Terra Firma

Trosolwg

Pryd: 24/04/2018

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Theatr Bryn Terfel, Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: http://pontio.co.uk

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Coreograffi gan Caroline Finn, Marcos Morau a Mario Bermudez Gil.

Mae Terra Firma yn adrodd straeon sy'n deillio o'r tir lle rydym yn adeiladu ein cymunedau;

Mae The Green House yn dod â’r tu allan i mewn. Ar set deledu o fath Wes-Anderson, mae’r sêr yn sownd mewn dolen ddiddiwedd. Yn drawiadol o brydferth ac yn llawn cymeriad.

Mae Atalaÿ yn dŵr gwylio y gellir gweld tiroedd pell ohono i bedwar ban. Mae'n ddawns heintus y dylanwadwyd arni gan gynhesrwydd Môr y Canoldir.

Tirwedd anial yw Tundra lle mae creadigrwydd hynod fodern, sy’n adleisio dawnsiau gwerin a chwyldro Rwsia, yn ffrwydro’n fyw.

Mae'n cynnwys sgwrs ar ôl y sioe

Angharad Harrop: Lle - Wal Wen Pontio, ar ôl Terra Firma
Mae cynllun ‘bydi dawns’ Creu Cymru yn creu partneriaeth rhwng artist dawns annibynnol a theatr neu ganolfan gelfyddydol. Mae'r ffilm Lle, gan y ddawnswraig Angharad Harrop, yn mynd â'r gynulleidfa ar daith i chwilio am fannau cudd Pontio trwy gyfrwng dawns, ffilm a sain. Wrth archwilio lleoedd a'r hyn a welir, mae'r ffilm chwareus hon yn cwestiynu ein persbectif ac yn ein galluogi i weld pensaernïaeth Pontio o onglau newydd.

Nos Wener 24 Ebrill
7.30pm
Theatr Bryn Terfel
£14/£12 gostyngiadau