Angen deddfu i ehangu Addysg Gymraeg, yn ôl mudiad

31/10/2017

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn galw am yr angen i unrhyw Ddeddf Iaith newydd gynnwys mesurau statudol i gryfhau achos Addysg Gymraeg.

Dyma yw galwad RhAG mewn ymateb i Bapur Gwyn y Llywodraeth sy’n cynnig diwygio deddfwriaeth mewn perthynas â’r Gymraeg.

 

Meddai Lynne Davies, Cadeirydd RhAG: “Mae RhAG yn cefnogi’n llwyr uchelgais y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r amcanion yn glodwiw, ond nid yw’r Papur Gwyn dan sylw yn llwyddo i ddatrys y bylchau yn y seilwaith deddfwriaethol presennol. Mae dyfodiad Deddf Iaith newydd yn gyfle i drafod sut y gall unrhyw fframwaith cyfreithiol newydd fod yn gerbyd i ganiatáu i addysg Gymraeg ddatblygu.  

 

“Mae’n gydnabyddedig fod dyfodol yr iaith Gymraeg yn ddibynnol ar sicrhau’r amodau gorau i addysg Gymraeg ffynnu. Felly credwn fod angen llunio dyletswyddau penodol er mwyn sicrhau bo'r awdurdodau lleol yn ymateb yn briodol i'r galw am Addysg Gymraeg ac yn cynyddu'r ddarpariaeth.

 

Yn ôl Lynne Davies,“Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw arwain ar bolisi addysg cenedlaethol. Ond yn nwylo’r awdurdodau lleol y mae’r cyfrifoldeb o weithredu, a dyma’r gwendid ar hyn o bryd. Hyd yn hyn, rydym wedi cael 6 mlynedd o Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg heb unrhyw ddannedd, a’r cynnydd a gafwyd o ganlyniad i hynny yn fach, os o gwbl. Ni allwn barhau i wneud cyn lleied o gynnydd os yw’r Llywodraeth o ddifrif am gyrraedd targed Cymraeg 2050. 

 

Deddfwriaeth bresennol yn ddiffygiol

 

Ychwanegodd Lynne Davies, “Mae’r ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas ag addysg Gymraeg yn ddiffygiol iawn, nid oes unrhyw beth ar hyn o bryd sy’n sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu, yn eu dwyn i gyfrif os nad ydynt yn gweithredu nac ychwaith yn rhoi hawliau penodol i rieni i herio’r drefn. Nid yw cyfundrefn y Safonau, hyd yn hyn, wedi cyfrannu mewn modd ystyrlon at unioni’r sefyllfa honno. O ganlyniad, mae hawliau cyfredol rhieni o safbwynt addysg Gymraeg yn parhau’n amwys ac aneglur. 

 

“Mae'r mudiad eisoes wedi galw am lunio Bil Addysg Gymraeg (Maniffesto Etholiadau’r Cynulliad 2016). Rydym yn argymell yn gryf y dylid hefyd fanteisio ar y cyfle i gynnwys addysg Gymraeg yng nghwmpawd unrhyw ddeddfwriaeth newydd. Rhaid osgoi sefyllfa lle mae deddfu ym maes yr iaith yn gorwedd ar wahân i addysg.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru