Ail Symudiad yn rhyddhau sengl newydd Dilyn Cymru

11/05/2021

Categori: Cerddoriaeth, Chwaraeon, Newyddion

Mae'r band chwedlonol o Aberteifi, Ail Symudiad yn rhyddhau sengl newydd 'Dilyn Cymru' i gyd-fynd gyda thim Cymru yn cyrraedd cystadleuaeth yr Ewros fis Mehefin.

Mae’r ddau frawd Richard a Wyn Jones wedi cefnogi Cymru adre ac i ffwrdd ers degawdau. Fe fydd dau o fand pres enwog y Barry Horns sef Chris Leek a Jamie White yn ymuno gyda hwy.  Mae'r Barry Horns yn enwog fel y band sy'n crwydro dros Ewrop yn mynychu gemau  pêl-droed Cymru.

 

Addasiad o ‘Symud Trwy’r Haf’ yw’r gân sydd ar yr albym ‘Sefyll ar y Sgwâr’  a rhyddhawyd ym 1982 ond nawr a geiriau wahanol gyda rhai elfennau dal yna. Ail Symudiad oedd y band cyntaf Cymraeg i enwi pêl-droed mewn cân (Symud Trwy’r Haf): ‘Pêl-droed ar y tywod gwyn, Byth yn chwarae fel Brasil!!’   

 

Rhan o'r wal goch

 

Mae y geiriau yn sôn am ddilyn Cymru yn yr Ewros, Cwpan y Byd a gemau eraill yn gyffredinol. Cafodd y gân ei recordio cyn y cyfnod clo cyntaf a’i cynhyrchu gan Lee Mason yn Stiwdio Fflach.