Ail-ddatblygu canolfan Gymraeg yng Nghaerdydd yn destun cyfarfod cyhoeddus

Caiff cynlluniau i ail-ddatblygu canolfan Gymraeg hanesyddol yng Nghaerdydd eu trafod mewn cyfarfod cyhoeddus yr wythnos hon. Fe roddwyd Tŷ’r Cymry, sydd wedi ei leoli yn ardal y Rhath yn y brifddinas, i Gymry Cymraeg Caerdydd ym 1936 er mwyn hyrwyddo’r iaith a statws cyfansoddiadol i Gymru.

Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i nifer o sefydliadau ers iddo gael ei sefydlu - gan gynnwys Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, yr Urdd, Plaid Cymru, Cymdeithas yr Iaith a Chylch Meithrin Tŷ'r Cymry. Mae grŵp o bobl leol a mudiadau wedi bod yn cwrdd ers nifer o fisoedd er mwyn trafod cynlluniau i achub y tŷ hanesyddol fel canolfan Gymraeg, yn dilyn bygythiad i’w werthu.

 

Yn siarad ar ran y grŵp sydd am ail-ddatblygu’r safle, dywedodd Branwen Miles: “Fel pobl a mudiadau sy’n cynrychioli nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn y ddinas, rydyn ni’n credu bod llawer o botensial i’r tŷ. Does dim amheuaeth bod prinder difrifol o ofodau Cymraeg yng Nghaerdydd, a bod angen mwy ohonynt os yw’r iaith i ffynnu yma. Mae cymaint o hanes yn perthyn i’r lle, byddai’n drueni mawr pe bai’n cau. “Yn sicr, byddai angen buddsoddiad sylweddol er mwyn gwireddu’r cynlluniau uchelgeisiol rydyn ni wedi dechrau eu trafod, ond mae llawer iawn o gefnogaeth iddyn nhw hefyd.

 

Ers i ni ddechrau llunio cynlluniau ail-ddatblygu, mae wedi bod yn galonogol gweld bod cymaint o frwdfrydedd ymysg pobl y ddinas i weld y lleoliad hanesyddol hwn yn cael ei adfer a’i ail-ddychmygu ar gyfer y cenedlaethau i ddod.” Prif nod y cyfarfod cyhoeddus yw denu ymddiriedolwyr newydd allai lunio a gweithredu cynllun i ail-ddatblygu’r adeilad.

 

Chwarae rôl amlwg yn hanes y Gymraeg

 

Ychwanegodd y bargyfreithiwr Rhys ab Owen, a fydd yn cadeirio’r cyfarfod cyhoeddus: “Mae Tŷ’r Cymry wedi chwarae rôl amlwg yn hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd yn ystod yr 80 mlynedd diwethaf. Amcan y cyfarfod yw ystyried a oes modd rhoi ail wynt i adeilad a fu yn ganolog i gymuned Gymraeg ein prifddinas.”

 

Mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn adfer Tŷ’r Cymry ymuno â’r cyfarfod a gynhelir am 7:30pm nos Fercher yma dros Zoom.