Adroddiad o Brifysgol Bangor yn codi ymwybyddiaeth dros gyfiawnder gweinyddol

17/12/2018

Categori: Newyddion

Mae cyfiawnder gweinyddol yn golygu eich bod yn gallu mynd at gyrff penodol i geisio iawn os ydym yn anhapus gyda’r gwasanaeth, ac Sarah Nason, Darlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, newydd gyhoeddi adroddiad sy'n adolygu beth yw'r sefyllfa bresennol a'r camau nesaf i gyfiawnder gweinyddol yng Nghymru drwy dynnu ynghyd y penderfyniadau gweinyddol a ddatganolwyd i Gymru a gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Eglurodd: "Y prif beth y mae cyfiawnder gweinyddol yn rhoi sylw iddo yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gwneud penderfyniadau cywir mewn meysydd sy'n effeithio'n fawr ar bobl yn eu bywydau bob dydd.  Mae hyn yn cynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, addysg, tai cymdeithasol, llywodraeth leol, cynllunio a'r amgylchedd. Rheolir y rhan fwyaf o benderfyniadau cyrff cyhoeddus yn y meysydd hyn gan gyfraith ddatganoledig a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru.

 

"Mae cyfiawnder gweinyddol yn cynnwys cyfraith gyhoeddus a threfn ar gyfer datrys anghydfod pan fo pobl yn anfodlon â phenderfyniadau cyrff cyhoeddus. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn teimlo bod y corff cyhoeddus wedi gwneud y penderfyniad anghywir, neu lle maent yn derbyn y penderfyniad ond yn dal i deimlo bod eu hachos wedi cael ei drin yn wael, er enghraifft, os yw staff wedi bod yn anghwrtais, gwaith papur wedi mynd ar goll neu oediadau cyson cyn gwneud penderfyniadau. 

 

"Disgrifir cyfiawnder gweinyddol fel 'Cinderella' y system gyfiawnder gan nad yw pobl at ei gilydd yn sylweddoli bod y gyfraith, trefniadau darparu iawn, gwasanaethau cyngor ac eiriolaeth, a dysgu oddi wrth ddiffygion i wella gwasanaethau cyhoeddus, mewn gwirionedd yn system o gyfiawnder (fel cyfiawnder sifil neu droseddol).

 

Mae'r adroddiad Administrative Justice: Wales’ First Devolved Justice System, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgol y Gyfraith Bangor, yn dwyn ynghyd y sylwadau a ddeilliodd o weithdy a gynullwyd gan Gwnsler Cyffredinol Cymru Jeremy Miles AC ac y daeth Aelodau Cynulliad, academyddion, llunwyr polisi ac ymarferwyr iddo. Cafodd y gweithdy yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ei gyllido gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.

 

Mae'r argymhellion yn cynnwys gwella cydlyniad, hygyrchedd a thegwch y gyfraith a dulliau datrys anghydfodau.  Mae'r Adroddiad yn argymell bod y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull clir ac egwyddorol o ymdrin â diwygio yn unol â'u hamcanion i wella hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru,  diwygio gwasanaethau cyhoeddus a llywodraeth leol, a diwygio'r tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru (mae'r rhain yn gyrff barnwrol sy'n gwrando ar anghydfodau mewn meysydd megis addysg ac iechyd meddwl). Mae'r Adroddiad hefyd yn argymell y dylai'r Cynulliad gymryd mwy o swyddogaeth oruchwyliol i sicrhau nad yw cyfraith ac iawn yn parhau i ddatblygu mewn ffordd ddi-drefn ac anghyson yng Nghymru. 

 

Wrth groesawu cyhoeddi'r Adroddiad, dywedodd Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol Cymru: "Yn sylfaenol, rydym am i'n system cyfiawnder gweinyddol yma yng Nghymru allu dysgu o, ac yn y pendraw, arwain ar y dulliau gweithredu gorau yn rhyngwladol, rhoi ystyriaeth lawn i ymarfer yma hyd at heddiw, ac annog arloesi a chanolbwyntio'n gadarn ar ddefnyddwyr.  Roeddwn yn falch iawn o gynnal y gweithdy ym mis Medi, a dynnodd ynghyd amrywiaeth eang o arbenigwyr, academyddion, Aelodau'r Cynulliad a defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r cydweithio hwn yn helpu i annog trafod ac ysgogi meddwl."

 

Meddai Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Nid yw cyfiawnder aneglur yn gyfiawnder, mae'r awdur i'w ganmol am gyfres o argymhellion sy'n dod â mwy o eglurder i'r dinesydd."

 

Codi ymwybyddiaeth

 

Dyma oedd casgliadau Sarah Nason: "Efallai ein bod yn meddwl bod cyfiawnder gweinyddol yn rhywbeth pell oddi wrthym, ond gall effeithio ar ein bywydau bob dydd mewn gwirionedd. Drwy'r Adroddiad hwn rydym yn gobeithio codi ymwybyddiaeth a dechrau trafodaeth am ein system cyfiawnder gweinyddol ddatganoledig yng Nghymru. Mae'r gyfraith sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau a dyfarnu iawn mewn cyrff cyhoeddus wedi datblygu'n dameidiog, gan ei gwneud yn anodd weithiau i bobl ddeall beth yw eu hawliau, ac arwain at anghydfodau hir a gaiff eu cyllido i raddau helaeth gan drethdalwyr.  Efallai ein bod bellach wedi cyrraedd man lle gallwn adolygu yr hyn sydd gennym a chreu system haws ei deall a'i defnyddio."