda dros gan mil o geisiadau am raglenni bob wythnos.

Ry’n ni hefyd wedi bod yn datblygu’r rhwydwaith trosglwyddo digidol ar gyfer Radio Cymru – drwy ddyblu cyrhaeddiad yr orsaf ar DAB i bron naw deg y cant mewn ychydig dros ddwy flynedd.

Mae’r ap BBC iPlayer Radio hefyd yn gartref cyffrous newydd i Radio Cymru – gan alluogi gwrandawyr i gael gafael ar amrywiaeth lawn o bodlediadau. Ac ers mis diwetha, i lawrlwytho rhaglenni er mwyn gwrando arnyn nhw rywbryd eto.

Fis dwetha, lawrlwythwyd chwe deg mil o bodlediadau Radio Cymru – cynnydd o ugain y cant o’i gymharu â blwyddyn yn ôl. A’r podlediad mwya poblogaidd? Ie – Beti.

Dair blynedd yn ôl, fe wnes i osod targed y dylai holl wasanaethau arlein Cymraeg BBC Cymru yn eu cyfanrwydd ddenu o leia pum deg 10 mil o borwyr unigryw bob wythnos erbyn diwedd eleni. Ro’dd y ffigwr tua ugain mil ar y pryd – ac yn ymddangos fel petai’n sefyll yn stond.

Wel, mae’r tîm arbennig sy’n gyfrifol am ein gwasanaethau arlein, wedi pasio’r targed a osodwyd yn barod. Maen nhw wedi bod yn fentrus, yn sicr o’u nod ac yn hunan feirniadol. Ac maen nhw wedi cynyddu’r ugain mil i bum deg pump mil o borwyr bob wythnos (a cyn i chi ofyn, dyw hynny ddim yn cymryd effaith lansio S4C ar iPlayer i ystyriaeth).

Y cyfraniad mwya i’r llwyddiant hwnnw yw lansiad ein gwasanaeth arlein newydd, BBC Cymru Fyw. Mewn deunaw mis yn unig, mae wedi trawsnewid perfformiad ein gwasanaeth newyddion arlein, gan dreblu’r defnyddwyr wythnosol. O ddeg mil i dri deg mil o borwyr. Mae angen dathlu’r don yma o arloesi. Ond dyle ni ddim credu bod hynny’n ddigon chwaith.

Mae ein cynulleidfaoedd yn newid yn gyflymach na ni. Ac mae angen i ni fwrw ati i gyflymu’r newid.

YR IAITH AR DAITH

Am ddeugain mlynedd, cafodd darlledu Cymraeg ei seilio ar y syniad o ‘crëwch e – ac fe ddewn nhw’. Byddem yn adeiladu ein cestyll darlledu, ac yn gallu cymryd yn ganiataol y bydde’r gynulleidfa yn galw heibio. Roedd hi’n gyflawniad anhygoel hefyd.

Ond mae’r byd newydd digidol yn gwbwl wahanol. Ni sydd angen plethu ein hunain i fywydau’r gynulleidfa. Ac nid y ffordd arall.

Mae’n rhaid i ni fod lle ma’n nhw – a pheidio â disgwyl iddyn nhw chwilio amdano ni. Mae’n rhaid i ni eu hysbrydoli nhw i droi at y Gymraeg – a pheidio byth â chymryd yn ganiataol y byddan nhw’n troi ato ni o’u gwirfodd.

Mewn gair, rhaid i ni fynd â’r iaith ar daith i’n cynulleidfaoedd. Yr iaith ar daith.

Dyna pam ry’n ni wedi trawsnewid amlygrwydd gwasanaethau Cymraeg ar wasanaethau symudol ac arlein Newyddion y BBC. Bellach, maen nhw’n glir ac yn amlwg. Yn hytrach nag wedi eu cuddio ac ar wahân. Ac yno i bawb.

Dyna pam mae ap newydd Newyddion y BBC yn gadael i’r defnyddiwr greu llif dwyieithog o straeon newyddion – gan blethu’r gorau o’n straeon Cymraeg a Saesneg, yn hytrach na gorfodi’r defnyddiwr i ddewis iaith.

Ar iPlayer, dyna pam wnaetho ni wrthod yr hen ffordd o ynysu’r rhaglenni Cymraeg a Saesneg mewn ffrydiau ar wahân. Yn hytrach – maen nhw gyda’i gilydd.

Dyna pam, yn ystod y blynyddoedd diwetha, ry’n ni wedi cymryd camau sylweddol i roi amlygrwydd go iawn i’r Gymraeg ar wasanaethau teledu’r BBC ar BBC One a BBC Two – mewn rhaglenni fel Hinterland, Country Midwives, Make me Welsh, Patagonia, Welsh Heartland a The Hill Farm.

