Theatr Genedlaethol Cymru: Merched Caerdydd/Nos Sadwrn o Hyd
Trosolwg
Pryd: 19/03/2019 - 20/03/2019
Amser: 07:30 pm - N / A
Lleoliad: Pontio
Gwybodaeth gyswllt
Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQGwefan: http://tickets.pontio.co.uk/Online/19Merch
E-bost: danfonwch e-bost
Ffôn: 01248 38 28 28
Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Merched Caerdydd gan Catrin Dafydd
Caerdydd yw cartref Cariad, Liberty ac Awen. Er eu bod nhw’n troedio llwybrau gwahanol iawn i’w gilydd, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin na’u dinas. Dyma dair o ferched ifanc, disglair ac, efallai, annisgwyl y Gymru gyfoes sy’n ceisio gwneud synnwyr o’u bywydau blêr. Merched sy’n ymrafael â’u gorffennol wrth geisio llywio’u dyfodol. Ond a fydd newid yn bosib? Neu a ydi eu ffawd eisoes wedi’i benderfynu?
Nos Sadwrn o Hyd gan Roger Williams
Wedi i Take That chwalu perthynas Lee a Matthew mewn clwb nos yn y brifddinas, mae Lee yn cymryd camau cynnar, melys ar lwybr carwriaeth newydd. Am gyfnod byr mae bywyd yn fêl, ond ar ôl bob nos Sadwrn daw realiti oer bore Sul. Ac fel mae Lee’n darganfod, does dim byd yn para am byth.
14 +
Bydd modd i’r di-Gymraeg ddilyn y perfformiad gydag ap Sibrwd. Manylion: theatr.cymru