Aber yr Afon Dwyryd gam yn agosach at ddyfodol di-beilonau

01/07/2020

Categori: Addysg, Amgylchedd, Newyddion

Rhoddodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ganiatâd cynllunio ar gyfer adeilad pen twnnel i’r de ddwyrain o aber yr afon Dwyryd sydd rhwng Harlech a Phenrhyndeudraeth er mwyn rhoi gwifrennau trydan y Grid Cenedlaethol dan y ddaear.

Bydd y datblygiad yn galluogi’r Grid Cenedlaethol i fwrw ‘mlaen â’i gynlluniau i danddaearu 3.4km o wifrau sydd ar hyn o bryd yn croesi dros yr aber.

 
Mae aber y Ddwyryd un un o bedwar safle trwy Gymru a Lloegr fydd yn elwa trwy brosiect Darpariaeth Effaith Weledol y Grid Cenedlaethol a ariennir gan Ofgem er mwyn lleihau effaith weledol isadeiledd trydan mewn Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol. Bydd y gwaith tanddaearu yn golygu y gellir cael gwared â deg o beilonau trydan sydd wedi bod yn anharddu’r aber ers eu codi ym 1966 i drawsyrru trydan o orsaf bŵer niwclear Trawsfynydd.
 
Bydd ceg y twnnel i danddaearu’r gwifrau mewn adeilad pen twnnel wedi ei leoli oddi ar yr A496 i’r gogledd o anheddiad bychan Llandecwyn. Bydd lleoliad yr adeilad ar droed bryniau amgylchynol serth, yn ogystal â’i ddyluniad sensitif fydd yn cydweddu â’r tirlun, yn lleihau effaith weledol y datblygiad.
 
Gan fod y datblygiad yn pontio dau Awdurdod Cynllunio, bydd caniatad cynllunio ar gyfer adeilad pen twnel ar ben gorllewinol yr aber yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ar yr 16eg o Orffennaf 2020. Nid yw’r twnel ei hun yn ddibynnol ar ganiatad cynllunio gan y’i caniateir dan y Ddeddf Trydan 1947/57.Yn gysylltiedig â’r cais, ymgynghorwyd gyda’r holl sefydliadau amgylcheddol ac archaeolegol priodol a gadarnhaodd na fyddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar y dirwedd.
 
Disgwylir dechrau ar y gwaith yn 2021 a bydd yn cymryd 5 mlynedd i’w gyflawni, gyda chyfran o’r gwaith yn cael ei ymgymryd gan gontractwyr lleol. Mae’r Cynghorydd lleol, Gareth Thomas yn croesawu penderfyniad heddiw:
 
“Dwi’n falch i gefnogi’r prosiect yma nid yn unig am y budd economaidd amlwg ond hefyd am y budd gweledol. Mae aber yr afon Ddwyryd yn un o’r mannau harddaf yng Nghymru ond ar hyn o bryd mae craith amlwg ar draws yr aber a’r Penrhyn. Fydd y prosiect yn harddu'r ardal yn sylweddol yn bennaf er budd trigolion lleol ond hefyd i ymwelwyr”

 

Effaith drawsnewidiol


 
Meddai Chris Baines, Cadeirydd Grŵp Rhanddalwyr Ymgynghorol annibynnol sy’n cynghori’r Grid Cenedlaethol ar brosiect DEW:
“Rwyf wrth fy modd ein bod, yn dilyn y penderfyniad pwysig hwn, gam arall yn agosach at gael gwared â’r llinellau pŵer yma. Bydd yr effaith yn drawsnewidiol, a bydd pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gallu mwynhau ysblander naturiol aber y Ddwyryd am y tro cyntaf ers cenedlaethau. Mae’r prosiect hwn yn ffrwyth pum mlynedd o waith tîm ac ymgynghori rhwng y Grid Cenedlaethol, rhanddalwyr lleol a rhyngwladol, ac yn arbennig y gymuned leol. Byddwn yn awr yn disgwyl a gobeithio am ganlyniad cadarnhaol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd pan fyddant yn ystyried y cynigion ar Orffennaf yr 16eg.”
Meddai Michelle Clark, Rheolwr Prosiect DEW y Grid Cenedlaethol:
“Rydym yn hynod falch fod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi cymeradwyo’r cais cynllunio ar gyfer ein cynigion i leihau effaith weledol 3 cilomedr o wifrau trydan dros aber y Ddwyryd. Dyma garreg filltir bwysig o ran cynnydd y prosiect a hoffem ddiolch i Awdurdod y Parc am y cyngor adeiladol a ddarparwyd trwy gydol y broses. O’r dechrau un, dylanwadwyd ein cynigion gan ein rhanddalwyr, ac yn awr disgwyliwn am benderfyniad Cyngor Gwynedd ar Orffennaf yr 16, 2020 ynghylch y rhan o’r prosiect sydd o fewn eu hardal hwy.”
 
Ar ran Awdurdod y Parc Cenedlaethol dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, Y Cyng. Elwyn Edwards:
 
“Tra bod rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i gynlluniau peirianneg o’r natur yma mewn ardal ddynodedig, rydym yn falch o allu cefnogi’r cynllun hwn fydd yn y pen draw yn cyfrannu at welliant sylweddol o ran cymeriad y dirwedd ac amwynder gweledol aber yr afon Dwyryd.”