Ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gael nawr
30/05/2013
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Ap newydd Eisteddfod 2013
Mae ap newydd sbon Eisteddfod yr Urdd 2013 ar gael NAWR!
Mae'r ap yn cynnwys amserlen lawn o'r cystadlaethau, canlyniadau'r wythnos, gweithgareddau'r maes ac mae hefyd modd i chi greu eich amserlen bersonol ar gyfer yr wythnos.
Cliciwch yma fynd yn syth i'r 'App Store' i'w lawr lwytho ar gyfer yr ipod,iphone neu ipad ac yma ar gyfer android.
Cefnogir yr ap gan S4C a datblygwyd gan gwmni Moilin Cyf.