A dyna pam ei bod hi’n wych bod Y Gwyll ar S4C bellach i’w gweld ar y gwasanaeth ar-alw mwya’n y byd – Netflix.

Yr iaith ar daith at ein cynulleidfaoedd – lle bynnag ma’ nhw – dyma’r cyfle gorau o gynnal gofod cyhoeddus bywiog ar gyfer cenhedlaeth newydd o siaradwyr Cymraeg.

I fynd lle ma’n nhw’n mynd, i gadw at eu rheolau nhw, nid ein rhai ni. I blethu ein hunain yn eu bywydau.

Ac i lwyddo yn yr amgylchedd newydd yma, mae angen i ni fod yn gwbl glir mai ein hunig amcan, gyda’n gilydd, yw darparu cynnwys a gwasanaethau sy’n berthnasol, sy’n cael eu gwerthfawrogi, ac yn bwysicach, sy’n cael eu defnyddio.

Mae’r byd newydd yma yn ddryslyd. Mae angen i ni fod yn hyblyg. I arbrofi. I ddysgu’n gyflym. Ac i fethu’n gyflym hefyd weithiau. Bydd yn rhaid i ni fod yn fwy hyblyg a dod o hyd i lyfr rheolau newydd.

Gadewch i fi roi enghraifft o hynny. Bydd nifer ohonoch yn gwybod bod rhai wedi bod yn galw am ail orsaf radio genedlaethol ar gyfer gwrandawyr ifancach. Yr hyn sy’n cael ei alw’n weithiau fel Radio Cymru Dau.

Mae’r ddadl yn syml iawn: allwch chi ddim gofyn i un orsaf fod yn bopeth i bawb os y’ch chi am lwyddo. Felly, yn anochel, mae angen dau wasanaeth Radio Cymru.

Mae yna resymeg greddfol fan hyn – ond, mae yna rywbeth sydd ddim cweit yn teimlo’n iawn i fi. Ydyn ni mewn peryg o ateb sialens fodern iawn gydag ymateb ychydig yn hen ffasiwn?

Dyddie ‘ma, mae ‘na sbectrwm o opsiynau ar gyfer diwallu anghenion grwpiau cynulleidfa gwahanol.

Gall tonfeddi radio gael eu hollti mewn rhannau gwahanol o Gymru neu yn ystod rhannau gwahanol o’r dydd i ddarparu mwy nag un gwasanaeth. Gall gwasanaethau arlein ein galluogi i gyrraedd grwpiau gwahanol heb gostau darlledu traddodiadol.

A thrwy ddefnyddio cysylltiad dwy-ffordd y rhyngrwyd, gallwn ddechrau darparu gwasanaethau sydd wedi eu teilwra’n arbennig.

Efallai bod opsiynau mwy radical fyth i ni ystyried.

Cymerwch Radio One fel enghraifft. Dyma i chi frand pobl ifanc sy’n adnabyddus ac sy’n cael ei garu gan dros hanner miliwn o bobl yng Nghymru – gan gynnwys dros gan mil o siaradwyr Cymraeg o dan dri deg oed.

Mae’n deall cynulleidfaoedd ifanc – o bosib yn well nag unrhyw frand cyfryngau arall yn Ewrop. Yn fras, mae’n cael ei garu, mae’n gredadwy ac mae’n gweithio.

Ond Rhod, ti wedi anghofio un peth – mae’n Saesneg yn dyw e?

Wel, ydy ar hyn o bryd. Ond eto, mewn byd o bersonoli – lle mae’r rhyngrwyd yn ein galluogi i deilwra pob brand yn fanwl i ddiwallu anghenion pob defnyddiwr – bydde dim byd yn ei rwystro rhag cael ei ddarparu mewn dwy iaith. Gwasanaethau sain, fideo a newyddion wedi eu teilwra i genhedlaeth o siaradwyr Cymraeg ifanc.

Mae yna nifer o syniadau fel hyn sydd angen eu datblygu ymhellach cyn setlo ar yr ateb cywir. Ond fy mhwynt i yw mai dyma gyfleoedd y byd newydd. Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ein bod yn agored iddyn nhw.

Bydd yn gyfle i ail-ddyfeisio’r hyn ry’n ni’n ei wneud. I fynd â ni ar daith at y gynulleidfa. Yr iaith ar daith.

Bydd angen newid ffordd o feddwl. Yn y byd newydd yma, y defnyddiwr sy’n arwain y ffordd, nid y darlledwr. A bydd hyn yn pylu’r ffiniau rhwng brands ac ieithoedd a gwasanaethau. Gall hyn deimlo ychydig yn anghyfforddus a chythryblus. Ond dwi’n credu y gallwn ni fod yn browd iawn o’r tirlun darlledu ry’n ni wedi’i greu heb fod yn gaeth iddo.

Bydd y byd newydd yma hefyd yn ein herio i fynd i’r afael a rai o’r cyfyngiadau sydd wedi bod yn rhan o ddarlledu Cymraeg.

Os cymrwch chi gam yn ôl, mae’n anhygoel cymaint o waith papur sy’n sail i ddarlledu Cymraeg. Mae ‘na Ddeddf Darlledu, Deddf Cyrff Cyhoeddus, trwydded gwasanaeth, partneriaeth strategol, cytundeb gweithredu – a phwy all anghofio – Siartr hefyd.

Mae’r cytundebau hyn wedi’u hennill ar ôl aml i frwydr wrth gwrs. Ffrwyth blynyddoedd o ymdrech ac ymgyrchu. Nid ar chwarae bach y dylid eu haddasu. Dwi ond yn gofyn y cwestiwn: ar ba bwynt y mae na beryg eu bod nhw’n ein dal ni nôl?

Oni ddylsem, er enghraifft, foderneiddio Trwydded Gwasanaeth Radio Cymru – y cytundeb gydag Ymddiriedolaeth y BBC ynghylch yr hyn y mae’n rhaid i’r gwasanaeth wneud a’r hyn na all wneud – er mwyn caniatáu iddo fod yn fwy eofn a mentrus yn y byd ar-alw?

I fynd un cam ymhellach, a fyddai trwydded ar gyfer holl wasanaethau Cymraeg BBC Cymru yn fwy addas yn y byd newydd – mewn byd heb furiau?

Yn yr un modd, a ddylai cyfraniad statudol BBC Cymru i S4C barhau i gael ei fesur yn ôl nifer yr oriau rhaglenni yr ŷn ni yn eu cynhyrchu? 520 awr y flwyddyn a bod yn fanwl gywir o dan amodau’r Ddeddf Ddarlledu.

Pe bai S4C, yn y dyfodol, yn penderfynu eu bod am gael cynnwys digidol neu ryngweithiol gan y BBC – yn rhad ac am ddim fel rhan o’r bartneriaeth strategol – yna byddai cyfraith a luniwyd rhyw 35 mlynedd ôl, mewn oes analog, yn rhwystro hynny.

Fy mhwynt i yw – ar draws y tirlun cyfryngau Cymraeg – rhaid i ni herio’n hunain i symleiddio a moderneiddio fel y gallwn symud yn gyflymach, yn fwy rhydd a thrïo mwy o bethau. Dylem fod yn gallu addasu a newid ac ail-flaenoriaethu a llwyddo a methu – heb fod ag un fraich wedi ei chlymu tu ôl i’n cefnau.

Fel y dywedais yn gynharach, ein hunig amcan, gyda’n gilydd, yw darparu cynnwys a gwasanaethau sy’n berthnasol, sy’n cael eu gwerthfawrogi ac sy’n cael eu defnyddio. Mae popeth arall yn eilradd.

Dyma’n cyfle i fynd â’n hiaith a chreadigrwydd y rheiny sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ysbrydoli cenhedlaeth newydd. Dyma ddewis ma’n rhaid i ni wneud.

DIWEDDGLO

Oherwydd y mod i’n optimist, efallai mai fy ngobaith mwyaf yw y bydd y cyfnod yma o Adolygu’r Siartr yn sbarduno dadl bellgyrhaeddol ynglŷn â dyfodol darlledu yng Nghymru.

Mae’n gyfle, nid yn unig i ofyn pa fath o ddarlledu ry’ ni eisiau, ond hefyd pa fath o Gymru ry’n ni eisiau.

Dylem fod yn barod am ddadl frwd – weithiau’n danllyd. Mewn gwirionedd, dylem fynnu dadl o’r fath. Dyw darlledu Cymraeg yng Nghymru ddim yn perthyn ir darlledwyr.

Dyw e ddim yn perthyn i’r ymgyrchwyr na’r gwleidyddion chwaith. Mae’n perthyn i chi. Y bobl biau’r cyfrwng.

Chi yw’r cyfranddalwyr.

Chi sy’n talu amdano ni, felly eich llais chi fydd bwysica yn y ddadl hon.

Nawr yw’r amser i godi’ch llais.

Diolch yn fawr.

Ffynhonnell: Gwefan ClickOnWales