Ail-fyw storm ddychrynllyd 1859 trwy ap newydd

01/11/2018

Categori: Amgylchedd, Ar-lein, Hamdden, Newyddion

Fel rhan o ddathliadau Blwyddyn y Môr Croeso Cymru, mae Cadw wedi lansio profiad digidol newydd sbon, a fydd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr ail-fyw Storm Fawr ddychrynllyd Hydref 25-29 1859.

Mae’r pecyn digidol newydd, sydd ar gael drwy ap presennol Cadw, yn defnyddio dulliau clywedol o ddweud stori a thechnoleg realiti estynedig mewn arddull agerbync (‘steampunk’), i roi bywyd newydd i doreth o storïau am ddigwyddiadau hanesyddol trychinebus.

 

Mae’r lansiad yn digwydd 159 o flynyddoedd i’r diwrnod ers y Storm Fawr, a achosodd ddinistr mawr dros nos ledled Cymru, ac effeithiau dilynol difrifol i lawer o gymunedau ar arfordir Cymru.  

 

Mae’r diweddariad newydd i’r ap yn cynnwys manylion am longddrylliadau trychinebus y Storm a’r adeiladau gafodd eu dinistrio mor ddychrynllyd ar yr arfordir. Bydd hefyd yn rhoi adroddiadau clywedol ‘yn y fan a’r lle’ i’r defnyddwyr am yr hyn a ddigwyddodd y noson honno, gan gynnwys ail-luniad rhithwir o’r Storm, sy’n cael ei hystyried fel trychineb forol waethaf Cymru.  

 

Gall defnyddwyr gael mynediad at lu o storïau gwefreiddiol mewn 13 lleoliad gwahanol yng Nghymru — Caergybi, Aberystwyth, Aberporth, Ceinewydd, Cwm-yr-Eglwys, Porth-gain, Aber Bach, Dinbych-y-Pysgod, y Rhyl, Ynys y Barri a thri lleoliad gwahanol ym Moelfre. Mae pob lleoliad yn cynrychioli stori arwrol neu drychineb lleol, ac un o’r rhain yw hanes enwog erbyn hyn y Royal Charter — llong a ddinistriwyd ger arfordir Môn.

 

Y Royal Charter

 

Ar doriad gwawr, ddydd Gwener 26 Hydref 1859, dinistriwyd yr agerlong hwyliau a adeiladwyd yn 1855, wrth iddi ddychwelyd i Brydain â llwyth o deithwyr o Awstralia. Ni allai trigolion Moelfre ar Ynys Môn wneud dim ond gwylio mewn braw wrth i’r tonnau dieflig gipio 450 o fywydau — mwy na hanner yr holl bobl a laddwyd gan y Storm. Mewn lleoliad wedi’i ddewis yn arbennig ym Moelfre, gall defnyddwyr wylio wrth i long enwog erbyn hyn y Royal Charter gael ei dal yn y tywydd eithafol, cyn bwrw yn erbyn creigiau a throi’n un o longddrylliadau mwyaf adnabyddus Cymru.

 

Traddodir adroddiadau ‘byw’ yr ap, am ddigwyddiadau mewn lleoedd fel y Rhyl ac Ynys y Barri, gan gyflwynydd newyddion o Oes Fictoria, Joseph Potter, drwy gyfrwng ‘Potter’s Electric News Telectroscope Service’ — fersiwn cyfoes pe petai o’r hen bapur newydd ar gyfer ardal Hwlffordd, ‘Potters Electric News’.

 

Casglwyd y wybodaeth ryfeddol yn ofalus o’r archifau cenedlaethol, o gofrestri llongau a datganiadau tystion, yn ogystal ag adroddiadau newyddion lleol manwl — diolch i dechnoleg telegraff trydan arloesol y cyfnod. 

 

Mae cyfarwyddiadau i’ch helpu i ddod o hyd i’r lleoliadau gweithredol, a hwyluswyd mewn partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) ac awdurdodau eraill, wedi’u darparu o fewn yr ap.  

 

Mynediad at dreftadaeth trwy dechnoleg

 

Yn ôl y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas, “Mae’r profiad digidol arloesol hwn yn enghraifft arall o’r modd y mae Cadw yn defnyddio technoleg newydd i sicrhau ei bod hi’n haws cael mynediad at dreftadaeth Cymru, a’i bod hi’n haws i’w deall a’i mwynhau.

 

'Yn y gorffennol, rydyn ni wedi llwyddo i ddefnyddio technoleg realiti estynedig, camerâu 360 gradd a fideo o’r awyr i ddarparu dulliau newydd a chyffrous i bobl Cymru, ac ymwelwyr, allu dysgu am ein hanes cyfoethog.

 

'Ac yn ystod Blwyddyn y Môr, gobeithio y bydd yr arlwy newydd yn annog pobl o bob oedran i ddysgu am hanes Storm Fawr 1859, sef digwyddiad sy’n rhan annatod o amgylchedd hanesyddol unigryw Cymru'.

 

Gallwch gael mynediad at brofiad digidol y Storm Fawr drwy chwilio am ‘Cadw’ yn yr App Store (Android neu Apple), lawrlwytho ap Cadw i’ch dyfais glyfar a dewis y pecyn ‘Storm Fawr’, sydd yn yr adran ‘Teithiau Digidol’.