Angen caniatau i goedwigoedd dyfu'n ôl i liniaru newid hinsawdd, yn ôl astudiaeth newydd

15/10/2020

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Dylid ystyried caniatáu i goedwigoedd dyfu'n ôl yn naturiol ochr yn ochr â mesurau eraill fel plannu coed ar raddfa eang fel dull i liniaru newid hinsawdd, yn ôl astudiaeth newydd o bwys sy'n mapio cyfraddau cronni carbon drwy aildyfiant coedwigoedd ledled y byd.

Dan arweiniad gwyddonwyr o’r Nature Conservancy, cafodd y papur ei gyhoeddi yng nghyfnodolyn Nature. Mae’n cyfuno canlyniadau 256 o astudiaethau blaenorol (a ddetholwyd yn sgil adolygu dros 11,000 o astudiaethau), ac mae’n cynnwys dros 13,000 o fesuriadau o leoliadau ar draws y byd.

 

Y canlyniad yw creu’r map byd-eang cyntaf o’i fath, gyda chydraniad o 1km, yn dynodi ardaloedd sydd â’r enillion carbon mwyaf o’r 30 mlynedd gyntaf o ganiatáu i diroedd ail-goedwigo’n naturiol.

 

Mae'r astudiaeth, a gyhoeddwyd mewn cydweithrediad â Sefydliad Adnoddau'r Byd a 18 o sefydliadau ymchwil eraill, yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, hefyd yn tynnu sylw at sut mae cyfraddau cronni carbon posibl yn amrywio'n fawr - hyd at 100 gwaith - yn seiliedig ar ffactorau fel hinsawdd, pridd a llethr.

 

Mae’n cynnig meincnod hanfodol ar gyfer asesu potensial aildyfiant coedwig fel strategaeth lliniaru hinsawdd, ochr yn ochr â chamau gweithredu hanfodol fel datgarboneiddio tanwydd ffosil ac allyriadau diwydiannol eraill.
Dywedodd awdur arweiniol yr adroddiad, Dr Susan Cook-Patton o The Nature Conservancy: "Rydym eisoes yn gwybod am y buddion niferus a ddaw yn sgil adfer gorchudd coedwig byd-eang - o ddal carbon a glanhau ein haer a'n dŵr, i ddarparu cynefinoedd i fywyd gwyllt a darparu cyfleoedd datblygu cynaliadwy i gymunedau lleol. Yr hyn sydd wedi bod ar goll hyd yma yw data cadarn y gellir gweithredu arno sy'n helpu llunwyr polisi amgylcheddol i ddeall lle mae aildyfiant naturiol yn fwyaf effeithiol fel offeryn i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Bydd ein hastudiaeth yn helpu i newid hynny.”
Mae aildyfiant naturiol ar y cyfan yn cynrychioli’r ffordd leiaf costus i adfer coedwig, gan gynnig cydbwysedd delfrydol i raglenni plannu ar raddfa fawr tra hefyd yn cefnogi rhywogaethau coed brodorol sydd wedi addasu orau i amodau lleol ac adfer cynefin bywyd gwyllt gwerthfawr.

 

Dywedodd cyd-awdur yr adroddiad Dr Bronson Griscom o Conservation International: “Yn seiliedig ar y set ddata fwyaf cadarn o’i fath hyd yma, mae ein map yn amlygu lleoliadau ledled y byd lle mae gan aildyfiant coedwig naturiol y potensial i fod yn ddatrysiad hinsawdd naturiol effeithlon a chost-effeithiol. Wrth wneud hynny, mae ein hymchwil hefyd yn ein hatgoffa’n amserol o botensial pwerus aildyfiant coedwigoedd naturiol fel rhan o bortffolio ehangach o atebion hinsawdd naturiol, sy’n cwmpasu amddiffyn, adfer, a gwell rheolaeth ar goedwigoedd, gwlyptiroedd, glaswelltiroedd a thiroedd amaethyddol.”
Mae trylwyredd digynsail y canfyddiadau diweddaraf hyn hefyd yn awgrymu y gallai cyfraddau aildyfiant coedwig diofyn cyfartalog a ddefnyddir gan Banel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (IPCC) fod wedi cael eu tanamcangyfrif o 32%. Mae hyn yn awgrymu bod aildyfiant coedwig naturiol yn offeryn lliniaru hinsawdd hyd yn oed yn fwy pwerus nag a sylweddolwyd o'r blaen.

 

“Rydyn ni'n gwybod nad oes un ateb sy'n addas i bopeth o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd. Ein nod gyda'r astudiaeth hon oedd dangos lle gall coedwigoedd ddal carbon gyflymaf ar eu pennau eu hunain, strategaeth liniaru sy'n ategu cadw coedwigoedd lle maen nhw,” esboniodd y cyd-awdur Dr Nancy Harris o Sefydliad Adnoddau'r Byd. “Os ydyn ni’n gadael iddyn nhw, gall coedwigoedd wneud rhywfaint o’n gwaith lliniaru hinsawdd ar ein rhan.”
“Gall coedwigoedd chwarae rhan hanfodol bwysig o ran lliniaru newid hinsawdd. Ar adeg pan mae llawer o lywodraethau yn edrych ar atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu i gryfhau eu hymrwymiadau cenedlaethol ar fater newid hinsawdd, ein gobaith yw y bydd ein hastudiaeth yn darparu arweiniad defnyddiol ynghylch y cyfraniad posibl y gall aildyfiant coedwig naturiol ei wneud tuag at yr amcanion hyn,” meddai'r cyd-awdur Dr Kristina Anderson-Teixeira o Sefydliad Smithsonian.
Mae’r cyd-awdur Yr Athro Richard Lucas, sy'n dal Cadair Ymchwil Sêr Cymru yng Ngrŵp Ymchwil Arsylwi'r Ddaear a Dynameg Ecosystemau Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, wedi bod yn astudio rôl adfywio coedwigoedd wrth adfer ecosystemau mewn nifer o wledydd. 

 

Lliniaru effeithiau newid hinsawdd

 

"Mae argaeledd gwybodaeth ofodol am botensial aildyfu coedwigoedd yn caniatáu i ystod eang o randdeiliaid ddeall a nodi’r cyfleoedd cenedlaethol a byd-eang sydd ar gael i gynyddu stociau carbon a chynnig gwybodaeth am dargedau adfer. Gall ymdrechion o'r fath liniaru effeithiau newid hinsawdd ond gallant hefyd chwarae rhan yn y gwaith o wrthdroi colli bioamrywiaeth."

 

I gyd-fynd â chyhoeddi'r astudiaeth hon, mae Nature4Climate (N4C) - y glymblaid a sefydlwyd gan The Nature Conservancy gyda Conservation International, Sefydliad Adnoddau'r Byd a phartneriaid eraill i gynyddu buddsoddiad byd-eang a gweithredu ar atebion sy'n seiliedig ar natur - wedi cyhoeddi meddalwedd mapio gwledydd wedi'i ddiweddaru yn tynnu sylw at ardaloedd uchel eu potensial yn fyd-eang.